Mae cynllun i atal gwerthu tybaco anghyfreithlon yng Nghymru yn cael ei ymestyn i dargedu troseddwyr sy’n gwerthu fêps anghyfreithlon heb ei reoleiddio i blant.

Mae’r ymgyrch genedlaethol “No Ifs No Butts” yn cael ei ehangu i annog pobol i roi gwybod yn ddienw am werthu fêps yn anghyfreithlon neu dan oed, ac mae’r lansiad swyddogol yn cael ei gynnal mewn digwyddiad yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 19).

Dangosodd Arolwg Fêpio Ieuenctid ASH Cymru 2024 fod mwy na hanner y plant mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru sy’n fêpio yn defnyddio fêps o fwy na 600 baffiau.

Mae’n debygol, felly, eu bod yn rhai anghyfreithlon, heb eu rheoleiddio, ac o bosibl yn beryglus.

Cyfle i “amddiffyn ein plant”

“Mae ein gwaith maes ar draws y wlad yn dangos yn glir iawn bod plant yn cael eu targedu gan droseddwyr sy’n gwerthu’r cynhyrchion hynod gaethiwus hyn,” meddai Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru.

“Nid yw’r troseddwyr hyn yn poeni a yw’r cynhyrchion wedi’u rheoleiddio ac yn gyfreithlon, na pha mor hen yw’r plant.

“Y cyfan maen nhw ei eisiau yw gwneud elw.”

Dywed fod porth ar-lein dienw ar gael i rieni, gofalwyr, athrawon a phobol ifanc adrodd ble a phryd maen nhw’n cael cynnig fêp anghyfreithlon.

Ychwanega fod modd “gwneud gwahaniaeth ac amddiffyn ein plant” gyda chymorth cymunedau Cymru.

Mae pob adroddiad dienw i’r wefan yn cael ei anfon at adrannau Safonau Masnach ar draws y wlad i gael eu hymchwilio.

Gall amrywiaeth o gamau gorfodi ddeillio o’r adroddiadau, gan arwain at orchmynion i gau siopau.

Bydd ymgyrch hysbysebu bwrpasol yn hyrwyddo’r ymgyrch newydd, gyda chefnogaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Bydd yn cael ei lansio ar draws gogledd Cymru yn yr wythnosau nesaf.

Cafodd yr ymgyrch ‘No Ifs No Butts’ ei lansio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Safonau Masnach yn wreiddiol i atal troseddwyr rhag cynnig tybaco anghyfreithlon i blant yng Nghymru.

Mae’r ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus iawn, gydag 800 o adroddiadau yn y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd yn fwy nag un bob dydd ar gyfartaledd.