Mae Peniarth, cyhoeddwr llyfrau ac adnoddau addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, wedi lansio poster ac adnodd ar-lein, Brethyn Cymru, fel rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030.
Cafodd yr adnodd arloesol ei lansio’n swyddogol ar Fawrth 22, mewn gweithdy yn Ysgol Gymraeg Pwll Coch yng Nghaerdydd.
Cafodd y gweithdy ei gynnal o dan ofal Natalie Jones, Gweithredwr Cynnwys Addysg i S4C ac un o awduron Brethyn Cymru.
“Mae’n fraint wedi cael bod yn rhan o’r prosiect yma,” meddai.
“Mae hi mor bwysig fod plant ein cenedl yn dysgu am rôl bwysig bob unigolyn sydd ar y llinell amser a’r dylanwad maen nhw wedi ei gael arnon ni i gyd.”
Y syniad a’r cynnwys
Cafodd yr adnodd ei ddatblygu yn dilyn adroddiad yr Athro Charlotte Williams, oedd yn nodi y dylid creu mwy o ddarpariaethau a deunyddiau trawsbynciol i ddysgu ac addysgu am amrywiaeth yng Nghymru ddoe a heddiw.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am 25 o unigolion a digwyddiadau allweddol o fewn hanes Cymru, sy’n rhoi cyfle i blant, pobol ifanc ac athrawon i ddysgu am eu treftadaeth amlddiwylliannol.
Mae hanes unigolion fel Angela Kwok, eiriolydd y gymuned Tsieineaidd a Chymuned Penrhos, oedd yn gartref i Bwyliaid yng Nghymru ers yr Ail Ryfel Byd, yn yr adnodd, yn ogystal â hanes Mario Ferlito, y carcharor rhyfel o’r Eidal, a’r cerddor a storïwr Abram Wood, oedd yn bennaeth teulu Romani enwog.
Dywed Catrin Evans- Thomas, rheolwr y prosiect gyda Pheniarth, eu bod nhw “mor falch i allu rhannu’r adnodd cyffrous yma gyda holl athrawon a dysgwyr Cymru”.
“Mae tîm gwych wedi dod at ei gilydd i awduro a chreu cofnod o’r holl bobol sydd wedi dylanwadu ar lwybr hanesyddol Cymru, a phob un ohonyn nhw yn edefyn pwysig ym mrethyn ein cenedl,” meddai.
‘Ffordd wych o ddathlu’
“Mae adnodd mor ddeniadol â phoster Brethyn Cymru a’r gweithgareddau sydd wedi eu paratoi am bob un o’r unigolion yn hollol hyfryd,” meddai Catrin Alun, Arweinydd Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu Ysgol Gymraeg Pwll Coch yng Nghaerdydd.
“Am ffordd wych o ddathlu dylanwadau rhyngwladol ar fywyd Cymru, ac am ddylanwad y Cymry ar ymwelwyr a mewnfudwyr!
“Rydyn ni’n lwcus yn Ysgol Pwll Coch bod y byd i gyd yn ymgasglu yma, a bod diwylliannau a chrefyddau’r byd yn rhan o waed ein brethyn unigryw ni.
“Bydd plant Pwll Coch ac ysgolion eraill Cymru yn elwa cymaint o weld dylanwad yr unigolion hyn ar waed eu bywydau nhw.”
Dwy fersiwn wahanol
Bydd dwy fersiwn o’r adnodd yn cael eu creu, un i’r sector cynradd ac un i’r sector uwchradd.
Bydd pum copi o’r poster yn cael eu hanfon am ddim i bob ysgol yng Nghymru, a bydd y cod QR sydd ar y poster yn rhoi mynediad i wybodaeth ehangach yn ddigidol ar Hwb.
Y gobaith yw y bydd modd defnyddio’r ddwy ran fel sbardun i waith trafod ac i ysgogi gwaith pellach.