Mae arolwg gan BMA Cymru o fyfyrwyr meddygol wedi datgelu bod 39% ohonyn nhw’n bwriadu gadael Cymru ar ôl graddio, er mwyn dechrau eu gyrfaoedd meddygol mewn mannau eraill.
Gwell tâl ac amodau gwaith sy’n cael eu nodi fel y prif resymau dros beidio aros.
Datgelodd yr arolwg o fyfyrwyr yn ysgolion meddygol Caerdydd, Abertawe a Bangor fod 80% o’r rhai sy’n bwriadu gadael Cymru yn bwriadu dechrau hyfforddiant sylfaen yn Lloegr, a 15% yn yr Alban, lle mae meddygon iau yn derbyn tâl uwch.
O’r myfyrwyr sy’n bwriadu aros yng Nghymru ar ôl graddio, dim ond 25% ohonyn nhw sy’n bwriadu aros tan ar ôl eu hyfforddiant sylfaen, ar hyn o bryd.
Daw hyn wrth i feddygon iau ddechrau eu streic hiraf erioed ddoe (dydd Llun, Mawrth 26).
Bydd y streic yn parhau tan ddydd Gwener (Mawrth 29), wrth iddyn nhw alw am adfer eu cyflog, sydd wedi’i dorri gan 29.6% mewn termau real ers 2008/9.
Awstralia a Seland Newydd yn apelio
Cafodd yr arolwg ei gwblhau gan 125 o fyfyrwyr meddygol.
O blith y rhai sy’n ystyried gadael Cymru, mae’r rhan fwyaf yn bwriadu gweithio yn Awstralia neu Seland Newydd.
Dywedodd 66% o’r ymatebwyr sy’n bwriadu gadael y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru fod cyflogau ac amodau gwaith presennol wedi dylanwadu ar eu penderfyniad.
Dywedodd 87% mai cyflog uwch, mwy cystadleuol mewn mannau eraill oedd y prif sbardun yn eu penderfyniad i adael, gyda 46% yn dweud nad oedd y tâl i feddygon sy’n dechrau eu gyrfaoedd yng Nghymru hyd yn oed yn cwrdd â chostau byw yng Nghymru ar hyn o bryd.
Nododd 90% o’r ymatebwyr y byddai gwell cyflog yn dylanwadu arnyn nhw i aros yng Nghymru.
Ffactorau eraill gafodd eu nodi gan fyfyrwyr meddygol y byddai’n eu helpu i benderfynu aros oedd gwell amodau gwaith (71%) a gwell cymorth ariannol yn ystod addysg a hyfforddiant (59%).
Dywedodd 48% o’r ymatebwyr ddywedodd y byddan nhw’n gadael Cymru ar ôl graddio fod cyflwr gwael y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru hefyd yn ffactor pwysig yn eu penderfyniad.
Ymhlith canfyddiadau eraill yr arolwg roedd y ffaith fod 98% o fyfyrwyr yn cefnogi streiciau presennol y meddgon iau.
‘Dim syndod’
Yn ôl Erin Flaherty, cadeirydd Pwyllgor Myfyrwyr Meddygol y BMA yng Nghymru, mae’n sefyllfa “ofnadwy” i fyfyrwyr, a hefyd i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
“Gyda chostau byw cynyddol, dyled myfyrwyr a thâl cystadleuol mewn mannau eraill, nid yw’n syndod bod dros draean o fyfyrwyr meddygol yng Nghymru yn bwriadu gadael ar ôl graddio.
“Ar ôl buddsoddi swm sylweddol o amser ac arian yn astudio meddygaeth yng Nghymru mae 39% o fyfyrwyr yn dal i deimlo nad ydyn nhw’n gallu dechrau eu gyrfaoedd yn y wlad, mae’n sefyllfa ofnadwy i fyfyrwyr meddygol ond hefyd i gleifion a dyfodol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Bydd meddyg sy’n dechrau ei yrfa yng Nghymru yn ennill cyn lleied â £13.65 yr awr, ac am hynny byddan nhw’n darparu gofal achub bywyd ac yn ymdopi gyda lefelau enfawr o gyfrifoldeb; nid yw’n ymddangos fel buddsoddiad da i unrhyw un.
“Gyda niferoedd cynyddol o gleifion yn aros am driniaeth, mae angen i ni weld y rhai sydd mewn grym yn troi’r llanw ar y mater hwn, a dylai hyn ddechrau drwy gynnig tâl tecach i feddygon sy’n gweithio’n galed cyn colli hyd yn oed mwy i wledydd cyfagos y Deyrnas Unedig a thu hwnt.”
‘Tanbrisio meddygon’
“Mae’r ffaith fod myfyrwyr bellach yn mynd ati i adael Cymru i ddatblygu eu gyrfa mewn mannau eraill yn dyst i danbrisio meddygon yng Nghymru dros gyfnod hir,” meddai Dr Oba Babs-Osibou a Dr Peter Fahey, cyd-gadeiryddion Pwyllgor Meddygon Iau Cymru.
“Mae myfyrwyr – dyfodol y proffesiwn – eisoes wedi sylweddoli y gallan nhw chwilio am well tâl ac amodau hyd yn oed cyn iddyn nhw raddio.
“Byddwn yn parhau â’n brwydr dros gyflog teg i’r holl feddygon sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Nid yw’n syndod ein bod yn colli meddygon wrth iddyn nhw chwilio am well tâl ac amodau mewn mannau eraill.
“Bydd colli ein meddygon ar adeg pan fo rhestrau aros ar eu huchaf erioed yn golygu bod cleifion yn dioddef mwy nag y maen nhw eisoes.”