Mae dau arwydd stryd sy’n dangos enwau Saesneg yn unig yn mynd yn groes i Safonau’r Gymraeg, gan nad ydyn nhw’n darparu gwybodaeth ddwyieithog.
Tra bo enwau strydoedd uniaith Saesneg yn cael eu caniatáu, daeth i’r amlwg fod y Cyngor, yn y lle cyntaf, wedi torri deddfwriaeth y Gymraeg drwy fethu â defnyddio’r geiriau Cymraeg am “leading to”, oedd hefyd yn ymddangos ar yr arwyddion.
Yn ail, roedd y geiriad wedi’i osod yn y drefn anghywir, gyda’r Saesneg yn gyntaf.
Ymchwiliad
Fe wnaeth aelod o’r cyhoedd gwyno i Gomisiynydd y Gymraeg, gan ddarparu lluniau o arwydd stryd yn dangos “Taynes leading to Ladybench”, ac un arall yn dweud “West Roedin leading to Offway and East Roedin Shop” yng Nghwmbrân.
Ar ôl derbyn y gwyn ym mis Medi 2022, dyfarnodd y Comisiynydd nad oedd angen ymchwiliad, ond ailystyriodd y penderfyniad wedi i’r achwynydd fygwth cyfeirio’r gwrthodiad hwnnw at Dribiwnlys y Gymraeg.
O ganlyniad, agorodd y Comisiynydd ymchwiliad, a bellach fe ddaeth i’r amlwg fod Cyngor Bwrdeistref Torfaen wedi torri pump o’r safonau iaith Gymraeg, y rheolau cyfreithiol-rwymol sy’n nodi eu bod yn defnyddio’r Gymraeg.
Yn ogystal â methu â darparu’r geiriad Cymraeg cywir ar yr arwyddion, a rhoi’r Saesneg yn gyntaf, ar ôl iddyn nhw geisio eu cywiro, fe wnaeth y Comisiynydd ddarganfod bod y Cyngor wedi torri tair o’r safonau drwy beidio ag ystyried yr effaith y gallai’r penderfyniad ei chael ar y Gymraeg.
Methiant
Fe wnaeth Cyngor Torfaen amddiffyn eu polisi o ddefnyddio enwau swyddogol ym mha bynnag iaith, ar arwyddion strydoedd yn unig.
Gan fod defnyddio enwau swyddogol yn unig yn dderbyniol, wnaeth y Comisiynydd ddim canfod unrhyw achos o dorri’r safonau mewn perthynas ag arddangos yr enwau Saesneg yn unig.
Ond dywed yr hoffai nodi, nad oes “dim byd yn atal y Cyngor rhag cofrestru enwau Cymraeg ar y strydoedd hyn, fyddai wedyn yn caniatáu iddyn nhw ychwanegu enwau Cymraeg at yr arwyddion”.
Ymatebodd y Comisiynydd gan nodi bod methu â darparu’r Gymraeg ar gyfer “leading to” yn torri’r Safonau.
Ychwanegodd y Comisiynydd ei bod yn “dda gweld” bod y Cyngor wedi cywiro’r arwyddion ers hynny drwy ychwanegu’r geiriau Cymraeg, “yn arwain i” atyn nhw, ond dywedodd y dylai’r testun Cymraeg ddod gyntaf pan fo’r arwyddion yn cynnwys yr un wybodaeth yn Gymraeg a Saesneg.
Polisi
Hyd at ddechrau 2018, nododd y polisi fod angen cyfieithu enwau strydoedd, ond wedi newidiadau i’r polisi fod angen defnyddio enwau swyddogol yn unig, ac mae hyn yn “annog y defnydd o enwau Cymraeg ym mhob datblygiad newydd ac yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg”.
Ond dywedodd y Comisiynydd fod gwrthdroi’r polisi cyfieithu wedi arwain y Cyngor i dynnu’r rhan fwyaf o’r enwau Cymraeg oddi ar yr arwyddion, gan mai dim ond yr enwau Saesneg oedd wedi’u cofrestru.
Ychwanegodd y Comisiynydd fod y Cyngor wedi methu â darparu tystiolaeth eu bod nhw wedi “ystyried yn gydwybodol” yr effaith y gallai diwygio polisi enwi strydoedd ei chael ar y Gymraeg.
Soniodd y cyngor fod defnyddio enwau Cymraeg sydd wedi’u bathu yn unig yn annog y defnydd o’r enwau Cymraeg, yn hytrach na defnyddio’r cyfieithiad Saesneg.
Ond dywedodd y Comisynydd nad yw’r polisi enwi strydoedd yn dangos yr effeithiau cadarnhaol neu gynyddol ar y Gymraeg.
Ychwanegodd fod y methiant i ystyried sut i warchod enwau Cymraeg answyddogol ar strydoedd yn fethiant yn y Safonau.
Bellach, mae gan y Cyngor dri mis i gydymffurfio â gofynion y Comisiynydd, sy’n cynnwys hyfforddiant ac arweiniad ar gyfer staff ar y Safonau, gan gynnwys defnyddio’r geiriau “arwain at” fel enghraifft o’r math o wybodaeth sy’n rhaid ei chyfieithu.
Bydd rhaid i’r Cyngor ddarparu tystiolaeth hefyd eu bod nhw wedi cywiro’r arwydd sydd wedi rhestru’r testun yn Saesneg cyn y Gymraeg.