All pleidiau gwleidyddol yn San Steffan ddim cael eu gadael i esgeuluso menywod WASPI, yn ôl Ben Lake.
Daw sylwadau Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion wrth iddo fe alw ar y Ceidwadwyr a Llafur i gefnogi rhoi iawndal i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan newidiadau i’r oedran y gall menywod dderbyn eu pensiwn gwladol.
Mae’n galw ar Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i gymryd cyfrifoldeb ac i dderbyn argymhellion yr Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd.
Hyd yn hyn, dydy’r Adran Gwaith a Phensiynau ddim wedi bod yn barod i gydymffurfio â’r argymhellion.
Roedd yr adroddiad sy’n amlinellu’r argymhellion yn nodi y dylai menywod sydd wedi cael eu heffeithio dderbyn rhwng £1,000 a £2,950 am “anghyfiawnder sylweddol a/neu barhsus sydd, i ryw raddau, wedi effeithio ar allu rhywun i fyw bywyd cymharol normal”.
Mae Ben Lake yn galw am fwy o iawndal na’r hyn sydd wedi’i argymell eisoes, o ystyried maint dioddefaint menywod WASPI.
Mae e hefyd yn galw ar y Blaid Lafur am ymrwymiad tebyg pe baen nhw’n dod i rym yn San Steffan ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.
Daw hyn ar ôl i Jeremy Hunt, y Canghellor Ceidwadol, ac Anneliese Dodds, cadeirydd y Blaid Lafur, wrthod ymrwymo i roi iawndal i’r menywod sydd wedi colli arian yn dilyn methiant yr Adran Gwaith a Phensiynau i gyfathrebu’r newidiadau’n ddigonol.
‘Blynyddoedd o anghyfiawnder’
“All pleidiau gwleidyddol yn San Steffan ddim cael esgeuluso menywod WASPI eto,” meddai Ben Lake.
“Mae’r menywod hyn wedi dioddef blynyddoedd o anghyfiawnder, ac eto mae Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig yn parhau i wrthod atebolrwydd a gwadu iawndal priodol.
“Yn fy etholaeth fy hun yng Ngheredigion, mae dros 5,000 o fenywod wedi cael eu heffeithio gan y camweinyddu hwn.
“Maen nhw’n haeddu cyfiawnder, sy’n gorfod cynnwys iawndal cyflym a theg.
“Mae Plaid Cymru wedi cydsefyll â WASPI bob cam o’r ffordd.
“Byddwn ni’n parhau i gefnogi WASPI gan addo helpu mewn unrhyw ffordd allwn ni.”