Bydd colled fawr ar ôl Mark Drakeford fel Prif Weinidog. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi ennill parch haeddiannol am y ffordd dawel a didwyll mae wedi gweithredu fel ein harweinydd cenedlaethol. Roedd hyn yn arbennig o amlwg yn ystod y cyfnod pan oedd Boris Johnson yn Brif Weinidog [y Deyrnas Unedig], pan oedd y cyferbyniad eithaf rhwng y ddau arweinydd yn destun balchder i lawer ohonom. Mae hefyd wedi bod yn gwbl gadarn dros achos Cymru o ran ceisio mwy o rym i’n Senedd, ac all neb amau ei ddidwylledd dros y Gymraeg.
Dangosodd yn ogystal nad y gallu i roi’r byd ar dân ydi’r cymhwyster pwysicaf o angenrheidrwydd i wladweinydd llwyddiannus. Weithiau, deallusion tawel a phwyllog yn hytrach na’r cymeriadau mwyaf lliwgar ydi’r union bobol iawn i gael y maen i’r wal.
Roedd rhywun yn gwerthfawrogi’n arbennig y ffordd roedd Mark Drakeford bron bob amser yn siarad yn ei eiriau ei hun, yn hytrach nag ailadrodd slogannau gwag fel sy’n arfer gan gymaint o’i gyd-wleidyddion o bob plaid.
Yn anffodus, mae’n ymddangos mai dyn sy’n meddwl a siarad yn y fath o robotiaith sy’n ennyn cymaint o siniciaeth tuag at wleidyddiaeth ydi ei olynydd. Gallai’r math o bethau mae Vaughan Gething wedi’u dweud ers cael ei ethol fod wedi’u llefaru gan unrhyw aelod o gabinet cysgodol Keir Starmer yn Llundain.
Cymharol ychydig a wyddom, mewn gwirionedd, pa mor ymroddgar ydi o dros Gymru a’r Gymraeg, ac anaml y gwelwn unrhyw arwyddion o wreiddioldeb ac annibyniaeth barn ar ei ran. Mae’n siomedig na wnaeth fwy o ymdrech i ddysgu Cymraeg dros y blynyddoedd mae wedi bod yn Aelod o’r Senedd. Mae rhywun yn parchu ei fod o gefndir cwbl ddi-Gymraeg. Ond all rhywun ond ei gyferbynu â David Davies, Ysgrifennydd Cymru, yn hyn o beth. Er y byddai’n deg disgrifio hwnnw fel Ceidwadwr asgell dde, cenedlaetholgar Seisnig, mae eto’n rhywun sy’n ddigon eang ei ddiwylliant i ymhyfrydu yn ei allu i siarad Cymraeg a’i defnyddio bob cyfle a gaiff.
Mae’n arwyddocaol mai’r prif beth sydd gan wleidyddion Llafur i’w ailadrodd yn barhaus am Vaughan Gething ydi’r ffaith ei fod yn ddu. All rhywun ond amau y gall hyn awgrymu prinder pethau eraill o ddiddordeb i’w dweud amdano.
Er y dywed iddo ddioddef rhagfarn hiliol pan oedd yn ifanc, mae’n destun llawenydd nad oes tystiolaeth fod lliw ei groen wedi bod yn unrhyw rwystr iddo yn ei yrfa wleidyddol yng Nghymru. Siawns hefyd fod y mwyafrif llethol ohonom yn cael ein cythruddo o glywed y gamdriniaeth mae’n ei dioddef ar-lein gan leiafrif o eithafwyr ffiaidd.
Er hyn, rhaid mynnu na fydd camdriniaeth hiliol o’r fath yn cael ei defnyddio i’w amddiffyn rhag beirniadaeth deg a dilys ohono am ffaeleddau nad oes a wnelon nhw ddim â lliw ei groen. Yn anffodus, mae gan Blaid Lafur hanes hir o ddefnyddio tactegau o’r fath. Dros y blynyddoedd, mae cyhuddiadau di-sail o hiliaeth yn un o hoff arfau gwleidyddion Llafur – fel y gwelsom mor aml yn erbyn cenedlaetholwyr Cymraeg.
Chwarae’n fudr – ac arian budr
Beth bynnag fo barn rhywun am addasrwydd personol Vaughan Gething i fod yn Brif Weinidog, yr hyn na allwn ei anwybyddu ydi’r ffordd mae wedi cael ei ethol i’r swydd.
I ddechrau, does dim amheuaeth fod yr undebau wedi chwarae’n fudr trwy warafun cyfle teg i’w haelodau bwyso a mesur y ddau ymgeisydd. Ni chafodd aelodau undeb Unite y cyfle i ddewis pa ymgeisydd i’w gymeradwyo’n swyddogol; dim ond i Vaughan Gething roedd manylion cyswllt aelodau undebau eraill ar gael.
Yn fwy na dim, mae’r ffaith iddo dderbyn cyfraniad anferth o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch gan gwmni gafwyd yn euog o drosedd amgylcheddol yn ddigon i’w anghymwyso rhag y swydd.
All Llafur ddim edliw i’r Torïaid am dderbyn £10m gan ddyn busnes ddywedodd bethau ffiaidd am Diane Abbott flynyddoedd yn ôl os ydyn nhw’n barod i dderbyn arian sydd yr un mor fudr eu hunain. Mae’n werth cymharu’r symiau hefyd – mae £200,000 ar gyfer etholiad mewnol o ychydig filoedd o aelodau’r Blaid Lafur yng Nghymru gryn dipyn yn fwy mewn cymhariaeth na £10m ar gyfer etholiad cyffredinol ledled Prydain.
Mae’n amhosibl dyfalu beth oedd cwmni sy’n barod i gyfrannu £10m i’r Torïaid, a hwythau ar drothwy chwalfa debygol yn yr etholiad, yn disgwyl ei gael am eu harian. Ond nid yw’n afresymol bod yn ddrwgdybus y gall noddwr Vaughan Gething fod yn gobeithio am rywfaint o lacio ar reoliadau amgylcheddol yng Nghymru. A dim ond dechrau ydi hyn wrth gwrs. Gallwn ddisgwyl y bydd symiau tebyg yn cael eu gwario ar ddewis ymgeiswyr cefnogol i fuddiannau gwahanol fusnesau. Bydd y drefn bleidleisio newydd arfaethedig ar gyfer y Senedd – sef y rhestrau caeëdig mae’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru mor benderfynol o’u cael – yn arbennig o agored i gael ei chamddefnyddio fel hyn.
Gyda’r holl ffactorau hyn yn ei erbyn, mae’r ffaith fod Jeremy Miles wedi dod mor agos i ennill yn codi cwestiynau difrifol am ddilysrwydd yr holl etholiad. Pe bai’r cyfraniad anferth gafodd Vaughan Gething wedi cael ei ddatgelu ynghynt, mae’n gwbl resymol tybio y gallai Jeremy Miles fod wedi ennill.
Y peth lleiaf y gallai Vaughan Gething ei wneud er mwyn ceisio undod – yn ei blaid, ac ymysg etholwyr yn ehangach – fyddai cyfrannu’r arian at achos amgylcheddol. Mae’r ffaith nad yw wedi gwneud hyn yn adlewyrchiad gwael ohono fo’n bersonol – ac yn codi cwestiynau mwy difrifol fyth am y fath o bobol sy’n ei gynghori.
Maen melin am wddw Plaid Cymru
Mae’r holl amheuon hyn am ddilysrwydd Vaughan Gething fel Prif Weinidog wedi cynnig cyfleoedd ar blât i’r gwrthbleidiau ymateb yn llawer caletach nag maen nhw wedi ei wneud.
Mae’n wir fod rhesymau amlwg pam ei bod yn anodd i’r Torïaid edliw i unrhyw blaid arall dderbyn cyfraniadau ariannol o ffynonellau amheus – er nad ydi rhagrith yn rhywbeth sy’n peri rhwystr iddyn nhw bob amser.
Er hynny, mi ddylai’r swm anferthol gafodd Vaughan Gething fod yn ddigon o reswm i Blaid Cymru ddatgan ar unwaith fod eu cytundeb â Llafur yn y Senedd wedi dod i ben.
Mae’n wir fod Rhun ap Iorwerth, yn hollol gywir, wedi bod yn llym ei feirniadaeth o’r ffordd mae Vaughan Gething wedi cael ei ethol. Ar y llaw arall, tra bydd canfyddiad ymysg yr etholwyr fod Plaid Cymru a Llafur mewn rhyw fath o bartneriaeth yn y Senedd, mi fydd y cysylltiad hwnnw yn ei phardduo o hyn ymlaen.
Gwan ar y cyfan ydi eu dadleuon dros barhau â’r cytundeb. Yr hyn a gawn yn amlach na pheidio ydi rhyw ystrydebau amwys pam fod cydweithio lle bo tir cyffredin yn well na gwrthwynebu er mwyn gwrthwynebu. Does neb call yn dadlau yn erbyn hynny. Gellir derbyn hefyd mai ffurfio’r cytundeb oedd y penderfyniad iawn ar y pryd, a chydnabod yn deg a gwrthrychol yr hyn mae wedi’i gyflawni.
Mater arall ydi barnu pa fudd fydd unrhyw gysylltiad â Llafur i Blaid Cymru dros y misoedd nesaf. Dywed Plaid Cymru y bydd y cytundeb yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn p’run bynnag – sy’n swnio’n iawn tan y byddwn yn cofio’r mater bach y bydd etholiad cyffredinol wedi digwydd yn y cyfamser. A hwnnw’n etholiad lle mae llwyddiant Plaid Cymru am ddibynnu’n gyfan gwbl ar ei pherfformiad mewn dyrnaid o etholaethau gwledig lle mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ddigon amhoblogaidd ar hyn o bryd.
Waeth i Blaid Cymru heb â dadlau nad ydyn nhw ddim mewn clymblaid â Llafur yn y Senedd – does gan y mwyafrif o etholwyr ddim digon o ddiddordeb mewn prosesau gwleidyddol i wahaniaethu rhwng clymblaid a’r math o drefniant cydweithio sydd rhwng Plaid Cymru a Llafur.
A ph’run bynnag, dydyn nhw ddim yn mynd i gael y cyfle i esbonio’r gwahaniaethau yng ngwres ymgyrch etholiadol pan maen nhw mor agored i gael eu cyhuddo gan y Torïaid o fod yn ‘gŵn bach’ i Lafur. Ar adeg pan maen nhw’n ceisio mor galed i ddangos mor wahanol ydyn nhw i’r ddwy blaid fawr, syndod ydi eu gweld yn llyffetheirio eu hunain fel hyn.
Ar ben hyn, ni fyddai dod â’r cytundeb i ben yn golygu na all Plaid Cymru ddal i bleidleisio o blaid pa bynnag gynigion a ddaw gan Lywodraeth Cymru y byddai’n cytuno â nhw.
Yn ôl i 1999?
O ystyried popeth, mae’n amhosibl osgoi’r casgliad mai’r wythnosau diwethaf ydi’r cam mwyaf yn ôl i’r Gymru ddatganoledig ers ‘ethol’ Alun Michael yn 1999.
Ar y llaw arall, un peth cadarnhaol sy’n gyffredin â’r etholiad hwnnw ydi bod y canlyniad agos wedi dyrchafu Jeremy Miles, fel y gwnaeth i Rhodri Morgan, fel darpar Brif Weinidog credadwy maes o law.
Gyda help y gwrthbleidiau, llwyddodd cefnogwyr Rhodri Morgan i gael gwared ar Alun Michael yn gyflym. Gallwn fod yn sicr y bydd Vaughan Gething yn cael mwy o gyfle nag a gafodd o, a bod ei sefyllfa’n ddiogel tan ar ôl yr etholiad cyffredinol o leiaf.
Wedi’r etholiad hwnnw, fodd bynnag, a Keir Starmer yn arwain Llywodraeth Lafur â mwyafrif mawr yn Llundain, gallai’r sefyllfa newid. Os bydd Vaughan Gething yn ymddangos yn rhy eiddgar i achub cam llywodraeth Llundain yn barhaus, gall fynd i ddyfroedd dyfnion yn gyflymach na’r disgwyl.
Os digwydd hynny, gallwn ddisgwyl y bydd ei fuddugoliaeth wag yr wythnos ddiwethaf yn profi i fod yn wacach fyth.