Mae angen gwahardd gwleidyddion rhag derbyn rhoddion yn ystod eu hymgyrchoedd yn ôl Llinos Medi, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru dros Ynys Môn.
Rhannodd ei phryderon â golwg360 cyn ei haraith yng nghynhadledd wanwyn y Blaid yn Galeri Caernarfon ddydd Sadwrn (Mawrth 23).
Cyfeiriodd at y ffaith fod Vaughan Gething wedi derbyn cyfanswm o £200,000 yn rhodd gan gwmni sy’n cael ei redeg gan ddyn gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.
Enillodd Vaughan Gething ras arweinyddol Llafur Cymru gyda mwyafrif cul o 51.7% o’r pleidleisiau.
“Beth sy’n drist am y sefyllfa ydy ei fod o’n rhoi amheuaeth dros y canlyniad,” meddai Llinos Medi wrth golwg360.
“Allai neb fod yn sicr o faint o effaith gafodd y gwariant, ond mi oedd o’n rhoi mantais a dydw i ddim yn meddwl bod hynny’n deg na’n gyfartal o gwbl.
“Mae rhywun yn gofyn y cwestiwn sylfaenol o beth ydy’r rheswm y tu ôl i unrhyw rodd?
“Pan mae yna unigolion llewyrchus yn gallu dylanwadu ar bwy sy’n llywodraethu’r wlad, mae hynny’n peri pryder mawr i mi.”
Hyder “isaf erioed” mewn gwleidyddion
Wrth i Mark Drakeford, y cyn-Brif Weinidog, gamu o’r neilltu, derbyniodd cryn dipyn o glod am y cyfraniad wnaeth e i’r ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth Cymru.
Ond dywed Llinos Medi y bydd yn rhaid i’r Blaid Lafur ailadeiladu ffydd y cyhoedd wedi eu sgandal diweddaraf.
“Mae hyder y bobol mewn gwleidyddion ar ei isaf, ac mae hynny oherwydd ymddygiad gwleidyddion,” meddai wrth golwg360.
“Beth mae hyn wedi gwneud ydy dangos bod [camymddwyn] yn digwydd hyd yn oed yma yng Nghymru.
“Mae o’n ofnadwy o siomedig, a dw i’n meddwl y bydd yn rhaid i’r Blaid Lafur yng Nghymru adeiladu’r hyder yna unwaith yn rhagor.”
Mae’r Ceidwadwyr hefyd wedi’u beirniadu am dderbyn rhodd amheus o £10m gan Frank Hester, dyn ddywedodd fod yr Aelod Seneddol Llafur Diane Abbott wedi gwneud iddo “ddim ond eisiau casáu pob menyw ddu” ac y dylai hi “gael ei saethu”.
Ar ben hynny, mae Virginia Crosbie, Aelod Seneddol presennol Ynys Môn, wedi derbyn £128,500 mewn rhoddion mewn ychydig dros ddwy flynedd.
Yn ystod ei haraith, dywedodd Llinos Medi “nad oes gan gwmnïau o Lundain yr hawl i ymyrryd yn nemocratiaeth Môn na Chymru”.
Pleidlais Môn “ddim ar werth”
Wrth annerch y gynhadledd ddydd Sadwrn (Mawrth 23), mynnodd Llinos Medi pe bai’r gwleidyddion o dan sylw yn “rhoi gymaint o ymdrech i redeg y wlad yn lle edrych ar ôl eu hunan, efallai y bysen ni mewn gwell lle.”
“Does dim rhyfedd bo’r cyhoedd wedi colli hyder mewn gwleidyddion,” meddai.
“Mae gennym Blaid Geidwadol yn derbyn rhoddion anferthol gan unigolyn hiliol, a’r Gweinidogion yn tyrru ar y cyfryngau i’w amddiffyn neu ddod â’r frawddeg arferol allan – “it’s time to move on, he’s apologised”.
“Ydi wir, mae’n amser symud ymlaen a chael gwared â’r Blaid Geidwadol sydd wedi dinistrio ein cymunedau, rhwygo gobaith ein hieuenctid a sicrhau bod eu ffrindiau yn elwa ar y ffordd.”
Cwestiynodd hefyd beth yw gwir ddiddordeb rheolwyr cronfeydd buddsoddi yn Llundain, oedd wedi rhoi arian i Virginia Crosbie, ym Môn.
“Ydych chi’n meddwl eu bod yn frwd dros y Gymraeg, neu dros ein cymunedau gwledig neu efallai dros ein hetifeddiaeth? Nac ydyn siŵr,” meddai.
“Ac mae disgwyl i bobol Ynys Môn werthfawrogi’r arian er mwyn prynu rhyw hi-vis neu bamffled sy’n greadigol gyda’r gwir drwy ddrysau’r ynys.
“Dim ond un rheswm sydd tu ôl i’r rhoddion hyn, sef cadw’r Blaid Geidwadol ddinistriol mewn grym, er mwyn iddyn nhw chwalu’r economi, gwasanaethau cyhoeddus a dyfodol y wlad fwy byth.
“Fy neges i iddyn nhw ydi, dydi pleidlais pobol Ynys Môn ddim ar werth.”