Yn rhan o gynllun gwerth £11m, bwriad Llywodraeth Cymru gydag ARFOR Dau yw targedu’r pedair sir sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg i hybu entrepreneuriaeth a datblygu’r economi.
Cafodd ymgyrch gwerth £300,000 Bwrlwm ARFOR ei lansio er mwyn annog busnesau yng nghadarnleoedd y Gymraeg – Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin – gan sicrhau bod busnesau’n ffynnu ac yn darparu cyfleoedd gyrfa i bobol ifanc.
Bydd Bwrlwm ARFOR yn darparu cymorth i gwmnïau a busnesau, mentrau a siopau lleol, gyda miliynau o bunnoedd ar gael.
Y nod yw creu cyfleoedd i bobol ifanc a theuluoedd, gan eu sicrhau bod modd aros neu ddychwelyd i’w cymunedau gan gynyddu’r cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg bob dydd.
Mae hefyd yn rhan o strategaeth iaith Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, sy’n anelu at weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Cwmni ymgynghori Lafan sy’n rhedeg y prosiect, ac fe fydd yn parhau tan fis Mawrth 2025.
Y Gymraeg yn fantais i fusnesau
Mae Zoe Pritchard, Prif Ymgynghorydd y prosiect, yn anelu at gefnogi cymunedau yn y siroedd sy’n gadarnleoedd y Gymraeg, gan ddefnyddio’r Gymraeg fel mantais i fusnesau.
“Rydyn ni eisiau creu bwrlwm o gwmpas y defnydd o’r Gymraeg mewn amgylchedd busnes neu fasnachol, a dangos sut y gall yr iaith helpu busnesau i ffynnu a darparu gyrfaoedd i’n pobol ifanc fel nad ydyn nhw’n teimlo bod yn rhaid iddyn nhw symud i ffwrdd,” meddai.
“Ei nod yw dathlu’r Gymraeg a dangos nad yw’r air amgueddfa, ond yn rhywbeth sydd â manteision a pherthnasedd gwirioneddol i fusnesau yma ar draws y pedair sir.
“Rydyn ni eisiau creu digon o sŵn a bwrlwm i ysgogi trafodaethau da ynghylch annog busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg, a’i bod o fudd gwirioneddol i fusnesau ar draws gwahanol sectorau, oherwydd bod pobol sy’n ymweld â Chymru eisiau teimlo eu bod wedi dod i rywle gwahanol, rhywle gyda’i hiaith, ei hunaniaeth a’i diwylliant ei hun.
“Rydym hefyd yn canolbwyntio ar arddangos y busnesau niferus ar draws y pedair sir sy’n gwneud defnydd da o’r iaith ac sy’n ei defnyddio gyda hyder a balchder.
“Maen nhw’n cynnig gwasanaeth gwych, maen nhw’n cyflogi staff sy’n siarad Cymraeg, ac i’r sector twristiaeth mae hynny’n bwynt gwerthu unigryw.
“Y ffactor arall yw, os nad ydyn ni’n defnyddio’r Gymraeg neu os nad yw’r iaith yn cael ei gweld na’i chlywed mewn siopau a busnesau ar draws ardal ARFOR, yna efallai ein bod ni ar ein colled fel economi.”
ARFOR Dau
Mae cynllun ARFOR Dau, gafodd ei lansio yn 2022, yn olynu rhaglen ARFOR 2019 er mwyn parhau i gryfhau a hyrwyddo cadernid economaidd y Gymraeg.
Mae’r cynllun yn rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru.
“Nod y prosiect yw arddangos y manteision economaidd y gall siarad Cymraeg a hyrwyddo’r iaith mewn busnesau eu cael,” meddai Zoe Pritchard.
“Mae’n ymwneud â chroesawu pobl leol a chydnabod yr hunaniaeth honno a’r dystiolaeth yw bod ymwelwyr sy’n ymweld â Chymru yn gwerthfawrogi’r ffaith ei bod yn wlad a diwylliant sydd â’i hunaniaeth a’i hiaith ei hun.”