Fel rhan o ymgyrch newydd, Trawsnewid Bywydau, mae Prifysgolion Cymru yn galw ar bobol i rannu sut mae mynychu’r brifysgol wedi cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.

Mae mynd i’r brifysgol ymhlith y profiadau mwyaf pleserus a gwerthchweil mewn bywyd i lawer o bobol, gyda’r cyfle i fod yn annibynnol, gwneud ffrindiau, meithrin gwybodaeth a magu hyder.

Yma, mae pedwar o raddedigon o brifysgolion Cymru yn rhannu eu profiadau o’u hamser yn y brifysgol, a’r effaith gadarnhaol gafodd addysg uwch ar eu bywydau.


Alys Rees Jones, Swyddog Marchnata Digidol i Llwyddo’n lleol gyda Menter a Busnes

Ar ôl cwblhau ei harholiadau Lefel A yn Ysgol y Berwyn yn y Bala, doedd dim amheuaeth gan Alys mai’r brifysgol oedd y cam naturiol nesaf iddi. Bu’n ffodus o gipio Gwobr Non Lavro – Myfyriwr Busnes Gorau’r Flwyddyn 2022 yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, a heddiw mae’n ymfalchïo yn ei chyfnod yn y Coleg ger y Lli…

“Doeddwn i heb ystyried unrhyw beth arall, a dweud y gwir. Er hyn, dw i’n cofio meddwl pa mor anodd oedd dewis lle oeddwn i eisiau mynd – ai Aber, Lerpwl neu Gaerdydd, ond dw i’n ffodus iawn fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir a chael amser anhygoel yno.

Roedd dewis fy ngradd, sef Busnes a Rheolaeth, fodd bynnag, yn dipyn haws – achos mi oeddwn yn mwynhau pob elfen o astudio Busnes i Lefel A ac yn hoffi’r ffaith na fuaswn yn gaeth i unrhyw broffesiwn drwy astudio pwnc mor eang – hynny, a meddwl bod gradd mewn ‘Business and Management’ yn swnio reit cŵl, a dweud y gwir!

Doedd gen i chwaith ddim syniad be’ oeddwn yn mynd i’w wneud fel gyrfa, felly roedd tair blynedd ychwanegol i feddwl yn swnio’n grêt i fi!

Dw i’n lwcus iawn fy mod wedi gallu cyfarfod ffrindiau oes o bob cwr o Gymru, a’r profiad o fyw yn nhŷ ‘Manshyn’ gyda deg merch wedi golygu ein bod wedi ffurfio cyfeillgarwch arbennig. Yn eu cwmni nhw, rydw i wedi gorfod dioddef acen y gorllewin (!), wedi perffeithio sut i goginio pasta, ac wedi aros oriau i bawb fod yn barod ar noson allan!

Mae’r astudiaethau yn y brifysgol hefyd wedi fy siapio fel unigolyn ifanc drwy ddysgu cydbwysedd bywyd a gwaith, pwysigrwydd ymgeisio am gyfleoedd newydd sydd allan o fy ffiniau cyfforddus, peidio ag ofni gofyn am gymorth, a bod yn barod i ddysgu gan bobol fwy gwybodus na fi. Y peth sy’n gyffredin am y ddau uchod yw’r effaith gadarnhaol mae’r brifysgol wedi’i chael ar fy hunanhyder drwy fy mrwdfrydedd i ddysgu am eraill, a datblygu fy sgiliau personol yn gyson.

Heb fy amser yn y brifysgol, mi fuaswn yn dlotach o ran fy ffrindiau, atgofion a’r hangofyrs! Mae mynd yno nid yn unig yn agor drysau, ond mae hefyd yn rhwydwaith o gysylltiadau proffesiynol sydd yn gallu bod yn gymorth mawr wrth symud ymlaen yn dy yrfa – dw i wastad wedi teimlo bod mynd i’r brifysgol wedi rhoi rhwyd arall o gefnogaeth i mi o ran pobol sydd eisiau dy weld yn llwyddo.

Os ydych yn unigolyn Chweched Dosbarth ac yn ansicr o’ch dyfodol – 100% cerwch amdani! Dw i’n edrych yn ôl ar fy amser yn y brifysgol fel y tair blynedd orau erioed!”


Siwan Mason, Swyddog Ieuenctid yr Urdd yng Nghaerdydd

Yn wreiddiol o Lanfairpwll, Ynys Môn ond bellach yn byw yn y ddinas, er nad oedd gan Siwan unrhyw syniad o lwybr gyrfa, roedd hi’n sicr yn ymwybodol ei bod hi eisiau profi bywyd fel myfyriwr ac astudio drwy’r Gymraeg mewn prifysgol yng Nghymru…

“Fel un oedd eisiau bywyd yn y ddinas a hedfan y nyth, Caerdydd oedd yn fy siwtio orau. Penderfynais ymgeisio i wneud gradd BA yn y Gymraeg gyda Newyddiaduraeth yn y brifysgol. Dw i’n berson cymdeithasol sy’n hoff o sgwrsio a chyfarfod pobol newydd, felly mi roedd y brifysgol yn gyfle gwych i wneud hynny.

O edrych yn ôl ar fy mhrofiad yn y chweched, aeth y rhan fwyaf ohonom i’r brifysgol ac mi oedd mynd yno’n dipyn o trend, gyda llwybrau gyrfaoedd eraill yn cael eu diystyru i raddau, a llawer yn rhoi’r pwysau ar gael eu graddau targed.

Dim ond drwy (an)lwc roedd fy mhrofiad i fel myfyrwraig dipyn yn wahanol i’r rhai yn y gorffennol, gan fy mod wedi ei brofi drwy’r pandemig COVID-19. Fel un sy’n ffafrio cyfathrebu wyneb-yn-wyneb, roedd dysgu ar-lein o ystafell wedi achosi diffyg cymhelliant i raddau. Ond yn gyfangwbl, mae’r brifysgol wedi bod yn garreg filltir gadarnhaol iawn.

Diolch i’r brifysgol, cefais y cyfle i astudio modiwlau amrywiol, a thrwy brofiad gwaith gyda chwmni marchnata, ac interniaeth fel cyfieithydd gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, daeth cyfle i fod yn fentor ar gyfer myfyrwyr ac ysgrifennu erthyglau ar gyfer Tafod, Gair Rhydd, Cwmni Marchnata, ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Mae symud i mewn i’r neuaddau preswyl yn medru bod yn brofiad hynod gyffrous – ond brawychus. O ddysgu sut i orfod gwneud siopa bwyd ar eich liwt eich hun, i orfod defnyddio peiriant golchi Circuit am y tro cyntaf, mae’r brifysgol wedi bod yn brofiad unigryw i fagu sgiliau bywyd annibynnol. Dw i wedi gorfod rhoi fy big-girl pants ymlaen, ac mae’r trawsnewidiad o fod yn blentyn, i fyfyriwr, i weithiwr proffesiynol yn sioc i’r system, a dweud y lleiaf! Yn sicr, fuaswn i ddim yr un person pe bawn i wedi aros adref yn y gogledd gyda fy rhieni!

Mae mynd i’r brifysgol yn llwyr ddibynnol ar beth yw eich blaenoriaethau. Mae llawer mwy o gyfleoedd i dderbyn cymhwyster neu radd drwy’r gweithle bellach, a gwneud hynny wrth dderbyn cyflog. Pwy a ŵyr, efallai bod ymgymryd ag ymagwedd ymarferol yn y gweithle, yn hytrach na dysgu traddodiadol drwy asesiadau ac arholiadau yn fwy apelgar tuag at bobol ifanc heddiw?”


Elain Gwynedd, Llywydd Undeb Myrfyrwyr Cymraeg Aberystwyth

A hithau’n unigolyn brwdfrydig arall o Fôn fentrodd dros bont Menai, mae Elain Gwynedd, Llywydd UMCA, wedi’i hailethol yn Llywydd ar gyfer 2024/25. Yma, mae’n adrodd hanes ei chyfnod ym Mhantycelyn ar ei newydd wedd…

“Nid fi oedd y cyntaf o ‘nheulu i fynd i’r brifysgol, gan fod Mam wedi astudio ym Mhrifysgol Bangor – testun tynnu coes rhwng y ddwy ohonom, gan ei bod hi’n amlwg yn ffafrio Bangor, a minnau’n dadlau mai Aberystwyth yw’r brifysgol orau!

Roeddwn i’n eithaf sicr fy mod i eisiau mynd i’r brifysgol, a hynny’n bennaf am fy mod i wedi clywed am yr holl brofiadau roedd myfyrwyr yn eu cael trwy eu hundebau Cymraeg, megis cystadlu yn yr Urdd, tripiau Chwe Gwlad, Dawns ac Eisteddfodau Rhyng-golegol a.y.b. Ond roedd hi’n gyfnod hanesyddol yn y brifysgol, gyda Phantycelyn wedi brwydro i ailagor ei ddrysau i fyfyrwyr Cymraeg.

Doedd gen i ddim llwybr gyrfa, ond mi oeddwn yn gwybod y byddai gradd yn y Gymraeg yn agor nifer o ddrysau. Heb y brifysgol, mi fyddai wedi bod yn amhosibl imi ymgeisio am rôl fel Llywydd UMCA. Mae gradd yn y Gymraeg wedi bod yn gymorth imi yn y swydd wrth lunio ceisiadau grant, adroddiadau i bwyllgorau a chyflwyno Cyfarfodydd Cyffredinol ym Mhantycelyn.

Mae fy hyder wedi cynyddu ers mynychu’r brifysgol, ac rwy’ wedi cael profiadau sy’n sylfaen gwerthfawr imi ar gyfer y dyfodol. Heb os, mae’r profiadau a’r cyfeillgarwch wedi fy siapio i fel unigolyn, ac eto rwy’n hynod ddiolchgar am hyn.

Cefais gyfle i fod yn Llysgennad Prifysgol i’r Coleg Cymraeg, ac yn sgil hyn bu imi fod yn ddigon ffodus o gael trafeilio o amgylch ysgolion uwchradd y gogledd er mwyn annog disgyblion i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Er bod ambell un yn dadlau bod y gost a ddaw yn sgil astudio’n y brifysgol yn arffwysol o uchel, ac y bydd yn faen melin o amgylch fy ngwddw am ddegawdau i ddod, fedrith neb roi pris ar y profiadau mae rhywun yn eu cael. Byddaf yn fythol ddiolchgar i Aberystwyth am hynny.”


Deio Owen, Is-lywydd y Gymraeg a Llywydd UMCC yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd

Dilyn ôl troed ei fam, ei dad, ei chwaer a’i frawd i’r brifysgol yn y ddinas oedd hanes Deio Owen, ac er nad oedd wedi penderfynu ar ei gwrs astudio tan yr ail flwyddyn yng Ngholeg Meirion Dwyfor, roedd wrth ei fodd yn ymddiddori ym myd gwleidyddiaeth, ac felly aeth amdani…

“Heb os nac oni bai, faswn i ddim y person ydw i rŵan oni bai am y brifysgol. Nid yr addysg yn unig sy’n bwysig yn ystod eich amser yn y brifysgol; mae’r cyfle i gyfarfod pobol o bob cwr o Gymru a’r byd, cyfrifoldebau, a rhyddid yn eich helpu i adnabod eich hun a gwneud be’ fynnoch.

Un o’r cyfleoedd gorau ges i gan y brifysgol oedd ysgoloriaeth i fynd i Batagonia am bedair wythnos fis Awst 2022. Roedd mynd i’r Wladfa yn agoriad llygad, a dw i’n dal i fod mewn cyswllt â rhai yno hyd heddiw. Tu hwnt i hynny, dw i wedi cael llwythi o gyfleoedd drwy ymwneud â’r Undeb, y GymGym, UMCC, y Waun Ddyfal… mae yna gymaint o bethau gwahanol i’w gwneud, a rhywbeth at ddant pawb.

Mae dod i’r brifysgol wedi taflu’r rhwyd yn ehangach o ran y bobol dw i bellach yn eu nabod ac yn eu galw’n ffrindiau. Mae’r elfen academaidd hefyd wedi helpu fy nealltwriaeth o bethau, yn enwedig sosioieithyddiaeth, sut beth yw’r Gymraeg yn y Gymru fodern, sut mae popeth wedi’i gysylltu, a pham bod pethau yn digwydd yn y byd yma sydd ohoni.

Wrth gwrs, dydi’r brifysgol ddim i bawb, ond i mi, dw i’n meddwl ei fod wedi bod yn gyfnod bythgofiadwy, efo llawer iawn o atgofion dros dair blynedd, a phrofiadau fydd yn gymorth mawr i mi ar gyfer y dyfodol.”


  • Mae ymgyrch Trawsnewid Bywydau yn rhoi cyfle i chithau rannu’ch stori. Felly, tybed beth yw eich hanes chi?