Mae’r newyddion y gallai’r cynlluniau gafodd eu rhoi o’r neilltu ar gyfer trydedd bont yn cysylltu Ynys Môn â thir mawr Cymru gael eu hatgyfodi, wedi cael ei groesawu.

Daw hyn ar ôl i Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth a Gogledd Cymru newydd Llywodraeth Cymru ddweud wrth raglen Sunday Supplement BBC Cymru y “gellid edrych eto” ar y cynllun i greu trydydd cysylltiad gafodd ei ohirio.

Mae rhai gwleidyddion wedi rhoi croeso cynnes i’w sylwadau “calonogol”, gyda rhai yn galw am “ymroddiad cadarn”, ac eraill yn dweud eu bod nhw’n “lecsiynol”.

Gwrando ar bobol ac arbenigwyr

Roedd Ken Skates, yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Dde Clwyd, wedi bod yn lleisio’i ddiddordeb mewn edrych eto ar nifer o gynlluniau trafnidiaeth ac adeiladu ffyrdd yn y gogledd.

Ond cyn bod unrhyw benderfyniadau’n cael eu gwneud, meddai Ken Skates, mae e eisiau “gwrando” ar yr hyn sydd gan bobol ac arbenigwyr i’w ddweud.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Cyngor Ynys Môn fynegi eu “siom” fod Caerdydd “wedi methu â deall yr heriau” sy’n cael eu hwynebu o ganlyniad i’r groesffordd dros y Fenai.

Wrth siarad yn ystod cyfarfod eithriadol o’r pwyllgor gwaith ddydd Iau, Chwefror 29, nododd Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn, fod y problemau’n fwy o lawer na “dim ond mater trafnidiaeth”, a bod yna botensial iddyn nhw greu “heriau a bygythiadau i ddiogelwch a bywydau”.

Ar adegau, meddai, mae’r ynys mewn perygl o gael “ei thorri i ffwrdd”, nid yn unig oddi wrth wasanaethau iechyd a brys, ond hefyd oddi wrth waith a sefydliadau addysg.

Mae trydedd bont yn “hanfodol”, meddai.

Ond wrth groesawu sylwadau Ken Skates, dywed ei fod yn “gam positif i’r cyfeiriad cywir”.

“Mae ein sefyllfa ni yma ar Ynys Môn yn unigryw i unrhyw ranbarth arall ledled Cymru, ac rydym yn dibynnu ar ddwy bont i’n cysylltu ni â’r tir mawr,” meddai.

“Rydyn ni wedi gweld yn ystod digwyddiadau diweddar nad yw’r sefyllfa bresennol yn wydn nac yn ddigon da.

“Yn y pen draw, mae hyn wedi gadael cymunedau wedi’u hynysu, busnesau’n aros yn yr unfan, ac mae wedi cael effaith enfawr ar weithwyr, ein pobol ifanc a theuluoedd.”

“Mae’n galonogol darllen bod y Gweinidog yn dweud ei fod yn bwriadu gwrando ar farn pobol a’r cynghorwyr sy’n cynrychioli ein cymunedau lleol.

“Mae’r neges gan Ynys Môn yn glir – mae trydedd bont dros y Fenai yn hanfodol er mwyn sicrhau gwytnwch a thwf economaidd ein hynys yn y dyfodol.

“Dw i’n edrych ymlaen at drafod hyn ymhellach efo’r gweinidog.”

‘Calonogol’

“Mae’r sylwadau cychwynnol hyn gan y gweinidog newydd yn galonogol,” meddai Dylan J Willims, Prif Weithredwr Ynys Môn.

“Mae gwytnwch a dibynadwyedd croesffordd y Fenai yn mynd ymhell tu hwnt i fuddion trafnidiaeth yn unig; mae’n fwy na dim ond cynllun ffyrdd ac mae gofyn edrych arno o fewn cyd-destun strategaeth hirdymor ehangach.

“Mae angen sicrhau y gall trigolion fyw eu bywydau o ddydd i ddydd, a chael mynediad at waith, addysg, iechyd a gwasanaethau brys.

“Mae angen sicrhau hefyd fod yna gyswllt economaidd efo ail borthladd prysuraf y Deyrnas Unedig yng Nghaergybi; o bersbectif twristiaeth yn ogystal â’n statws newydd diweddar fel Porthladd Rhydd a’n dyheadau i groesawu datblygu gorsaf bŵer newydd ar yr ynys.

“Wrth gwrs, mi fydden ni’n croesawu’r cyfle i gydweithio a thrafod hyn ymhellach efo Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol allweddol eraill.”

‘Newid rhethreg’

“Er bod hyn yn newid rhethreg gan Lafur Cymru, sydd i’w groesawu, mae yna ‘os ac oni bai’ o hyd, a does dim ymrwymiad cadarn i drydydd croesffordd mawr ei angen dw i wedi bod yn ymgyrchu drosto,” meddai Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn.

“Dw i’n hapus i gyfarfod â Mr Skates i glywed a yw e o ddifrif, a beth fydd y camau nesaf.

“Er enghraifft, mae’r sôn am fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a dyluniad da yn wych, ond beth mae’n ei olygu pan ddaw i amserlenni a rhawiau yn y ddaear?

“Os yw’n gofyn am arian, yna bydda i’n gwneud popeth allaf fi i weld a all Llywodraeth y Deyrnas Unedig helpu.

“Fel mae pawb yn ei wybod, bydda i’n gweithio ag unrhyw un er lles Ynys Môn.

“Ond ar hyn o bryd, does dim byd wedi newid yma.

“Mae angen trydedd bont arnom, ond does yna’r un ar y gorwel.

“Y cyfan alla i ei ddweud yn hyderus yw ei bod hi’n ymddangos fel pe bai newid meddwl wedi digwydd yng Nghaerdydd – ychydig iawn o gysur i Ynys Môn, ond gwell na’r gwaharddiad llwyr ar drydedd bont y llynedd.”

‘Newyddion gwych os yw’n ddiffuant’

“Mae’n newyddion gwych os yw’n ddiffuant, ac nid lecsiyna er mwyn adennill pleidleisiau ar ôl y trychinebau gafodd eu gadael yn sgil [Lee] Waters a [Mark] Drakeford,” meddai Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru ac Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn.

“Ond bydd angen cefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig arno, oherwydd fel sy’n nodweddiadol o Lafur, mae Llywodraeth Cymru wedi gwastraffu arian ddylen nhw fod wedi’i fuddsoddi mewn isadeiledd ar brosiectau gwagedd.”

Barn trigolion a gwella trafnidiaeth

“Dw i’n edrych ymlaen at gyfarfod â Ken yn ei rôl newydd, i gyfleu a thrafod safbwyntiau trigolion lleol ar wytnwch croesfannau’r Fenai, yn ogystal â gwella trafnidiaeth ar draws yr ardal gyfan,” meddai Ieuan Môn Williams, ymgeisydd seneddol Llafur dros Ynys Môn.