Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydweithio’n dda â’u partneriaid mewn “amgylchiadau anodd” i letya a chefnogi Wcreiniaid fu’n ffoi rhag y rhyfel, yn ôl adroddiad newydd gan Archwilio Cymru.

Fis Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynlluniau i ganiatáu i’r rhai oedd yn ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig.

Yn dilyn y cyhoeddiad hwn, fe benderfynodd gweinidogion Cymru y byddai Llywodraeth Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am Wcreiniaid fel un o uwch-noddwyr ‘Cartrefi i Wcráin’, oedd yn golygu nad oedd angen i bobol gael eu paru â lletywr cyn cael fisa.

Ond fe gyrhaeddodd mwy o bobol na’r disgwyl trwy gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru, ac arweiniodd gormod o optimistiaeth ynghylch pa mor hir y byddai’r rhai oedd yn cyrraedd yn aros yn eu llety cychwynnol at gostau uwch.

Trwy gadw’r cynllun uwch-noddwr ar agor tan fis Mehefin 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru flaenoriaeth i gefnogi’r 1,000 o bobol ddywedon nhw y bydden nhw’n eu helpu yn ystod cyfnod cychwynnol yr ymateb brys.

Roedd hyn er gwaetha’r posibilrwydd y byddai nifer sylweddol uwch o Wcreiniaid yn cyrraedd mewn gwirionedd, fel ddigwyddodd yn y pen draw.

Erbyn mis Hydref y llynedd, fe fu’r cynllun uwch-noddwr yn gyfrifol am 3,232 (45%) o’r 7,118 o newydd-ddyfodiaid Wcreinaidd â lletywr yng Nghymru neu drwy’r cynllun.

Cydweithio’n dda

Mae’r adroddiad wedi canfod, ar y cyfan, fod Llywodraeth Cymru a’u partneriaid wedi cydweithio’n dda i helpu Wcreiniaid i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus prif ffrwd, er y bu rhai problemau’n ymwneud â mynediad at ofal iechyd.

Ers cyfnod cychwynnol yr ymateb, mae Llywodraeth Cymru a’u partneriaid wedi cryfhau eu ffocws ar gynorthwyo Wcreiniaid i symud allan o Ganolfannau Croeso a llety cychwynnol arall.

Pan oedd yr ymateb ar ei anterth ym mis Hydref 2022, roedd 32 o safleoedd ar agor, gan letya 1,840 o bobol.

Erbyn mis Ionawr eleni, roedd y ffigwr wedi gostwng ar bedwar safle, gan letya 128 o bobol.

Y bwriad yw cadw dau safle ar agor yn 2024-25.

Cost o £29.2m

Amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru yn wreiddiol y byddai’n costio oddeutu £18m i letya 1,000 o Wcreiniaid mewn Canolfannau Croeso.

Fe wnaeth mwy o newydd-ddyfodiaid ac arosiadau hirach na’r disgwyl mewn Canolfannau Croeso a llety cychwynnol arall achosi costau i gynyddu ar y cyfan, ac fe roddodd hyn bwysau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus ehangach.

Roedd costau llety’n amrywio’n sylweddol, ond gwelodd archwilwyr dystiolaeth fod Llywodraeth Cymru’n ceisio sicrhau gwerth am arian.

Gwariodd Llywodraeth Cymru £61m ar yr ymateb yn Wcráin yn ystod 2022-23, gan gynnwys costau llety a chostau eraill.

Gan ystyried cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae Archwilio Cymru’n amcangyfrif fod y gost net i Lywodraeth Cymru’n £29.2m o leiaf.

Mae costau llety is yn golygu bod Llywodraeth Cymru’n disgwyl gwario £35.7m neu lai yn 2023-24, gyda’r rhan fwyaf yn cael ei ariannu o’u cyllideb eu hunain.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyllidebu £4.5m ar gyfer 2024-25, heb gynnwys cymorth digartrefedd i lywodraeth leol.

Mae’r sefyllfa tymor hir ar gyfer Wcreiniaid yn dibynnu ar ddatblygiadau a phenderfyniadau ar lefel y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

“Ymdrechion sylweddol”, ond “gwersi pwysig ar gyfer y dyfodol”

“Rwy’n cydnabod yr ymdrechion sylweddol y bu’n rhaid eu gwneud wrth i wasanaethau cyhoeddus Cymru a’u partneriaid ymateb i letya a chefnogi pobol a fu’n cyrraedd o Wcrain,” meddai Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol.

“Roedd hyn i gyd ar adeg pan fo gwasanaethau wedi bod yn ymgodymu â gwaddol y pandemig a phwysau ehangach ar adnoddau.

“Bydd angen i’r gwaith barhau yng nghyd-destun prosesau penderfynu ehangach Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chwrs digwyddiadau yn Wcráin.

“Mae’n dda gallu myfyrio’n gadarnhaol ynghylch y modd y cafodd yr ymateb o dan gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru ei reoli ar y cyfan.

“Serch hynny, mae gwersi pwysig ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys ynghylch asesiad cynnar Llywodraeth Cymru o nifer y newydd-ddyfodiaid, y ffordd y bydden nhw yn cael eu lletya, a’r costau fyddai’n codi o’r ymateb.”