Mae Pwyllgorau Cyllid Cymru a’r Alban wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd yn beirniadu’r diffyg ymgysylltu gan y Trysorlys, “er gwaethaf gwahoddiadau niferus”.
Cafodd Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid (IFCF) ei sefydlu fis Mehefin 2022 i roi llais cyfunol i’r deddfwrfeydd datganoledig wrth godi materion sy’n peri pryder â gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Dywed y pwyllgorau eu bod nhw’n “siomedig” fod gweinidogion a swyddogion y Trysorlys wedi gwrthod cyfarfod “hynod o bwysig” â’r IFCF yn Llundain yr wythnos ddiwethaf (dydd Iau, Mawrth 21).
“Mae hwn yn gyfle gafodd ei golli i ddatblygu perthnasoedd a gwell dealltwriaeth ynghylch ein priod rolau, gan gynnwys sut mae Trysorlys Ei Fawrhydi yn ymdrin â phenderfyniadau cyllidebol a’u heffaith ar y gweinyddiaethau datganoledig,” medden nhw yn y llythyr.
Y Trysorlys yn atal craffu effeithiol ar gyllido
Yn eu llythyr, mae’r pwyllgorau hefyd yn mynegi rhwystredigaeth ynghylch methiant i sicrhau sesiynau tystiolaeth lafar gyda’r Canghellor a Gweinidogion eraill y Trysorlys sydd wedi eu gwrthod nhw bob tro.
Mae ymagwedd y Trysorlys hefyd yn “cynrychioli gwyriad o ymagwedd eich rhagflaenwyr mewn sesiynau seneddol blaenorol”, meddai’r ddau bwyllgor yn y llythyr.
“Mae’n siomedig iawn ac yn atal craffu effeithiol ar y sefyllfa gyllido gyffredinol yn y gwledydd datganoledig.
“Fel y gwyddoch, mae cyllidebu effeithiol yn hanfodol yng nghyd-destun y pwysau cyllidol a wynebir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig.
“Mae datganoli pellach a rhannu pwerau yn ystod y blynyddoedd diwethaf hefyd wedi arwain at benderfyniadau cyllidebol yn y Deyrnas Unedig a’r gwledydd datganoledig yn dod yn fwy cysylltiedig.
“Felly, byddai trafod y materion hyn gyda Thrysorlys Ei Fawrhydi yn ddefnyddiol iawn, ac felly rydym yn eich annog chi a/neu’r Canghellor i roi tystiolaeth i’n pwyllgorau priodol pan ofynnir iddyn nhw.”
Datganiadau Hydref hwyr yn rhoi pwysau ar Gymru a’r Alban
Mae’r pwyllgorau hefyd wedi beirniadu amseru Datganiadau’r Hydref diweddar y Canghellor, sydd wedi rhoi pwysau ar Senedd Cymru a Senedd yr Alban i gynnal gwaith craffu blynyddol ar y Gyllideb o fewn amserlenni tynn.
“Mater o bryder arbennig yw amseriad cynyddol amrywiol Datganiad yr Hydref sydd, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, o leiaf, wedi arwain at bwysau ychwanegol ar yr amser sydd ar gael i’r Senedd a Senedd yr Alban i gynnal ei gwaith craffu dilynol ar gynigion cyllideb y llywodraethau datganoledig,” medd y llythyr.
“Yn ogystal â rhoi mwy o ystyriaeth i’r mater hwn, byddem hefyd yn croesawu eich ymdrechion i roi mwy o sicrwydd i’r llywodraethau datganoledig ynghylch cynlluniau gwario aml-flwyddyn a rhannu gwybodaeth yn gynharach, yn enwedig mewn perthynas ag amcangyfrifon atodol terfynol a all effeithio’n sylweddol ar gynlluniau cyllideb yn ystod y flwyddyn.”
Llwyfan i’r fforwm bwyso am weithredu
“Mae’r Alban a Chymru yn wynebu heriau tebyg o ran craffu ar gyllidebau a diffyg ymgysylltu â Thrysorlys EM ar faterion cyllidol sy’n effeithio ar ein gwledydd priodol,” meddai Peredur Owen Griffiths, cadeirydd Pwyllgor Cyllid Senedd Cymru.
“Roedd ein cyfarfod yn San Steffan yn hynod o bwysig wrth ddarparu llwyfan i’r fforwm bwyso am weithredu ar faterion sy’n peri pryder, ac mae ein llythyr at y Trysorlys yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni wrth weithio gyda’n gilydd.
“Mae’r fforwm yn parhau i ddarparu lle ar gyfer deialog adeiladol rhwng y deddfwrfeydd datganoledig ar faterion o bwysigrwydd cyffredin a bydd yn cyfarfod eto yn ddiweddarach eleni i ddatblygu’r materion hyn ymhellach.”