Mae ysgrifennydd cenedlaethol undeb addysg yn dweud bod “angen gwneud mwy” i recriwtio a chadw athrawon.
Daw sylwadau Laura Doel, Ysgrifennydd Cenedlaethol undeb NAHT, wrth iddi ymateb i adroddiad gan y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) i’r trafferthion mewn rhai ardaloedd o Gymru.
Mae’r adroddiad, gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, yn adolygu’r llenyddiaeth bresennol er mwyn adnabod polisïau allai ddenu a chadw athrawon sy’n wynebu amgylchiadau heriol mewn ysgolion ledled Cymru.
Mae’r adroddiad yn rhoi pwyslais arbennig ar ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig ac mewn ardaloedd gwledig.
Casgliadau
Mae’r adroddiad yn dod i nifer o gasgliadau am y sefyllfa yng Nghymru.
Yn eu plith mae:
- cynnydd yn nifer yr athrawon cynradd sy’n cael eu recriwtio yng Nghymru, gyda’r niferoedd ar eu huchaf ers degawd; ond mae niferoedd uwchradd wedi gostwng
- dim ond 4% o athrawon yng Nghymru sy’n gadael eu swyddi bob blwyddyn yng Nghymru, o gymharu â 9-10% yn Lloegr. Ond mae problemau o hyd wrth recriwtio athrawon uwchradd, yn enwedig yng nghefn gwlad y gogledd a’r gorllewin, ac ardaloedd gwledig y tu allan i Gaerdydd ac Abertawe
- ymhlith yr heriau mwyaf mae recriwtio athrawon mewn pynciau megis Cymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, ieithoedd tramor a thechnoleg gwybodaeth
- gall gwobrau ariannol wella cyfraddau cadw athrawon yn sylweddol, yn enwedig wrth roi cyflog ychydig yn uwch mewn ardaloedd difreintiedig ac mewn pynciau lle mae prinder athrawon
Argymhellion
Mae’r adroddiad yn cynnig nifer o argymhellion er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa, gan gynnwys:
- cyflwyno taliadau ychwanegol (5-10% ar ben cyflogau) i athrawon newydd mewn pynciau lle mae prinder, ac yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig
- datblygu cynllun peilot i ddenu athrawon newydd mewn ardaloedd lle mae heriau mwy sylweddol, ond mae angen mesur eu llwyddiant cyn eu hymestyn
- dylid treialu rhoi tryloywder am fuddiannau ac anawsterau addysgu mewn ysgolion heriol
- dylid cyhoeddi data am gyfraddau cadw athrawon yn ôl faint o flynyddoedd o brofiad sydd gan athrawon ac yn ôl lefelau anfanteision cymdeithasol ac economaidd
- dylid buddsoddi mewn ymchwil ynghylch cefnogaeth effeithiol i athrawon newydd o ran addysgu, mentora ac anwytho
Atebion posib
“Rydyn ni’n clywed gan arweinwyr ysgolion ledled Cymru sy’n ei chael hi’n anodd recriwtio a chadw staff,” meddai Laura Doel.
“Mae’n glir fod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â hyn.
“Nid cyflwyno cymhelliant fydd, ar ei orau, yn symud y broblem ac yn denu’r rheiny sydd eisiau bod yn athrawon i ddewis pwnc penodol neu ddysgu mewn lleoliad penodol, yw’r ateb – ond yn hytrach, mynd i’r afael â’r eliffant yn yr ystafell, sef creu’r amodau gwasanaeth sy’n gweld athrawon yn ffynnu.
“Adfer tâl drwyddi draw i lefelau 2010, gyda chodiadau cyflog uwch na chwyddiant wedyn, yw’r cam cyntaf – nid gwahaniaethu fesul pwnc neu leoliad.
“Mae creu gweithlu dwy haen yn achosi rhaniadau, a dydy hynny ddim yn cydnabod fod tâl wedi cael ei dorri’n sylweddol mewn termau real, gan gwympo y tu ôl i feysydd proffesiynol cymharol eraill i raddedigion.
“Yn ail, mae angen i ni weld mwy o weithredu ar faterion megis llwyth gwaith ac arian, sy’n cadw arweinwyr ysgolion a’u staff yn effro yn y nos, a llai o sylw i brosiectau gwagedd megis diwygio’r flwyddyn ysgol.
“Mae hynny, o leiaf, yn golygu sicrhau bod yr arian ychwanegol sy’n cael ei roi i Lywodraeth Cymru yn dilyn Cyllideb ddiweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei warchod ar gyfer addysg.”