Mae’r diwrnod pan fydd pwerau Cymru yn nwylo Plaid Cymru yn agosáu, yn ôl Stephen Flynn, arweinydd yr SNP yn San Steffan.

Daeth ei sylwadau wrth iddo annerch y gynulleidfa yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn Galeri Caernarfon.

Yn ystod ei araith, mynegodd ei werthfawrogiad o Mark Drakeford, cyn-Brif Weinidog Cymru, ar ôl iddo ymddiswyddo’n swyddogol ddydd Mawrth (Mawrth 10), gyda Vaughan Gething yn ei olynu.

“O safbwynt yr SNP, roedd Mark yn ffigwr cynyddol brin yn y Blaid Lafur,” meddai Stephen Flynn.

“Roedd yn amddiffynnydd cryf o ddatganoli. Bydd yn cael ei gofio fel prif weinidog o ddifrif a wnaeth bethau o ddifrif.”

Y Prif Weinidog newydd

Ond awgrymodd wedyn nad oes ganddo fawr o ffydd yn y Prif Weinidog newydd.

“Heb fynd yn rhy bell na threiddio’n rhy ddwfn, y cyfan ddywedwn i yw fy mod yn amau ​​y bydd Mark Drakeford yn un anodd i rywun ei ddilyn,” meddai Stephen Flynn.

“O ystyried y cyd-destun hwnnw, does gen i ddim amheuaeth fod y diwrnod yn nesáu pan fydd Cymru yn ethol Prif Weinidog Plaid Cymru. Dim pwysau!”

“Bythol ddiolchgar” am gyfeillion Plaid Cymru

Yn ystod ei araith, talodd Stephen Flynn deyrnged hefyd i aelodau Plaid Cymru yn San Steffan, gan ddweud bod Liz Saville, arweinydd y Blaid yno, “yn gwneud yn siŵr bod llais Cymru yn cael ei glywed bob amser”.

“O dan arweiniad Rhun [ap Iorwerth], fyddech chi ddim yn gallu cael eich arwain yn well yn yr etholiad cyffredinol nesaf,” ychwanegodd.

“[Mae e’n] hyderus, ymgysylltiol a chadarnhaol am ddyfodol Cymru; cymaint o wrthgyferbyniad â gwleidyddiaeth status quo enbyd y pleidiau Llafur a Cheidwadol.”

O’r eiliad y daeth yn arweinydd yr SNP yn San Steffan, meddai, roedd e’n “awyddus ac yn falch o gynnal y berthynas waith agosaf â’n cydweithwyr Plaid Cymru.”

“Mae Liz [Saville Roberts] a minnau’n siarad yn rheolaidd iawn, ac rwy’n fythol ddiolchgar am ei geiriau doeth a’i chyngor cryf.”

Ychwanegodd fod cynnal y berthynas waith agos honno’n bwysig, “yn enwedig pan mai ein lleisiau ni yw’r unig leisiau mawr yn San Steffan sy’n sôn am y materion pwysicaf”.

‘Ar ochr gywir hanes’

Tynnodd Stephen Flynn sylw hefyd at y rhyfel yn Gaza, a’r galwadau diweddar yn San Steffan am gadoediad.

“Yn ystod y misoedd diwethaf, ni fu unrhyw fater pwysicach na’r sefyllfa erchyll yn Gaza ac Israel,” meddai.

Yr SNP oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r cynnig gerbron Tŷ’r Cyffredin yn ddiweddar yn galw am gadoediad yn Gaza.

Ond arweiniodd ffraeo yn y siambr at beidio cynnal y bleidlais.

Cyn hynny, fis Tachwedd y llynedd, roedd Plaid Cymru hefyd wedi rhoi cynnig am gadoediad gerbron y siambr.

“Rwy’n falch o’r ffaith nad unwaith ond ddwywaith, mai aelodau seneddol Plaid Cymru a’r SNP gyflwynodd gynigion ar y cyd, yn mynnu bod San Steffan yn dod â’u hamwysedd i ben, yn rhoi terfyn ar eu distawrwydd ac yn pwyso am gadoediad ar unwaith,” meddai Stephen Flynn.

“Am bob owns o falchder, teimlaf ein bod ni wedi gweithredu a’n bod ni ar ochr gywir hanes.”