Fe fydd meddygon iau Cymru’n dechrau streic pedwar diwrnod heddiw (dydd Llun, Mawrth 25).

Hon fydd y streic fwyaf gan feddygon iau hyd yn hyn, ac mae’n ymwneud â ffrae tros gyflogau, gyda chyflogau meddygon iau wedi gostwng bron i draean dros y pymtheg mlynedd diwethaf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, does dim modd iddyn nhw gynyddu eu cynnig o godiad cyflog o 5% am resymau cyllidebol.

Mae disgwyl i fwy na 3,000 o aelodau o undebau gymryd rhan, ac i apwyntiadau gael eu canslo o ganlyniad.

Bydd Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a Chymdeithas Feddygol Prydain yn cydweithio i sicrhau diogelwch cleifion tra bydd meddygon iau yn streicio.

‘Effaith sylweddol’

Mae Judith Paget, Pennaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, wedi rhybuddio y bydd hyn yn cael “effaith sylweddol” ar wasanaethau.

Er bod rhaid aildrefnu rhai apwyntiadau a thriniaethau, bydd gofal brys yn parhau i gael ei ddarparu yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol.

Dywed Judith Paget ei bod yn bwysig fod pobol yn osgoi defnyddio adrannau damweiniau ac achosion brys os nad yw’n hanfodol, a’u bod nhw’n “defnyddio gwasanaethau eraill” sy’n cynnwys NHS 111 Cymru ar-lein neu dros y ffôn, a fferyllfeydd.

Dywed Judith Paget y bydd byrddau iechyd yn rhoi gwybod i gleifion pe bai eu hapwyntiadau’n cael eu gohirio neu eu canslo.

“Os na fydd y bwrdd iechyd wedi cysylltu â chi, dylech fynd i’ch apwyntiad yn ôl y cynlluniau,” meddai.

“Bydd eich bwrdd iechyd lleol yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn eich ardal.”

Mae disgwyl y bydd y streic yn para pedwar diwrnod cyn diwrnodau Gŵyl Banc y Pasg, sef:

dydd Gwener, Mawrth 29dydd Llun, Ebrill 1Mae’n debygol y gallai gymryd mwy o amser nag arfer i wasanaethau meddygon teulu a fferyllfeydd brosesu presgripsiynau yn ystod y cyfnod hwn.

Mae pobol hefyd yn cael eu cynghori i sicrhau ymlaen llaw fod ganddyn nhw ddigon o’u meddyginiaethau hanfodol, fel na fyddan nhw’n rhedeg allan pan fydd y meddygfeydd a’r fferyllfeydd ar gau dros yr ŵyl banc.

“Os ydych chi’n derbyn presgripsiynau rheolaidd, cynlluniwch ymlaen llaw cyn Gŵyl Banc y Pasg,” meddai Judith Paget.

“Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich presgripsiynau rheolaidd o leiaf saith diwrnod ymlaen llaw.”

Mabon ap Gwynfor ar y llinell biced

Fe wnaeth Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, ymuno â meddygon iau ar y llinell biced tu allan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

“Mae meddygon iau wedi gweld eu cyflog yn erydu’n barhaus, ac mae bron i draean yn llai mewn termau go iawn heddiw nag yr oedd bymtheng mlynedd yn ôl,” meddai.

“Nid yw’r Gwasanaeth Iechyd ddim byd heb ei weithlu ymroddedig, ac mae’r gweithlu hwnnw’n haeddu cael ei ad-dalu’n briodol a chael yr amgylchedd gwaith cywir i ddarparu’r gofal gorau y gallant.

“Ymunais â meddygon iau ar y llinell biced y tu allan i Ysbyty Gwynedd, Bangor heddiw mewn undod â’u galwadau am adfer cyflog llawn.

“Dywedon nhw wrthyf am y pwysau aruthrol sydd arnyn nhw, morâl isel y staff, ac effaith wanychol problemau cadw staff.

“Nid yw’r penderfyniad i weithredu’n ddiwydiannol yn un y byddan nhw wedi’i gymryd yn ysgafn.

“Mae’n siom enbyd bod Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i fethu ag amgyffred difrifoldeb y sefyllfa, a galwaf eto ar y Gweinidog Iechyd i ymgysylltu’n briodol â’r BMA ac adfer cyflog llawn i’n meddygon iau.

“Mae meddygon yn gadael Cymru mewn llu i weithio yn Awstralia a gwledydd eraill lle dangosir mwy o barch iddyn nhw.

“Ni all y Llywodraeth fforddio peidio â gwella eu cynnig, neu yn anffodus byddwn yn gweld mwy yn gadael.

“Felly, mae dod o gwmpas y bwrdd a datrys hyn yn anghenraid brys.”