Dydy Cyngor Sir ddim yn gallu arddangos sticeri i roi gwybod i bobol â stoma bod eu toiledau’n hygyrch, gan fod y sticeri’n uniaith Saesneg.
Cymerodd y Cyngor gyfres o gamau y llynedd i sicrhau bod toiledau yn eu hadeiladau, megis canolfannau hamdden, yn bodloni safonau ‘stoma-gyfeillgar’, sy’n cynnwys sicrhau bod bachyn ar gael i hongian dillad wrth newid bagiau stoma, gofod i wasgaru cyflenwadau meddygol, a bin i gael gwared ar y bagiau sy’n cael eu defnyddio i gasglu gwastraff o’r corff.
Mae’r elusen Colostomy UK wedi rhoi sticeri i’r Cyngor i ddangos bod eu toiledau’n hygyrch ac i atgoffa pobol eraill “nad yw pob anabledd yn weladwy”, er mwyn lleihau’r perygl o atgasedd at ddefnyddwyr sydd heb anabledd sy’n weladwy.
Ond dywed David Jones, Pennaeth Gwarchodaeth y Cyhoedd y Cyngor, nad yw’n gallu arddangos y sticeri sydd ar ei ddesg.
“Dw i wedi cysylltu â Colostomy UK ac wedi derbyn pecyn o 50 neu 60 o sticeri, ond dydyn ni ddim yn gallu eu harddangos nhw gan nad ydyn nhw’n ddwyieithog, felly o ganlyniad i’r Ddeddf Iaith Gymraeg, dydyn ni ddim yn gallu eu rhoi nhw i fyny,” meddai wrth aelodau’r Pwyllgor Craffu Lle, oedd wedi gofyn flwyddyn yn ôl am gamau i addasu toiledau ar gyfer pobol sydd â stoma.
Cost ychwanegol
Ychwanegodd ei fod e wedi codi’r mater gyda’r elusen, gan gredu ei bod hi’n debygol y byddai eraill wedi gwneud yr un fath.
Ond pe na bai modd darparu sticeri Cymraeg a Saesneg, byddai modd i’r Cyngor wneud hynny’n fewnol, ond byddai cost ynghlwm wrth hynny, rhybuddiodd.
Dywedodd ei fod yn gobeithio datrys y mater yn fuan fel bod modd arddangos y sticeri.
“Rydyn ni jyst yn aros am yr arwyddion dwyieithog, a chyn gynted ag y cawn ni nhw, gallwn ni fwrw ymlaen â hynny, ond allwn ni ddim arddangos rhai Saesneg yn unig neu fydd pobol yn ein beirniadu ni.”
Esgeuluso siaradwyr Saesneg
Cododd Lisa Dymock, cadeirydd y pwyllgor a chynghorydd Porthysgewin, bryderon ynghylch yr oedi.
“Dw i’n gwerthfawrogi fod angen i ni gael arwyddion dwyieithog, a pha mor bwysig yw hi fod gennym ni Saesneg a Chymraeg, ond o beidio arddangos y fersiwn Saesneg pan fo rheiny gennym ni, dw i ddim yn siŵr, byddwn ni’n esgeuluso trigolion Saesneg eu hiaith sydd angen y cyfleusterau hyn,” meddai.
Gofynnodd y Ceidwadwr a fyddai ychwanegu sticeri Cymraeg yn ddiweddarach yn gallu bod yn rhan o gynllun gweithredu’r Cyngor er mwyn eu galluogi nhw i ddefnyddio’r sticeri sydd ganddyn nhw eisoes.
“Os ydyn ni’n eu harddangos nhw, bydd rhywun yn ein ffonio ni i ddweud nad ydyn ni’n cydymffurfio â’r Ddeddf Iaith Gymraeg,” meddai David Jones.
Ychwanegodd fod gan y Cyngor sticeri logo’r Strategaeth Toiledau Genedlaethol i rybuddio pobol fod toiledau cyhoeddus hygyrch ar gael.
“Synnu” bod cymaint o drafodaeth am y Gymraeg
Dywedodd Tudor Thomas, Cynghorydd Llafur y Fenni, ei fod yn “synnu” fod “cymaint o drafodaeth am y Gymraeg”.
“Rydyn ni yng Nghymru, ac yn destun y Ddeddf Iaith Gymraeg, ac mae hyn yn rywbeth y dylen ni fod yn gallu ei ddatrys hyd yn oed os oes rhaid i ni ei gynhyrchu’n fewnol,” meddai’r aelod dros ward y Parc.
Dywedodd Emma Bryn, Cynghorydd Annibynnol Wyesham oedd wedi codi mater toiledau stoma-gyfeillgar y llynedd, ei bod hi wrth ei bod fod cynnydd wedi’i wneud drwy adnewyddu toiledau mewn canolfannau hamdden.
Dywedodd David Jones fod addasu blociau toiledau traddodiadol yn “rhwystr”.
Mae’r Cyngor hefyd yn cefnogi’r ymgyrch ‘Boys Need Bins Too’ i ddarparu biniau cynnyrch glanweithiol mewn toiledau dynion sydd eu hangen ar y rhai sydd â chyflyrau megis canser y prostad.
Ymateb y Cyngor
Dywed llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy fod Colostomy UK yn bwriadu darparu sticeri dwyieithog ar eu cyfer nhw.
“Ymgyrch genedlaethol yw hon, felly mae’n bwysig bod y negeseuon yn gyson yn genedlaethol,” meddai.
“Dydy’r sefydliad cenedlaethol ddim yn gallu cadarnhau pryd y bydd yr arwyddion dwyieithog ar gael, ond rydym yn eu disgwyl nhw’n ddiweddarach yn 2024.”