Mae Ann Davies, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, yn benderfynol o sefyll dros Gymru er lles ei hwyrion.
Wedi iddi roi ei theulu a bywyd fferm yn gyntaf am flynyddoedd lawer, penderfynodd hi sefyll i fod yn gynghorydd sir yn ei phumdegau.
Bellach, a hithau yn y byd gwleidyddol ers dros saith mlynedd, mae hi’n teimlo’n barod i gymryd y cam a mynd i San Steffan er mwyn rhoi llais dros Gymru annibynnol.
“Dw i’n teimlo’n gryf iawn erioed bod Cymru yn gallu edrych ar ôl ei buddiannau ei hun,” meddai wrth golwg360.
“Gallwch chi fynd ’nôl i Dryweryn, ac amryw o enghreifftiau gwahanol ble mae’n hadnoddau naturiol ni wedi cael eu hallforio a’r gymuned leol heb gael unrhyw fudd allan o hynny.
“Mae’r un peth yn digwydd gyda [chwmnïau ynni] Bute a Green Gen nawr yn Sir Gaerfyrddin, ble maen nhw’n addo swyddi, ond rydyn ni’n gwybod fod yna ddim swyddi newydd yn mynd i ddod ar ôl y gwaith adeiladu, mewn gwirionedd.
“Mae’n hadnoddau ni yn cael eu hallforio i Loegr ac ymhellach, a dydyn ni fel cymunedau ddim yn cael dim byd yn ôl.
“Mae’n rhaid i ni stopio, ac mae’n rhaid i ni edrych ar ôl ein buddiannau ein hunain.”
Yn fam ac yn fam-gu, mae hi’n bryderus mai’r genhedlaeth nesaf fydd yn gorfod glanhau’r “llanast” sydd yn cael ei achosi i Gymru.
“Dw i’n edrych ar fy wyrion i bellach, ac yn meddwl, ‘os nad ydw i’n edrych ar ôl eu buddiannau nhw, pwy sydd yn mynd i?” meddai.
“Fy wyrion i fydd yn gorfod glanhau hyn lan, a dydw i ddim am eu rhoi nhw yn y sefyllfa yma heb roi ffeit go iawn amdani a dyna pam dw i’n sefyll am San Steffan.”
Dim parch heb driniaeth deg
Er iddi beidio â mentro’n llawn i’r byd gwleidyddol tan yn eithaf hwyr yn ei bywyd, bu Ann Davies yn weithgar iawn gyda Phlaid Cymru er pan oedd hi’n ddeunaw oed.
Dywed ei bod hi’n gweld tebygrwydd mawr rhwng blaenoriaethau Sir Gaerfyrddin a blaenoriaethau ehangach Cymru gyfan.
“Mae cyfiawnder cymdeithasol yn rhywbeth sy’n bwysig iawn i fi,” meddai.
“Mae cynhwysedd cymdeithasol yn rhan o’m mhortffolio i [yn y Cyngor], a dw i’n teimlo’n gryf iawn dros bethau fel trais domestig, cyfartaledd a hawliau’r gymuned LHDT+.
“Dros y ddwy flynedd diwethaf, dw i wedi bod ar y Cabinet ac wedi ehangu fy nealltwriaeth i’n fawr iawn o’r anghyfiawnderau mae pobol yn gorfod ymdrin gyda nhw.”
Pryder arall mae hi’n gobeithio mynd i’r afael ag e yw’r ffaith “nad yw Cymru’n cael ei hariannu’n deg gan San Steffan”.
“Rydym ni i gyd yn gwybod nad yw’r Fformiwla Barnett yn gweithio,” meddai.
“Hefyd, dydy’r arian sydd i fod i ddod atom ni, o HS2 er enghraifft, ddim yn dod.
“Os wyt ti mo’yn dangos parch tuag at unrhyw wlad neu gymuned, mae’n rhaid bod y wlad yna’n cael ei thrin yn deg, a dydyn ni ddim yn cael hynny o San Steffan ar hyn o bryd.
“Dw i’n sylweddoli mai un person ydw i, ond gyda chymorth yr aelodau seneddol eraill, mae un person yn gallu gwneud tipyn bach yn fwy o wahaniaeth.
“Felly, os gallwn ni ddod lan o’r etholiad cyffredinol gyda phedwar neu bump o aelodau seneddol Plaid Cymru dros Gymru, wedyn mae’ch llais chi’n mynd yn llawer cryfach.”
Cynhyrchu bwyd
A hithau’n ferch fferm, dywed ei bod yn “wych” gweld cymuned cefn gwlad yn dod at ei gilydd i brotestio’n ddiweddar, er gwaetha’r cyfnod wyna prysur.
A hithau hefyd yn gadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru Sir Gaerfyrddin, mae hi wedi’i siomi gan gyn lleied o newid sydd wedi bod yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wrth iddo ddatblygu.
“Dw i’n cofio mynd i’r cyfarfod cyntaf ble doedd dim bwyd, hyd yn oed, o fewn y ddogfen,” meddai.
“Beth rydyn ni’n ei wneud fel ffermwyr yw cynhyrchu bwyd – does dim ots os ydy e’n ddefaid, bîff, llaeth, llysiau, perllannau ac ati – dyna beth rydyn ni’n ei wneud.
“Mae bwyd ynddo fe nawr, ond mae e wedi hala chwe blynedd i gael hynny.”
Mae Ann Davies yn “mawr obeithio” y daw Huw Irranca-Davies â newid cadarnhaol wrth iddo gamu i bortffolio materion gwledig Llywodraeth Cymru.
“Dw i’n gobeithio eu bod nhw [Llywodraeth Cymru] yn mynd i wrando, achos os ddim, ble ydyn ni’n mynd o fan hyn?” meddai.
“Canran fach iawn, iawn fydd yn ymuno gyda’r Cynllun, a dydy hynny ddim yn mynd i fod er lles unrhyw beth yng Nghymru – y fioamrywiaeth na’r economi.”