Mae tlodi gwledig yn “gudd iawn”, gyda mwy fyth o stigma o fewn cymunedau Cymraeg eu hiaith a chymunedau gwledig, yn ôl Siân Gwenllian.
Daeth sylwadau’r Aelod Dynodedig o Blaid Cymru yn ystod sgwrs banel am fudd-daliadau yng Nghymru, yng Nghynhadledd Wanwyn y Blaid yn Galeri Caernarfon.
Dywedodd fod “premiwm gwledig” pan ddaw i gostau byw hefyd, oherwydd y diffyg trafnidiaeth a gorfod dibynnu ar siopau llai oherwydd bod pobol yn methu cyrraedd siopau mawr.
Yn ystod y sgwrs, oedd wedi’i noddi gan Sefydliad Bevan, mynnodd y Blaid fod angen gwneud y broses o hawlio budd-daliadau yn un haws.
Serch hynny, dywedodd Siân Gwenllian fod camau bychain yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb trwy’r Cytundeb Cydweithio.
Y lefelau uchaf o ddyled
Y pryder yw fod pobol yn “dueddol o anghofio” am effaith ariannol Covid-19 ar aelwydydd, oherwydd bod yr argyfwng costau byw ac ynni wedi dilyn yn syth wedyn, medd Plaid Cymru.
Mae’r pandemig wedi gadael Cymru â’i lefelau dyled uchaf erioed.
Yn ôl Sioned Williams, llefarydd cyfiawnder cymdeithasol y Blaid, mae arian wedi’i gyllidebu ar gyfer y rheiny sy’n dal i ddioddef yn ariannol ar ôl y pandemig.
“Pam dyw ymwybyddiaeth o’r lwfansau a budd-daliadau Cymreig yma ddim yn uwch?” gofynnodd, wrth siarad yn y gynhadledd.
“Pam bod pobol dal mewn tlodi os ydyn nhw yn gymwys am yr arian yma?”
Fis Chwefror eleni, cafodd Siarter Budd-daliadau Cymru – cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a phob un o’r 22 awdurdod lleol – ei lansio i gydweithio er mwyn gwella system fudd-daliadau Cymru.
Dywed Sioned Williams fod gwaith y siarter yma’n “greiddiol” er mwyn trechu tlodi.
Ond er mwyn mynd ymhellach, mae Plaid Cymru’n galw am sail statudol i fudd-daliadau, er mwyn sicrhau ei fod yn rhywbeth sy’n digwydd “yn awtomatig ac yn llyfn”
“Mae’r bobol yma yn gymwys am yr arian yma, felly dylen nhw fod yn ei dderbyn e,” meddai.
‘Cymru ar ei cholled’
Dywed Nia Jeffreys, Cynghorydd Plaid Cymru dros ward Dwyrain Porthmadog, fod Cyngor Gwynedd eisoes wedi croesawu’r siarter ac yn gweithredu ar sail yr egwyddorion.
“Pan ydych chi’n siarad efo pobol sydd yn byw mewn tlodi, rydych chi’n clywed am y pwysau meddyliol maen nhw’n cario,” meddai.
“Mae angen cymryd y dewrder ac amser i ffonio, ac yna llenwi llwyth o ffurflenni.”
Mae hi eisiau sicrhau bod pawb yn cael yr hyn maen nhw’n gymwys i’w dderbyn, yn y ffordd hawsaf posib.
Felly, mae’r Cyngor wedi dechrau ffonio pobol sy’n gymwys am rai budd-daliadau sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol, megis cinio ysgol am ddim, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n deall hynny.
“Rydan ni’n trio mynd y cam ychwanegol yna, achos mae o mor hanfodol o bwysig,” meddai.
“Mae Cymru hefyd ar ei cholled os dydy pobol ddim yn hawlio pob ceiniog.
“Ddylai bod dim cywilydd o gwbl o wneud hynny.”
Fodd bynnag, ychwanegodd ei bod yn destun tristwch gweld sawl un yn hawlio’r budd-daliadau maen nhw’n gymwys i’w derbyn ond yn dal yn cael trafferth ymdopi â chostau byw.
Dywedodd fod Cymru fel pe bai “wedi cael ei tharo ddwywaith” gan y system Dorïaidd yn Llundain, ac yna’r Blaid Lafur.
“Dydy’r Blaid Lafur yng Nghymru ddim rili wedi gwneud lot i hyrwyddo swyddi gwerth uchel,” meddai.
Ychwanegodd fod llawer o’r swyddi yn ei hardal hi yn rhai tymhorol, lle mae’n rhaid i bobol ailymgeisio amdanyn nhw.
“Mewn llefydd gwledig, dydy Llafur yng Nghaerdydd heb wneud digon i godi safonau bywyd pobol,” meddai.
‘Urddas a pharch’
Yn ôl Siân Gwenllian, y cam nesaf er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa yw dod â rhanddeiliaid, llywodraeth leol ac elusennau at ei gilydd a throi’r egwyddorion sydd yn y siarter yn bwyntiau gweithredu.
Ychwanegodd fod angen dileu’r stigma a rhoi urddas a pharch i bobol sy’n dod i chwilio am gymorth ariannol am y tro cyntaf hefyd.
Er mwyn hwyluso’r sefyllfa, mae hi’n awgrymu creu system fwy hyblyg, lle mae un cais yn ddigon i allu canfod pa arian sydd ar gael; ar hyn o bryd, mae pobol yn aml iawn yn gorfod gwneud oddeutu pum cais.
“Mae angen dod â phopeth at ei gilydd er mwyn gwneud y broses yn haws a sicrhau fod yno ddim dyblygu gwaith,” meddai.
“Mae angen symleiddio’r holl broses, ond y peth pwysicaf ydy tynnu’r negyddiaeth oddi wrth hawlio’r arian.
“Mae o’n hawl sylfaenol ar gyfer pobol sydd, am ba bynnag reswm, heb ddigon o arian er mwyn cynorthwyo’u hunain neu eu teuluoedd.”