Mae Cyngor Sir yn Iwerddon wedi bod yn trafod yr angen am Swyddog Iaith Wyddeleg i hybu’r iaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Aine Smith, sy’n aelod o Gyngor Sir Cavan, gynnig yn galw ar yr awdurdod i “drafod yr angen” am y fath swyddog er mwyn “helpu i hyrwyddo’r iaith Wyddeleg”.
Wrth gyflwyno’i hachos, dywedodd fod yr iaith wedi goroesi ymosodiadau a’r newyn mawr yn y wlad.
“Mae siaradwyr brodorol, hen ac ifanc, yn defnyddio Gwyddeleg bob dydd,” meddai yn ei mamiaith.
“Ar hyn o bryd, mae adfywiad yn yr iaith Wyddeleg, a bydd ei gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn gofyn am ymyriadau.”
250,000 o siaradwyr erbyn 2030?
Clywodd y Cyngor mai ychydig iawn o gynnydd sydd wedi bod wrth geisio cyrraedd y targed o 250,000 o siaradwyr Gwyddeleg erbyn 2030 – yn debyg i nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedodd y Cynghorydd Aine Smith o blaid Fianna Fáil mai addysg a chynnal y Gaeltacht fyddai’r ddau beth allweddol er mwyn gwireddu’r uchelgais, gan gyfeirio at rai pobol sy’n cefnu ar yr iaith Wyddeleg er mwyn siarad Saesneg.
Dywedodd fod “rhaid sicrhau cydraddoldeb ieithyddol”, ond nad oes Swyddog Iaith Wyddeleg gan Gyngor Sir Cavan.
Galwodd wedyn am siarad mwy o Wyddeleg yn Siambr y Cyngor hefyd.
Cydweithio
Wrth gyflwyno cynnig arall, fe wnaeth y Cynghorydd Paddy McDonald o blaid Sinn Féin alw am gydweithio rhwng Cyngor Sir Cavan a mudiad Conradh na Gaeilge i sicrhau llwyddiant y digwyddiad Seachtain na Gaeilge yn 2025.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal bob blwyddyn rhwng Mawrth 1-17.
Ond dywedodd nad oedd Conradh na Gaeilge wedi gallu ei drafod â’r Cyngor, gan ychwanegu bod rhaid penodi Swyddog Iaith Wyddeleg er mwyn bod “o ddifrif” am yr iaith.
Galwodd y Cynghorydd John Paul Feeley am Strategaeth Iaith Wyddeleg i’r Cyngor, er mwyn datblygu ar y gwaith sy’n cael ei wneud yn ystod Seachtain na Gaeilge.
Dywed y Cyngor eu bod nhw wedi dechrau proses recriwtio ar gyfer Swyddog Gwyddeleg, ar ôl i’r swyddog blaenorol adael, a bod digwyddiadau Gwyddeleg wedi’u trefnu fel rhan o Seachtain na Gaeilge.
Cafodd cynigion y ddau gynghorydd eu derbyn.