Mae Llywodraeth Cymru’n atgoffa rhieni am y grant Hanfodion Ysgol, sy’n gallu eu helpu gyda chostau gwisg ysgol, esgidiau, bagiau, dillad chwaraeon ac offer, a mwy.

Yn ôl y Llywodraeth, mae 88% o’r rhai sy’n gymwys ar gyfer y grant eisoes wedi ei hawlio.

Gall plant teuluoedd ar incwm is sy’n derbyn budd-daliadau penodol, y rhai sy’n ceisio lloches, a phlant mewn gofal hawlio £125 y flwyddyn i helpu gyda chostau ysgol.

Oherwydd y gost ychwanegol y gallai teuluoedd ei hwynebu pan fydd eu plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd, mae £200 ar gael i ddisgyblion sy’n mynd i mewn i Flwyddyn 7.

Gallai hefyd olygu cyllid ychwanegol i’r ysgol.

Gwneud cais

Dydy hi ddim yn rhy hwyr i wirio cymhwystra a gwneud cais am gyllid ar gyfer eleni, yn ôl y Llywodraeth.

Daw’r cyfnod ymgeisio i ben ar Fai 31.

Mae modd gwneud cais bob blwyddyn ar gyfer pob plentyn.

Mae disgyblion o bob math o leoliadau addysg yn gymwys, cyn belled â’u bod rhwng pump ac 16 oed.

Mae hyn yn berthnasol i ddisgyblion ym mhob ysgol a lleoliad, gan gynnwys ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion.

Sut mae’r arian yn helpu ysgolion?

“Rydych chi am i bob plentyn gael ei drin yr un fath, ac rydych chi am i bob plentyn gael yr un profiadau,” meddai Steffan Jones, Pennaeth Ysgol Gymunedol Trimsaran yn Sir Gaerfyrddin.

“Mae’r grantiau hyn yn helpu, fel y gall pob plentyn gymryd rhan a mwynhau ei amser yn yr ysgol, nid dim ond y rhai sy’n gallu fforddio hynny.”

Mae modd defnyddio’r grant i dalu am:

  • wisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau
  • gweithgareddau ysgol, fel dysgu offeryn cerddorol, dillad chwaraeon ac offer ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol
  • hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth, fel pennau ysgrifennu, pensiliau a bagiau

Hyd yn oed os yw plentyn eisoes yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim, mae dal angen gwirio cymhwyster i gael y Grant Hanfodion Ysgol a chyllid ychwanegol ar gyfer yr ysgol.

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i wirio a ydych chi’n gymwys ar gyfer y grant.