Bydd menter newydd yn cynnal diwrnod o hyrwyddo arferion twristiaeth gynaliadwy amlasiantaethol i ddiogelu cymuned a thirweddau Nant Gwynant.

Yn rhan o bartneriaeth rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Heddlu Gogledd Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r Cynghorydd lleol June Jones, nod y fenter yw mynd i’r afael â phryderon ynglŷn â rheoli ymwelwyr a chadwraeth amgylcheddol yn yr ardal.

Ar ôl y pandemig Covid-19, mae poblogrwydd Llwybr Watkin a Nant Gwynant fel cyrchfan i ymwelwyr wedi cynyddu’n sylweddol, ond mae’r ardal wedi wynebu heriau megis tagfeydd parcio, taflu sbwriel, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a pharcio anghyfreithlon.

Er mwyn cydnabod y pryderon hyn, mae’r asiantaethau sy’n cymryd rhan am ddod ynghyd i hyrwyddo arferion twristiaeth gynaliadwy a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd parchu’r cymunedau lleol, tirweddau a bioamrywiaeth.

Bydd cynrychiolwyr o bob asiantaeth ar gael i ymgysylltu â’r cyhoedd, ateb ymholiadau, a dosbarthu deunyddiau gwybodaeth sy’n tynnu sylw at arferion gorau ar gyfer lleihau effaith amgylcheddol.

‘Arferion anghynaladwy’

Yn ystod y diwrnod, bydd cynrychiolwyr o bob asiantaeth ar gael i ymgysylltu â’r cyhoedd, ateb ymholiadau, a dosbarthu deunyddiau gwybodaeth sy’n tynnu sylw at arferion gorau ar gyfer lleihau effaith amgylcheddol.

“Mae Nant Gwynant yn agos at galonnau pobol leol ac ymwelwyr,” meddai’r Cynghorydd June Jones.

Fodd bynnag, mae ei ecosystem fregus a’i harddwch o dan fygythiad fwyfwy gan arferion ymweld anghynaladwy.

“Drwy’r diwrnod amlasiantaethol hwn, ein nod yw datblygu diwylliant o dwristiaeth gyfrifol, annog ymwelwyr i droedio’n ysgafn, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o drefi porth, a pheidio â thaflu sbwriel.”

‘Byddwch yn gyfrifol’

“Wrth i ni fentro i’r Gwanwyn, rydym yn gwerthfawrogi bod pobol yn cychwyn mentro allan i fwynhau golygfeydd godidog Eryri, fodd bynnag, gyda hyn mewn cof, rydym unwaith eto yn annog pobl i fod yn gyfrifol,” meddai Lisa Jones, Prif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru.

“Dylai modurwyr sy’n dod i’r ardal feddwl ble maen nhw yn parcio ac i wneud defnydd llawn o’r cyfleusterau parcio a theithio sydd ar gael.

“Mae hyn yn cynnwys gwneud defnydd o’r cynnydd yng ngwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa sy’n cael ei ddarparu.

“Fe wnawn barhau i gydweithio’n agos efo’n partneriaid er mwyn helpu lleihau’r risg i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill.

“Mae’r parcio anghyfrifol a pheryglus yr ydym wedi’i weld yn flaenorol mewn rhai ardaloedd wedi bod yn annerbyniol; nid yn unig yn peryglu bywydau, ond hefyd yn atal mynediad brys i gerbydau, gan gynnwys mynediad i Dimau Achub Mynydd.”

Ychwanega Angela Jones, Pennaeth Partneriaethau’r Parc Cenedlaethol, fod hwn yn waith pwysig er mwyn sicrhau bod pawb yn cael mwynhau’r parc.

“Fel gwarchodwyr i’r dirwedd bwysig hon, rydym eisiau i bobol fwynhau’r manteision o ran iechyd a lles o fod yn yr awyr agored, ond mae’n hanfodol ein bod yn gwarchod a diogelu Llwybr Watkin a Nant Gwynant,” meddai.

“Trwy gydweithio a hyrwyddo ymweliadau cyfrifol, gallwn sicrhau bod yr ardal hon yn cael ei hamddiffyn i bawb ei mwynhau.”