Mae’r cyn-arweinydd Carles Puigdemont wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll yn etholiadau Catalwnia ar Fai 12.

Daeth cyhoeddiad arweinydd plaid Junts per Catalunya yn ystod cynhadledd i’r wasg yn Elna yng ngogledd Catalwnia, sydd dros y ffin yn Ffrainc.

Fe fu’n byw’n alltud ers refferendwm annibyniaeth 2017, gafodd ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd sut y bydd e’n ymgyrchu o dramor.

Bydd y Bil Amnest sydd ar y gweill yn ei alluogi i ddychwelyd i Gatalwnia, ond dydy’r gyfraith ddim wedi dod i rym eto, ac fe allai hynny gymryd rhai misoedd.

Fe fu Carles Puigdemont yn addo dychwelyd i Gatalwnia pe bai’n ennill mwyafrif er mwyn cael dod yn arlywydd eto, ac mae ei gyfreithwyr yn dweud ei fod yn barod i gael ei arestio.

Adfer llywyddiaeth

Yn ystod ei araith yn Elna, fe wnaeth Carles Puigdemont addo adfer y llywyddiaeth gafodd ei “gwrthod yn anghyfreithlon” gan Sbaen yn dilyn refferendwm 2017.

Ychwanegodd y bydd yn camu o etholiadau Senedd Ewrop ar Fehefin 9, ac yntau’n Aelod ers 2019.

Er y byddai’n ffafrio creu rhestrau o ymgeiswyr dros annibyniaeth allai gydweithio, dywed fod plaid Esquerra wedi wfftio’r posibilrwydd.

Wrth drafod gwrthwynebwyr ei blaid, dywedodd y byddai ei ddull o negodi â’r Sosialwyr yn wahanol i ddulliau Esquerra.

“Dw i ddim yn siŵr sawl gwaith mae’r bwrdd trafod wedi cwrdd,” meddai, cyn cymharu’r sefyllfa â phêl-droed.

“Dydy hi ddim yr un fath cyfarfod ym Madrid – sydd fel chwarae yn y Bernabeu [cartref Real Madrid] gyda’r dyfarnwr a VAR o blaid y rhai lleol – â’i wneud e yn y Swistir â negodwyr rhyngwladol, sydd fel chwarae yn Wembley â dyfarnwyr niwtral.”