Fe fu cynnydd o fwy nag 20% dros y naw wythnos ddiwethaf ym mhrisiau ŵyn pwysau mawr, yn ôl Hybu Cig Cymru.

Daw hyn yn sgil mwy o alw gan ddefnyddwyr cig oen dros wyliau crefyddol, a llai o ŵyn yn cyrraedd y farchnad.

Mae naw cynnydd wythnosol yn olynol yn y prisiau wedi mynd â phris SQQ cyfartalog ŵyn pwysau marw ledled gwledydd Prydain i bron i £7.90/kg, sy’n gynnydd o £1.74 ers wythnos gyntaf 2024, yn ôl rhifyn newydd Bwletin y Farchnad Hybu Cig Cymru.

Roedd y pris diweddaraf, ar gyfer yr wythnos ddaeth i ben ar Fawrth 16, yn uwch na’r pris uchaf ar gofnod y llynedd, sef tua £7.43/kg ym mis Mai, ac mae hynny oddeutu 50% yn uwch na’r cyfartaleddau hanesyddol.

Gwyliau crefyddol a llai o gyflenwad

Mae llai o gyflenwad a gwyliau crefyddol, pan fo cig oen yn cael ei fwyta’n draddodiadol, wedi cyfrannu at y prisiau uwch, yn ôl Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC.

“Caiff mwy o gig oen nag arfer ei fwyta yn ystod gwyliau crefyddol, ac eleni mae’r Pasg a Ramadan – yr ŵyl Islamaidd sy’n cynyddu’r galw am broteinau fel cyw iâr a chig oen – yn digwydd ym mis Mawrth,” meddai.

“Mae’r digwyddiadau hyn, ynghyd â’r crebachu yn niadelloedd defaid magu yn y Deyrnas Gyfunol a Chymru, yn golygu bod y cyflenwad ŵyn sy’n dod ar y farchnad ar hyn o bryd yn gyfyng o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol ac i ateb i galw presennol.”

Ychwanega fod data trwybwn gan Defra ar gyfer y cyfnod o fis Mai y llynedd hyd at fis Chwefror eleni’n dangos bod 10.2m o ŵyn wedi cael eu prosesu yn y Deyrnas Gyfunol hyd yma eleni, sy’n debyg i’r nifer yn y flwyddyn flaenorol.

Serch hynny, roedd arolwg mis Mehefin wedi dangos bod tua 6% yn llai o ŵyn wedi cael eu geni nag yn y flwyddyn flaenorol.

“Mae hyn yn dangos taw nifer cyfyngedig o ŵyn sydd ar ôl ar y ffermydd,” meddai wedyn.

Allforion yn gryf

Mae’r patrymau masnach hefyd wedi rhoi rhywfaint o anogaeth i’r farchnad gartref, gydag amcangyfrifon Hybu Cig Cymru o ddata Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn datgelu bod allforion cig defaid o Gymru yn gryf yn 2023.

Roedd cynnydd o 10% o ran gwerth i gyfanswm o £190.9m.

“Mae hyn yn awgrymu, er gwaethaf y twf economaidd lleiaf posibl ar draws marchnadoedd y byd oherwydd lefelau chwyddiant, fod galw o hyd am gig oen yn y gwledydd sy’n mewnforio ein cig,” meddai Glesni Phillips.

Mae hi o’r farn y bydd masnachu yn 2024 yn parhau i fod yn gystadleuol.

“Wrth edrych ymhellach i’r dyfodol, mae yna ragor o ddyddiau gŵyl allweddol yn 2024,” meddai.

“Mae gŵyl Qurbani, ‘gŵyl y wledd’, er enghraifft, ar fin digwydd ganol mis Mehefin, a gallai argymhellion Cynllun Ffermio Cynaliadwy Cymru roi pwysau pellach ar niferoedd.”