Mae Canada wedi rhoi hwb i iechyd pobol mewn cymunedau ieithoedd lleiafrifol, fel rhan o fuddsoddiad mewn iechyd pobol fregus.

Un o nodau’r rhaglen Blynydodedd Cynnar Iach (HEY) yw gwella iechyd a datblygiad plant a’u teuluoedd, yn enwedig pobol fregus, sef un o flaenoriaethau Llywodraeth Canada.

Nod arall yw sicrhau bod rhaglenni’n addas ac yn briodol o ran iaith a diwylliant cymunedau ledled y wlad, er mwyn sicrhau bod plant a theuluoedd yn iachach a chadw cymunedau’n iach am genedlaethau i ddod.

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi buddsoddiad o $9,450,000 dros gyfnod o bum mlynedd i ddau sefydliad drwy’r rhaglen, gan helpu pobol a theuluoedd sy’n wynebu rhwystrau o ran cydraddoldeb mewn iechyd.

Bydd y Société Santé en français (SSF) – neu’r Gymdeithas Iechyd yn Ffrangeg – yn derbyn $7,560,000 i gefnogi siaradwyr Ffrangeg sy’n byw mewn cymunedau lleiafrifol tu allan i dalaith Quebec.

Bydd y Rhwydwaith Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (CHSSN) yn derbyn $1,890,000 i gefnogi siaradwyr Saesneg yn y cymunedau hyn yn nhalaith Quebec.

Bydd y sefydliadau’n cyfeirio’r arian at sefydliadau cymunedol sy’n cefnogi’r broses o gyflwyno mentrau lleol, gan gynnwys gwasanaethau cyn-enedigol ac ôl-enedigol, rhaglenni sgiliau rhieni, a rhaglenni’n ymwneud â pherthynas rhieni â’u plant.

Dros gyfnod o bum mlynedd, bydd y ddau sefydliad yn cynnig cefnogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd i rwydweithio, yn cyfnewid gwybodaeth ac yn cydweithio ar ddigwyddiadau, gan ddosbarthu gwybodaeth ac adnoddau i’w partneriaid.