Mae Prifysgolion Cymru yn galw ar bobol i rannu sut mae mynd i’r brifysgol wedi newid eu bywydau.
Daw’r alwad fel rhan o ymgyrch newydd, Trawsnewid Bywydau, sy’n cael ei lansio heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 26) i ddathlu “pŵer trawsnewidiol” addysg uwch.
Gall astudio yn y brifysgol fod ymhlith y profiadau mwyaf pleserus a gwerthchweil mewn bywyd, gyda manteision o ran datblygu sgiliau, meithrin gwybodaeth, gwneud ffrindiau newydd, a byw’n annibynnol, yn ôl Prifysgolion Cymru.
Mae ennill gradd gan brifysgol yn y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn hwb sylweddol o ran cyflogau, lefelau cyflogaeth a rhagolygon gyrfa graddedigion gydol eu hoes, medd y sefydliad.
Fodd bynnag, y tu ôl i’r ystadegau mae pobol go iawn sydd â bywydau gwell o ganlyniad i fynd i’r brifysgol.
Dathlu’r manteision
Yn ôl yr Athro Paul Boyle, cadeirydd Prifysgolion Cymru, mae’r ymgyrch yn un bwysig wrth geisio denu cannoedd o filoedd o bobol ifanc i fynd i’r brifysgol cyn 2035.
“Mae Cymru’n wynebu heriau sylweddol o ran cyfranogiad, gyda llai o bobol ifanc deunaw oed o Gymru yn dewis gwneud cais i brifysgol nag ar unrhyw adeg yn y degawd diwethaf,” meddai.
“Mae dadansoddi annibynnol yn rhagweld y bydd Cymru angen 400,000 o raddedigion ychwanegol erbyn 2035, ac eto mae posibilrwydd gwirioneddol y bydd gennym garfannau o bobol ifanc â llai o gymwysterau na’u rhagflaenwyr uniongyrchol.
“Mae felly’n bwysicach nag erioed ein bod yn dathlu’r holl fanteision – personol a phroffesiynol – y gall mynd i brifysgol eu cynnig i unigolion.
“Mae’r penderfyniad i ddilyn addysg uwch yn fwy na dewis academaidd; mae’n llwybr sy’n newid bywyd ac yn agor drysau; mae’n ehangu gorwelion, ac yn rhoi’r pŵer i unigolion gyrraedd eu llawn botensial.
“Mae’r ymgyrch Trawsnewid Bywydau yn rhoi cyfle gwych i ni dynnu sylw at rai o’r unigolion ysbrydoledig hyn, a’n gobaith yw y bydd pobl, yn eu tro, yn cael eu cymell i rannu eu straeon eu hunain am sut mae’r brifysgol wedi trawsnewid eu bywydau.”