Mae hi’n denau ac yn hardd yn ei boob-tube, sgert dynn, a bŵts rhidensog. I gyfeiliant alaw organ a churiad drwm, mae’n dawnsio i ganol y stafell, sy’n llawn pobol hardd. Mae hi’n sbïo arnaf, ei gwallt syth tywyll yn fframio’i hwyneb bach tlws; ffrinj trwm uwchben llygaid mawr prydferth. Mae’n canu am gael ei swyno gan ddirgelwch; rwy’n uniaethu â hi.
Mae hi’n gwisgo trowsus du tynn a blows â sgwariau melyn a du sy’n tynnu oddi ar ei hysgwyddau cain. Mae ei gwallt wedi’i gribo’n ôl mewn bun, a chan fod y sgrin nawr yn lliw llawn, medraf weld ei llygaid mawr brown melfedaidd yn well. Mae’n symud ei chorff ystwyth o un ystum dengar i’r llall. Yna, mae’n bwrw’r llawr a’i oleuo oddi tani. Waw!
Gaeaf 1985 oedd hi, a minnau yn chwech oed. Doeddwn i ddim yn siŵr beth oeddwn i’n ei deimlo tuag at Diana Ross, ond roeddwn i’n sicr yn teimlo rhywbeth. Hoffwn gwrdd â hi, dal ei llaw, ac eistedd hefo hi o dan y goeden geirios yn yr ardd gefn; braf iawn oedd eistedd oddi tani pan oedd hi’ blodeuo. Dyna lle roeddwn yn mynd hefo Elvis, fy ffrind anweladwy.
Roedd yn gyfnod mwy diniwed yr adeg hynny ac felly, fel mae Anne Frank yn sôn yn ei dyddiadur (yn y fersiwn heb ei dorri), mi roeddwn yn rhydd i archwilio’r teimladau hyn, heb unrhyw amheuaeth, a dw i’n falch iawn o hynny. Roeddwn yn gwybod, felly, fy mod yn ddeurywiol cyn i mi erioed glywed y gair!
Fodd bynnag, roedd llawer iawn o ’mhrofiadau eraill yn fwy dryslyd a heriol wrth i mi – dro ar ôl tro – syrthio tu hwnt i ddisgwyliadau cymdeithas, a ffeindio fy hun yn destun syndod, ac weithiau dirmyg.
Cyfrol curiadau
Ar hyd y blynyddoedd, rwy’ wedi synfyfyrio ar y profiad uchod, ynghyd â llwythi o brofiadau eraill esoterig yn ymwneud â fy hunaniaeth, rhywedd a rhywioldeb.
Des i i’r casgliad na fydda i byth yn ‘perthyn’ yn iawn, na chwaith yn rhan o unrhyw griw poblogaidd – hyd yn oed y rhai ymylol. Ar ôl hynny, des yn gyffyrddus yn fy nghroen, sy’n braf o deimlad. Beth sydd hefyd yn braf yw cael rhannu’r profiadau hefo eraill, gan obeithio y bydd o fudd i rywun.
Felly anrhydedd oedd cael hel fy mhrofiadau at ei gilydd a chreu darn creadigol i’r blodeugerdd LHDTC+, Curiadau. Mae’r darn sgwennais i’n amrwd, ac fel y llenor a’i greodd, dydy hi ddim yn gwisgo’r dillad iawn (trosiadau), nac ychwaith wedi dysgu sut i gwisgo colur (cynghanedd nac unrhyw dechneg barddol arall). Mae hi hefyd yn ffeithiol yn hytrach na’n ffuglennol, ac nid oes dim byd amdani yn gweddu â’r gwead na’r feddylfryd Gymreig!
Ond i mi, efallai taw dyna pwynt y darn. Felly hefyd fy ngwaith yn gyffredinol – llenwi’r gwagle hefo… rhywbeth; achos mae’n debyg iawn y bydd o leiaf un person arall wedi cael meddyliau a phrofiadau tebyg, ac mae hi’n gallu bod yn gysur darllen rhywbeth sy’n gwneud i’ch profiadau deimlo’n llai od. Ymhellach, i mi yn sicr, mae’r ffordd o ddweud yn haws i mi ei deall – dyma’r union fath o beth yr hoffwn innau ei ddarllen.
Crychdon Cranogwen
Rwy’ wedi bod yn ffyrnig o brysur ers dechrau’r flwyddyn, a dim ond nawr dw i’n dechrau cael rhyw drefn ar y tasgau sydd gen i ar y gweill. A minnau nawr yn dechrau o ddifrif ar brosiect braf am un o gerddi llai adnabyddus Cranogwen, daw atgof hwylus o’r llynedd yn ôl i fy meddwl.
‘Nôl ym mis Tachwedd, es i draw i Pontio ym Mangor i gyflwyno fy ymson/ysgrif/cerdd Dyrnu fatha bachgen, mewn digwyddiad arbennig – hefo balwns ‘Curiadau’ a cherddoriaeth / barddoniaeth / gair llafar oedd wir at fy nant.
Gwrandewais â diddordeb ar gyflwyniadau’r cyfranwyr eraill. Mwynheuais yn arw un darn ffuglennol gan Non Hughes, sef Y Cylch Darllen. Heb ei sbwylio fo i unrhyw un sydd heb gael cyfle i’w ddarllen eto (ond lle ydach chi wedi bod?!), mae Buddug yn ffeindio copi o Curiadau ond mae’n wag – dydy hi ddim wedi cael ei sgwennu eto. Felly does dim byd iddi ei gyflwyno i’r cylch darllen ceidwadol, ond mae’n benderfynol o’i lenwi, felly, ac mae’n torchi llewys i sgwennu.
Mae yna rywbeth am y darn yma sy’n aros yn y cof. Dw i’n teimlo’n emosiynol – efallai oherwydd taw dyna mae Curiadau yn gwneud – llenwi bwlch y tudalennau gwag; ond mae’r elfen ‘meta’ yn cryfhau’r neges rywsut.
A ches i gwrdd â Non a’i phartner ar ddiwedd y sesiwn, a chael sgwrs hyfryd hefo nhw. Mi roedden nhw wedi bod draw i gerflun Cranogwen, ac wedi rhoi copi o Curiadau yn llaw Cranogwen (roeddwn wedi gweld hyn ar y cyfryngau cymdeithasol ac wedi chwerthin!).
Yna, esbonion nhw eu bod nhw wedi ei wneud am dipyn o hwyl, ond wedyn wedi teimlo braidd yn emosiynol, gan fod Cranogwen yn fardd allweddol o ran sgwennu ar y thema yma, ac yn wir mae ei cherdd Fy ffrynd yn y gyfrol.
Mae crychdonnau Cranogwen yn parhau i greu patrymau ar wyneb dŵr ein cymdeithas heddiw, gan ddenu ein sylw a’n hannog i greu ein patrymau ein hunain.
Adwaith cadwyn
A nawr, wrth i wyliau’r Pasg ddod â seibiant braf i fy amserlen, a’r haul trwy’r cymylau yn cynhesu’r cae o flaen y tŷ ddigon i mi gael rhoi’r crogwely rhwng y coed a mynd ene i ddarllen, dw i am fynd ati o ddifrif i bori’r gyfrol hon, ynghyd â’r holl lyfrau eraill sydd ar fy rhestr ‘i’w ddarllen’!
A braf yw cael gwybod hefyd fod cynlluniau ar y gweill i’w chyfieithu. Parhau, felly, fydd y gyfrol arbennig hon i gyfleu’r profiadau unigryw a lledaenu’r negeseuon – mewn curiadau o bob traw ac mewn enfys o lleisiau!