Mae Cylch yr Iaith yn galw ar Gyngor Môn i newid y ffordd maen nhw’n ymdrin â gwrthwynebiadau i geisiadau cynllunio ac Asesiadau Ardrawiad Iaith.

Mae gofyn am yr asesiadau hyn gan ddarpar-ddatblygwr pan fo posibilrwydd y byddai caniatáu datblygiad yn effeithio ar Gymreictod cymuned.

Daw hyn wrth i bobol leol wrthwynebu cais gan AMP Construction & Groundworks Ltd am ganiatâd i adeiladu 30 o dai yn Stryd y Goron yng Ngwalchmai ar yr ynys.

Datblygiad yng Ngwalchmai

Cyflwynodd Cylch yr Iaith wrthwynebiad i’r cais, gan gynnwys asesiad ystadegol manwl o sefyllfa’r Gymraeg yn y gymuned.

Er mwyn gwerthuso niwed posib y datblygiad, edrychodd y grŵp ar ddau bentref cyfagos, Bodffordd a Bryngwran, lle mae’r newidiadau yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg “yn fater o bryder”.

Ym Modffordd, rhwng 2001 a 2011, disgynnodd niferoedd siaradwyr Cymraeg o 1,184 i 1,098 – gostyngiad o 86, neu 7.3%.

Gan na fu newid yn y boblogaeth gyffredinol o 1,534, mae’r grŵp yn credu bod hyn yn golygu bod 86 o unigolion sy’n methu siarad Cymraeg wedi disodli’r 86 o siaradwyr Cymraeg oedd wedi gadael.

Felly, am bob unigolyn oedd yn medru siarad Cymraeg sy’n gadael, roedd unigolyn sy’n methu siarad Cymraeg wedi cymryd eu lle.

Ym Mryngwran, roedd twf yn y boblogaeth gyffredinol o 1679 i 1903, sy’n gynnydd o 224, neu 13.3%.

Dros yr un cyfnod, roedd cynnydd yn niferoedd siaradwyr Cymraeg o 1,234 i 1,311, sef 77 unigolyn, neu 6.2%.

Er bod y ddau ffigwr yn dangos cynnydd, mae modd gweld bod y boblogaeth gyffredinol wedi tyfu dros ddwywaith yn gyflymach na’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg.

Felly, roedd y cynnydd o 224 yn cynnwys 77 o siaradwyr Cymraeg a 147 o unigolion sy’n methu siarad Cymraeg.

Ym Mryngwran, dros gyfnod o ddeng mlynedd, roedd y boblogaeth gyffredinol wedi gostwng o 1,841 i 1,817, sef gostyngiad o 24, neu 1.3%.

Dros yr un cyfnod, roedd gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg o 1,311 i 1,169 – sef gostyngiad o 142, neu 10.8%.

Diboblogi

Yn ôl y grŵp, awgryma’r data fod diboblogi ymhlith siaradwyr Cymraeg yn sylweddol, ac y dylai hyn fod yn ystyriaeth greiddiol mewn materion cynllunio.

Roedd y gwrthwynebiad hefyd yn tynnu sylw at wendidau Asesiad Ardrawiad Iaith o blaid y datblygiad gan gwmni Cadnant Planning ar ran AMP.

Yn ystod cyfnod trafod y cais gan Bwyllgor Cynllunio Môn, fe wnaeth y swyddogion cynllunio ddatgan eu bod nhw o’i blaid.

Dywedodd y Swyddog Polisi a’r Gymraeg ei bod o’r farn na fyddai’r datblygiad yn niweidiol i ddyfodol yr iaith yng Ngwalchmai.

Serch hynny, fe wnaeth y pwyllgor wrthod y cais, a hynny’n rhannol oherwydd pryderon ynghylch effaith y datblygiad ar y Gymraeg yn lleol.

Mae’r mater bellach yn destun apêl.

Y swyddog heb dderbyn gwrthwynebiad Cylch yr Iaith

Bellach, fe ddaeth i’r amlwg nad oedd y Swyddog Polisi a’r Gymraeg wedi cael gweld gwrthwynebiad Cylch yr Iaith i’r cais gan swyddogion yr Adran Gynllunio cyn iddi ddod i farn am ei effaith ar Gymreictod Gwalchmai.

“Mae’n amlwg mai dim ond darlun unochrog o effaith y cais ar y Gymraeg yng Ngwalchmai oedd gan y Swyddog Polisi a’r Gymraeg,” meddai Howard Huws ar ran Cylch yr Iaith.

“Nid oedd swyddogion yr Adran Gynllunio wedi dangos gwrthwynebiad Cylch yr Iaith iddi.

“Pe bai hi wedi gweld hwnnw, efallai y buasai hi wedi newid ei meddwl.

“Mae hyn yn codi rhoi lle i amau pa mor alluog yw swyddogion Cyngor Môn i ddelio â gwybodaeth ynghylch effeithiau ceisiadau ar y Gymraeg, ac a oes ganddynt ddigon o wybodaeth a phrofiad i ddirnad ansawdd Asesiad Iaith.

“Mae Canllaw Cynllunio Atodol Cynllun Datblygu Gwynedd a Môn yn rhestru cymwysterau angenrheidiol y sawl sy’n paratoi Asesiad Ardrawiad Iaith.

“Yn yr achos hwn, tybiwn nad oedd Asesiad Cadnant Planning yn cyrraedd y meini prawf hynny.

“Ac os oes angen i’r sawl sy’n cyflwyno Asesiad eu cyrraedd, rhaid i’r sawl sy’n derbyn Asesiad eu cyrraedd, hefyd.

“Onide, sut allant wybod a yw Asesiad yn dal dŵr ai peidio?

“Testun pryder arall oedd agwedd llugoer swyddogion cynllunio Môn yng ngwrandawiad yr apêl ar y 13eg o Fawrth.

“Beth bynnag fu eu barn am y cais, yr oeddent yno i gynrychioli Cyngor Môn, i gyflwyno safbwynt y Cyngor, a dadlau yn erbyn y cais â deng ewin, os oedd angen.

“Prin y gwnaethant: bu’n rhaid i’r Cynghorydd Neville Evans wneud hynny ar ei ben ei hun.”

Argymhellion y Cylch

O ganlyniad i’r mater, mae Cylch yr Iaith wedi anfon yr argymhellion canlynol at Brif Weithredwr Cyngor Môn:

  • Dylid ymchwilio i ddarganfod pam na chafodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg gyfle i weld tystiolaeth allai fod wedi dylanwadu ar ei phenderfyniad ynglŷn â’r cais cynllunio, a’i hargymhellion i’r Pwyllgor Cynllunio.
  • Dylid sicrhau ei bod hi, ac unrhyw swyddogion perthnasol eraill, yn cael gweld unrhyw dystiolaeth o’r fath sy’n dod i’r Adran Gynllunio yn y dyfodol.
  • Dylid penodi aelod staff i’r Adran Gynllunio sydd â’r cymwysterau a’r profiad angenrheidiol ar gyfer cyflawni gofynion y Canllaw
  • Cynllunio Atodol mewn perthynas ag Asesiadau Ardrawiad Iaith, neu dylai aelodau staff presennol gael cyfle i ennill y cymwysterau a’r profiad angenrheidiol ar unwaith.
  • Dylid cyfarwyddo’r sawl sy’n cynrychioli’r Cyngor adeg gwrandawiadau cynllunio (ac achlysuron eraill) i weithredu’n unol â safbwynt y Cyngor ar y pwnc o dan sylw, p’un a ydyn nhw’n cytuno â’r safbwynt hwnnw ai peidio.

“Os yw trefn llunio a derbyn Asesiad Ardrawiad Iaith i fod yn amgen nag ymarferiad ffurfiol, gwag, rhaid i awdurdodau cynllunio fedru gwahaniaethu rhwng Asesiadau sy’n dal dŵr a’r rhai nad ydynt, a bod yn barod i wrthod rhai annigonol,” meddai Howard Huws.

“Oni wneir hynny bydd datblygiadau niweidiol yn parhau i erydu troedle cymunedol ein hiaith a’n hunaniaeth fel cenedl.”

Mae disgwyl penderfyniad yr Arolygaeth Gynllunio ynghylch apêl darpar-ddatblygwyr Stryd y Goron o fewn tua phythefnos.