Mae un o wynebau Gogglebocs Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi mwy o ymwybyddiaeth o’r cyflwr Colitis.

Mae Gwen Roberts, sy’n 45 oed, yn un o sêr y gyfres lle mae pobol gyffredin yn lleisio’u barn am amrywiaeth o raglenni teledu.

Wedi i’w mab ddatblygu Colitis Briwiol (Ulcerative Colitis) hefyd, mae’r fam i ddau o’r Fali ar Ynys Môn yn gofidio am ddiffyg ymwybyddiaeth o’r cyflwr, ac yn gobeithio defnyddio’i llwyfan newydd i godi ymwybyddiaeth.

Mae hi’n galw ar Lywodraeth Cymru a sefydliadau iechyd i lansio ymgyrch codi ymwybyddiaeth i esbonio sut mae symptomau’n effeithio ar fywydau’r rhai sy’n byw â’r cyflwr.

‘Cywilydd ac embaras’

Cafodd Gwen Roberts ddiagnosis o Colitis Briwiol pan oedd hi ond yn 13 oed, ar ôl bod yn dioddef poenau yn ei stumog a dolur rhydd parhaus.

Collodd hi ddwy stôn dros gyfnod o ddeng niwrnod.

Ar ddechrau’r siwrne, dywedodd y meddygon mai nam ar y bol oedd yn achosi ei salwch, ond parhaodd ei symptomau annifyr am fisoedd, gan fynd mor ddifrifol nes bod llawfeddygon wedi penderfynu tynnu ei choluddyn, a chafodd hi lawdriniaeth ileostomi i osod bag.

Mae’r bag yn gweithredu fel coluddyn allanol sy’n gorwedd y tu allan i’r stumog, ac yn gweithio i gael gwared ar wastraff corfforol sy’n cael ei gyfeirio o’r coluddyn bach.

Fe wnaeth trawma’r salwch, a chael triniaeth mor fawr a hithau mor ifanc, droi bywyd Gwen Roberts â’i wyneb i waered.

“Yn ogystal â’r boen gorfforol, mi effeithiodd ar fy iechyd meddwl,” meddai.

“Roeddwn i’n teimlo cywilydd ac embaras am orfod byw fy mywyd efo’r bag.

“Doeddwn i ddim eisiau mynd allan i unman, collais fy hunan-barch a’m hyder i gyd, ac roeddwn i’n teimlo’n hollol ynysig.

“Roeddwn i wedi colli ffrindiau nad oeddwn yn eu gweld mwyach.

“Treuliais gymaint o amser i ffwrdd oherwydd salwch nes i mi ei chael hi’n anodd cadw i fyny efo gwaith ysgol, ac aeth sibrydion rownd fy ysgol fod gen i ganser.

“Doedd disgyblion eraill a hyd yn oed athrawon ddim yn deall beth oedd o’i le efo fi.

“Roedd hi’n 1992, a doedd neb wedi clywed am Colitis Briwiol.”

Salwch anweledig

Hyd yn oed heddiw, 32 mlynedd ar ôl i Gwen gael ei diagnosis cyntaf, dywed nad yw’r cyflwr yn cael ei drafod yn aml, a does fawr o ddealltwriaeth o’r cyflwr chwaith.

Dydy arbenigwyr ddim yn gwbl glir ynghylch yr hyn sy’n ei achosi, ond maen nhw’n credu bod diffyg ar y system imiwnedd yn ysgogi celloedd corfforol unigolyn i ymosod ar eu system dreulio eu hunain.

Mae’n salwch anweledig, gan nad yw pobol yn gallu gweld y symptomau na gwybod beth mae dioddefwyr yn mynd drwyddo wrth iddyn nhw ei chael hi’n anodd byw bywydau ‘normal’.

“Mae meddygon teulu yn aml yn methu adnabod y symptomau cynnar a’u pasio i ffwrdd fel rhywbeth arall, fel bug stumog neu Syndrom Coluddyn Llidus (IBS), sy’n golygu y gall dioddefwyr fynd am wythnosau neu hyd yn oed fisoedd cyn cael diagnosis cywir,” meddai.

“Yn y cyfamser, mae’r effaith ar fywydau yn gallu bod yn ofnadwy.

“I’w roi yn blwmp ac yn blaen, fedrwch chi fyth fod yn rhy bell o doiled.

“Nid yw’n fater o fod eisiau mynd, mae’n fater o frys llwyr.

“Mae’r corff yn troi arno’i hun i’r pwynt nad ydych chi bellach mewn rheolaeth.”

Colli gwaith oherwydd y cyflwr

Os na chaiff ei drin, gall colli pwysau fod yn drawsnewidiol, gan achosi gwendid, blinder a nychdod cyhyrau, gan arwain yn aml at amser i ffwrdd o’r ysgol neu’r gwaith, a hyd yn oed colli swydd o ganlyniad i ddiffyg dealltwriaeth gan gyflogwyr.

Dywed Gwen Roberts fod ei mab Gethin, sy’n 26 oed, wedi colli ei swydd pan ddaeth ei salwch ei hun i’r amlwg am y tro cyntaf.

“Aeth at ei feddyg teulu, a dywedwyd wrtho fod ganddo peils, ac roeddwn i’n gwybod o fy mhrofiad fy hun fod hynny’n hollol anghywir.

“Yn y diwedd, mi wnes i fynnu fy mod i’n mynd yn ôl efo fo a mynnu ei fod yn cael ei gyfeirio am brofion.

“Mi wnes i adnabod y symptomau ar unwaith, ac roeddwn i’n gwybod yn union beth oedd yn mynd drwyddo, ond mae llawer o bobol allan yna ar eu pennau eu hunain, yn ei chael hi’n anodd mynd o ddydd i ddydd heb ddiagnosis cywir.

“Gall fod yn frawychus ac yn ofnadwy o ynysig, gan nad oes unrhyw un wir eisiau siarad am faterion yn ymwneud â thoiledau.

“Nid yw’n rywbeth rydych chi eisiau siarad amdano dros goffi a chacen.”

Llawdriniaeth sy’n newid bywyd

Mae Gwen Roberts yn annog unrhyw un sy’n profi symptomau tebyg, gan gynnwys poenau stumog di-baid, dolur rhydd neu basio gwaed i gael archwiliad ar unwaith a mynnu cael prawf Colitis Briwiol.

“Mae effaith y clefyd yn creithio’r coluddyn, sy’n cynyddu’r risg o ddatblygu canser.

“Yr hiraf yw’r oedi cyn ei drin, y mwyaf o greithiau fydd yno.”

Mae’r nyrs cyn-llawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd yn cynghori unrhyw un sy’n wynebu gorfod cael ileostomi i ganolbwyntio ar y manteision yn hytrach na’r ochr negyddol.

“Mae’n llawdriniaeth drawmatig sy’n newid bywyd, ond os yw’n mynd i wneud eich bywyd yn well a’ch galluogi i wneud pethau na allech chi eu gwneud o’r blaen, yna mae’n werthchweil.

“Rwy’n teimlo fy mod wedi cael fy rhyddhau ers i mi gael y bag wedi’i ffitio.

“Does dim rhaid i mi fod pum cam o’r ystafell ymolchi drwy’r amser,

“Cyn hyn, mae’n debyg na fyddwn i erioed wedi ystyried rhywbeth fel Gogglebocs, ond dyma fi ar y teledu gyda fy ngŵr hyfryd.

“Dywedais pan gefais i’r llawdriniaeth fy mod i’n mynd i sicrhau bod y canlyniad yn bositif, er mwyn rhoi rhywfaint o reolaeth i fy hun dros fy mywyd, rwy’n benderfynol o gyflawni’r addewid honno.”

Bydd y rhaglen olaf yn y gyfres bresennol o Gogglebocs Cymru yn cael ei darlledu ar S4C am  o’r gloch nos Fercher, Ebrill 3. Bydd isdeitlau Saesneg ar gael, ac fe fydd modd gwylio’r rhaglen ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau ffrydio eraill hefyd.