Mae Heddlu’r De yn dweud iddyn nhw dderbyn adroddiadau o chwe marwolaeth sydyn yng ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers diwedd mis Chwefror.

Mae lle i gredu bod marwolaethau pedwar o bobol yn ymwneud â chyffuriau, tra nad oes amgylchiadau amheus ynghlwm wrth farwolaethau’r ddau arall.

Ond dydy’r heddlu ddim yn gallu cadarnhau’r cysylltiad â chyffuriau ar hyn o bryd, hyd nes bod proses chwim wedi’i chyflawni i ganfod olion o’r sylwedd Nitazene. Mae’r cyffur sbeis wedi’i ganfod yn achos dwy farwolaeth.

Dywed yr heddlu bod archwiliadau post-mortem dau ddyn wedi’u cwblhau, ond nad oes modd dweud â sicrwydd beth oedd wedi achosi eu marwolaethau hyd nes bod adroddiad tocsicoleg ar gael.

Dydy archwiliad post-mortem ddim wedi cael ei gwblhau ar ddau o’r dynion.

Dywed yr heddlu y byddan nhw’n parhau i gydweithio â charchar y Parc, G4S, yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.