Mae Cyngor Sir Ynys Môn a Chanolfan Cynghori ar Bopeth (CAB) yr ynys wedi derbyn £250,000 i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.
Prosiect Gwella Gwydnwch Ariannol Trigolion Ynys Môn a’r Economi Llesiant sydd wedi derbyn y cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.
Mewn partneriaeth â Chyngor Ar Bopeth Ynys Môn, bydd Gwasanaethau Tai’r Cyngor yn defnyddio’r cyllid i leihau tlodi a chaledi drwy ddarparu cyngor ar gynhwysiant ariannol a rheoli dyledion i drigolion yn y gymuned.
Cyngor a chymorth am ddim
Dros yr wythnosau nesaf, bydd cymorth yn cael ei ddarparu drwy ddefnyddio mannau cymunedol sydd eisoes yn bodoli.
Bydd hyn yn cynnwys cymorth penodol ar gyfer trigolion mewn trafferthion.
Bydd digwyddiadau ychwanegol a gweithdai yn cael eu trefnu yn ogystal i godi ymwybyddiaeth am y gwahanol gymorth sydd ar gael i aelwydydd, gyda chyfraniad gan bartneriaid megis Dŵr Cymru, Cymru Gynnes, ECO4 a NYTH.
Bydd y cymorth a’r cyngor ar gael yn rhad ac am ddim, a bydd yn gwbl gyfrinachol.
Bydd yn cynnwys:
- gwybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i helpu gyda biliau dŵr/nwy a thrydan a sut y gall pobol sy’n hunanynysu neu sydd methu mynd i fan talu roi credyd yn eu mesurydd rhagdalu
- gwybodaeth am fanciau bwyd a sut y gall pobol heb incwm neu bres i brynu bwyd eu defnyddio
- cyngor ar gynilo
- gwybodaeth am sut i roi gwybod am newidiadau neu reoli ceisiadau Credyd Cynhwysol ar-lein
Cyrraedd cymunedau gwledig
Llinos Medi sy’n arwain ymateb yr awdurdod i’r argyfwng costau byw.
“Mae’r heriau niferus yn gysylltiedig â’r argyfwng cenedlaethol hwn yn effeithio ar deuluoedd, busnesau a thrigolion – hen ac ifanc – ar ein hynys,” meddai.
“Bydd y cyllid yr ydym ni wedi’i sicrhau yn ein galluogi i gyrraedd ein cymunedau gwledig drwy fod yn fwy gweledol yn y cymunedau hynny er mwyn taclo tlodi.
“Byddwn yn dal ati i weithio’n agos efo’n partneriaid pwysig yn CAB Ynys Môn i gynnal sesiynau ymgysylltu a chyfarfodydd un-i-un i gefnogi unigolion ac i fynd i’r afael â’r caledi ariannol y maent yn eu hwynebu a thaclo’r argyfwng costau byw.”
‘Effaith ddifrifol’
“Rydym ynghanol argyfwng costau byw cenedlaethol. Mae hyn yn cael effaith ddifrifol ar nifer o drigolion ac mae ein tîm Cynhwysiant Ariannol a staff Canolfan J. E. O’Toole, Caergybi wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw am gymorth,” meddai Ned Michael, Pennaeth Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Ynys Môn.
“Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i ddarparu gwell gwasanaeth i gymunedau gwledig Ynys Môn,” meddai Jackie Blackwell, Prif Weithredwr Cyngor Ar Bopeth Ynys Môn.
“Rydym wrthi’n gweithio ar y cyd efo Tîm Cynhwysiant Ariannol y Cyngor i drefnu mentrau cymunedol a sesiynau un-i-un ar gyfer trigolion Ynys Môn.”