Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi adroddiad heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 19), yn cynnig argymhellion ar ddiwygio gwasanaethau iechyd a gofal Cymru.

Mewn cynhadledd i’r wasg, fe fu Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru sydd wedi comisiynu’r adroddiad, yn amlinellu’r prif ganfyddiadau ac yn beirniadu sut y caiff y gwasanaethau eu rhedeg ar hyn o bryd.

Mae Plaid Cymru’n gobeithio y bydd yr argymhellion hyn yn rhoi argraff i’r cyhoedd o’r negeseuon fydd wrth wraidd eu hymgyrch etholiadol yn 2026.

System iechyd sy’n “gynhenid ddryslyd”

Mae’r adroddiad yn galw am ddiwygiadau strwythurol yn system iechyd Cymru, fydd yn atgyweirio sawl man sylfaenol o ran llywodraethu a gweinyddiaeth.

Mae’r adroddiad yn dadlau bod gweinyddiaeth y system iechyd yn “gynhenid ddryslyd, yn rhy gymhleth ac yn niweidiol i gydweithio systematig”.

Mae pwyslais hefyd ar atebolrwydd o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a sut mae penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud a’u cyfiawnhau ar hyn o bryd.

“Er gwaethaf y ffaith fod cyllid i’r gwasanaeth iechyd yn cyfrif am hanner cyllideb gyfan Lywodraeth Lafur Cymru, nid yw’n cael ei ddefnyddio’n strategol ac nid yw’r gwasanaeth iechyd yn cael ei redeg yn effeithlon chwaith,” meddai Mabon ap Gwynfor cyn y gynhadledd i’r wasg.

Argymhellion strategol Plaid Cymru

Ymhlith argymhellion yr adroddiad mae gosod targedau mwy priodol, realistig a chyflawnadwy, fel bod darparwyr iechyd yn medru anelu amdanyn nhw, yn hytrach na methu’n llwyr.

Mae galw hefyd am gydweithio agosach rhwng y Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol, am wella arbenigrwydd meddygol yn y gwasanaeth sifil, ac am hyrwyddo llais y claf drwy groesawu sylwadau a chwynion.

Yn ogystal, mae’r adroddiad yn dadlau bod angen newidiadau strwythurol i weinyddiaeth y system iechyd fyddai’n “ailddiffinio cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol”.

Byddai hyn, felly, yn “atal gweinidogion rhag micro-reoli’r Gwasanaeth Iechyd”.

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, “byddai’r holl gamau hyn yn cryfhau llywodraethu’r Gwasanaeth Iechyd, gan wella ei effeithlonrwydd a chanlyniadau i’r claf”.

‘Llafur wedi methu’

Ynghlwm â chyhoeddi’r adroddiad mae beirniadaeth chwyrn o record Llywodraeth Lafur Cymru ym maes iechyd.

“Mae Llafur wedi methu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd am 25 mlynedd,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cynnig dechrau newydd i’r Gwasanaeth Iechyd – dim mwy o atebion annigonol a meddwl tymor byr sydd ond yn cosbi staff a chleifion.

“Mae’n bryd am newid.”

Daw’r adroddiad fis yn unig ar ôl Cynhadledd Plaid Cymru, pan osododd y Blaid bwyslais sylweddol ar wella darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru i argymhellion Plaid Cymru.