Gohebydd Materion Cyfoes golwg360 sy’n gohebu o Gynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yng Nghaernarfon
Mae Huw Irranca-Davies yn ymddangos fel gwleidydd “sydd â gallu cynhenid o’i fewn o”, yn ôl llywydd NFU Cymru.
Dywed Aled Jones ei fod wedi cyfarfod ag Ysgrifennydd Materion Gwledig newydd Cymru ddwywaith dros yr wythnos ddiwethaf, cyn clywed ddoe (dydd Iau, Mawrth 21) mai fe fyddai deilydd nesa’r swydd.
“Roedden ni’n ymwybodol y byddai yna symudiadau fwy na thebyg,” meddai wrth golwg360 yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Galeri Caernarfon.
“Fel oedd o’n digwydd bod, wnaethon ni gyfarfod efo Huw Irranca-Davies mewn sesiwn roedden ni wedi ei chynnal yn y Bae fore Mawrth.
“Cawson ni sgwrs hir iawn, a dw i’n cofio gofyn ryw gwestiwn bach gogleisiol, tybed fydden ni’n gweld mwy ohono fo.
“Wrth gwrs, mae gennym ni berthynas efo Huw Irranca-Davies ers peth amser; mae o’n wleidydd profiadol iawn, un o’r rhai mwyaf profiadol faswn i’n ddweud.”
Cabinet newydd â phortffolio “taclusach”
Gyda’r Cabinet newydd, daeth newidiadau i’r portffolios hefyd.
Roedd Materion Gwledig yn rhan o bortffolio Lesley Griffiths yn y llywodraeth ddiwethaf, a Newid Hinsawdd yn rhan o bortffolio Julie James.
Yn ôl Aled Jones, bydd y portffolio newydd, “bosib iawn, yn daclusach”.
“Efallai ei fod o yn gadarnhaol i ni fod gennym ni wleidydd sydd â gallu cynhenid o’i fewn o,” meddai Aled Jones.
“Cawn weld; dw i’n gobeithio cael galwad efo’r gweinidog heddiw i gael syniad sut mae hyn yn mynd i weithio, a lle fydd y terfynau rhwng amaeth a newid hinsawdd.”
Dywed fod unrhyw gyfnod pan fo Gweinidog – neu Ysgrifennydd – newydd yn dod i rym yn golygu bod rhaid sefydlu perthynas â nhw.
“Mae perthynas yn bwysig, allwch chi ddim osgoi hynny,” meddai.
“Mae’n rhaid i chi fod yn barod i herio a chael eich herio, a dw i’n tybio bod Huw Irranca-Davies yn berson fel yna; mae o’n fwy na parod i ddadlau.
“Mae o’n berson teg, yn ôl beth dw i’n ei ddeall.”
Protestio’n gwneud gwahaniaeth
Wrth siarad am y protestio diweddar gan ddiwydiant amaeth Cymru, dywed Aled Jones ei fod, “heb os”, wedi gwneud gwahaniaeth, gyda’r drwgdeimlad o fewn cymunedau gwledig “wedi bod yn berwi ers peth amser”.
“Mae gennych chi gyfyngiadau a rheoliadau sydd wedi bod yn loes calon i gymaint o ffermwyr yng Nghymru,” meddai.
“Mae pwysau’r rheoliadau yma’n drwm iawn ar y diwydiant.”
Dywed nad oes rhyfedd fod ffermwyr wedi dweud “digon yw digon” ar ôl yr ymgynghoriad.
“Heb os nac oni bai, mae’r protestiadau wedi gweithio.
“Tydi ffermwyr ddim yn aml iawn yn protestio.
“Mae pobol, nid yn unig mewn llefydd gwledig ond mewn llefydd trefol hefyd, yn cydnabod rôl mor bwysig mae amaethyddiaeth yn gallu rhedeg mewn cyflenwi bwyd i’n cenedl ni.”
Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae 233,000 o bobol yng Nghymru yn ddibynnol ar fwyd a diod i gael incwm a bywoliaeth.
“Fel gwlad, rydyn ni’n fwyfwy dibynnol ar fewnforio bwydydd i’n gwlad ni,” meddai.
“Dydy o ddim yn le sicr na chyffyrddus i fod ynddo fo.
“Dw i’n mawr obeithio y bydd yna ailsefydlu perthynas wan, gweledigaeth tymor hir lle mae diogelwch bwyd yn allweddol.
“Allwn ni byth â fforddio colli swyddi yng nghefn gwlad. Tynnwch amaethyddiaeth allan o gymunedau gwledig, a does yna ddim llawer ar ôl.”