Mae yna “dri chategori o bobol” sy’n derbyn anrhydeddau, yn ôl Dafydd Iwan.
Mae’r canwr ac ymgyrchydd wedi ymateb i edefyn gan y cyflwynydd radio James O’Brien, yn synnu nad yw’r cyflwynydd teledu John Craven wedi’i urddo’n farchog.
Derbyniodd cyn-gyflwynydd Newsround a Countryfile yr OBE am ei wasanaeth i ddarlledu a chefn gwlad yn 2000.
CBE, ac wedyn cael eich urddo’n Farchog, yw’r anrhydeddau sy’n dilyn yr OBE.
Cafodd John Craven ei ganmol yr wythnos ddiwethaf am dynnu sylw yn The Times at y diffyg croeso i bobol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yng nghefn gwlad.
“Hefyd, sut ar wyneb y ddaear dydy John Craven heb gael ei urddo’n farchog?” gofynnodd James O’Brien ar X (Twitter gynt).
“Mae Daniel Hannan [newyddiadurwr a darlledwr] yn Nhŷ’r blydi Arglwyddi, ond mae Craven, sydd wedi dod â goleuni gwirioneddol i fywydau pob cenhedlaeth ers y 1970au, yn hen Mr plaen (dw i’n gwybod y gall fod wedi ei wrthod, wrth gwrs, ond…).”
‘Tri chategori’
“Mae yna dri chategori o bobol,” meddai Dafydd Iwan, wrth ymateb i’r edefyn.
“Rheiny y gofynnir iddyn nhw a fydden nhw’n derbyn “anrhydedd” ac yn eu derbyn yn llawen.
“Rheiny y gofynnir iddyn nhw ac sy’n eu gwrthod.
“A’r rhan fwyaf helaeth nad ofynnir iddyn nhw fyth.
“Rwy’n falch o berthyn i’r olaf ohonyn nhw.”
Mae Jamie Medhurst, Athro Ffilm a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi ymateb yn chwareus:
Ond mae gan Syr Dafydd Iwan ryw 'ring' bach neis …. 😉
— Yr Athro/Prof Jamie Medhurst (@jamie_medhurst) March 25, 2024