Mae’r NIUR yn bodoli!
NIUR? The National Institute of Unnecessary Research.
Myn gwaith ymchwil diweddar fod dynion yn prysur gefnu ar yr eglwys Gristnogol. Na! Wir? Does bosib?!
Dyna’r esboniad, felly, am y ffaith mai’r mamau’n lled gyffredinol sydd yn dod â’u plant i’r capel, tra bod y tadau’n seiclo, chwarae golff, rhedeg, neu’n hyfforddi’r tîm rygbi lleol. Och! Nawr dw i’n deall. Diolch i – ac am – waith y NIUR… Maddeued y nodyn gwawdus. Calliaf!
Yn ôl y gwaith ymchwil hwn, mae dynion wedi diflasu ar grefydd; yn teimlo’n fwy a mwy ymylol a digyswllt. Os dôn nhw o gwbl, meddai’r ymchwilwyr o’r Unol Daleithiau, fe ddôn nhw yn rwgnachlyd, i gyflawni dyletswyddau mab, gŵr, tad, diacon… gweinidog. Trodd cymdeithas pobol Dduw, ffydd, gobaith a chariad yn lluniau pastel ynghrog ar furiau magnolia.
Pam y pellhau? Mae’r rhesymau sy’n cael eu cynnig bron mor wirion ag ydyn nhw’n ddisylwedd. Mae ambell arweinydd eglwysig yn honni mai peth greddfol – hormonaidd – ydyw. Creadur corfforol yw’r gwryw; heliwr a chasglwr ydyw: mentrus a chreadigol. Welwn ni’r un o’r pethau hyn yn ein crefydda llyfn, meddal, amlbwrpas. Yr ateb? Troi pob capel yn man cave efallai, gyda thrwch o dechnoleg, oherwydd mae dynion yn ymateb yn dda i sleidiau PowerPoint, a systemau sain soffistigedig. Och! Mae’r stereoteipiau yn pentyrru!
Diolch byth y caiff esboniadau ychydig yn ddyfnach a lletach eu cynnig. Cafodd canrifoedd o grefydd gyhyrog a ‘chaled’ eu herydu gan don ar ôl ton o feddalwch ‘benywaidd’. Yr ateb? E-teb efallai. Mae gwefannau neilltuol ar gael sydd yn estyn cymorth i’r eglwys leol honno sydd am Shwarzeneggio! Mae un yn cynnig Ten Ways to Man-up your Church. Dyma’r gyntaf ohonyn nhw:
- Sicrhau gweinidog tal a chydnerth, sydd yn deall ei bethau am chwaraeon. (Mae diaconiaid eglwys Minny Street yn cwrdd nos yfory – nos Lun, Mawrth 25 – i drafod hyn, gan fod angen dybryd talach, lletach dyn na fi arnyn nhw; un sydd â diddordeb real mewn rygbi a phêl-droed).
Maddeued y gwamalu. Ceisiaf gallio o’r newydd! Nid oes gwadu’r ffaith fod dynion rhwng ugain a hanner cant oed yn greaduriaid prin yn ein heglwysi Gorllewinol, a bod hynny yn wir ar draws yr ystod enwadol a diwinyddol. Yng nghanol y frawddeg aeth heibio, mae’r un gair sydd i ni’n gymorth i ddeall hyn oll, ac efallai hyd yn oed yn gymorth i ni ddarganfod, nid ateb ond yr ateb. Y gair allweddol oedd ‘Gorllewinol’. Mae un llinyn ymchwil wedi amlygu gwirionedd hollbwysig. Yr unig draddodiad Cristnogol nad yw’n colli ei afael ar ddynion yw’r traddodiad barfog hwnnw: Yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol. Caiff y traddodiad hwn ei nodweddu gan bwyslais ar ddyletswyddau ffydd; ni fu, ac nid yw’r traddodiad hwn yn meddalu’r ffydd er mwyn ceisio lledu ei apêl. Mae’n dysgu a dangos o hyd fod ffydd yn Nuw yn gosod rhwymedigaethau arnom. Myn y traddodiad hwn mai’r peth a ofynnir gennym gan Dduw yw gwrando ac ufuddhau.
Onid ydym, yma yn y Gorllewin ac yn bendant yma yng Nghymru, ers degawdau bellach wedi cynnig i’n pobol Efengyl wedi’i stripio’i gwefr a’i grym, gan ein bod ni wedi’i stripio hi o’i thramgwydd? Efengyl sydd yn hawlio ymdrech, yn mynnu ein gorau yw Efengyl Iesu Grist. Troesom hynny yn ddim byd amgenach nag apêl lipa, lwyd, bathetig ar i bobol, os oes amser/amynedd/egni yn weddill ganddyn nhw i ddod i’r cwrdd (os gwelwch yn dda), canu pedwar emyn a rhoi rhywbeth yn y casgliad. Gwell lled-Gristnogion na dim Cristnogion o gwbl wedi’r cyfan! Och! Llesgaodd yr asbri, a’r ddelfrydiaeth a’r anturiaeth ar yr union adeg pan oedd eu hangen fwyaf, ac erbyn hyn mae ‘Cristnogaeth’ yng Nghymru, a Chymru ei hun, wedi mynd rhwng y cŵn a’r brain.
Dywedwyd wrthyf yn ddiweddar fy mod fel pe bawn wedi fy nadrithio â’r weinidogaeth. Too right! Ydw, glei! Ond… dw i’n gwbl ffyddiog mai llesol yw’r dadrithiad hwn. Dymunaf ddadrithiad yn dalpau i’m cyd-weinidogion ac arweinyddion eglwysig. Gweddïaf am ddadrithiad yn drwch trwm i eglwysi Cymru, gan mai’r dadrithiad hwn fydd yn ein harwain i bwyso’n drymach ar Iesu, i ddatrigoli ein cenhadaeth, ac arwain ein cyd-Gymry o’r newydd at iachawdwriaeth gwir radical.
Ym mhennill cyntaf ei gerdd i’r Parchedig Aled ap Gwynedd (1943-2003), cawn gan Ceri Wyn Jones agenda i bob cwrdd eglwysig a chyfarfod diaconiaid; testun i bob sesiwn hyfforddiant mewn swydd i weinidogion; a gwrthrych trafodaeth a phenderfyniad i bob Cyfundeb ac Undeb:
Gyda’r dewraf y safai – geiriau gwir
y Gair a gyhoeddai:
dros ein hachos ymladd ‘wnâi,
a byw’r gwaith a bregethai.
(Barddas 306; Ionawr-Mawrth 2010)