Bydd y cynnydd yng nghost triniaeth ddeintyddol gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru’n “gwaethygu’r argyfwng” yng Nghymru, yn ôl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Bydd y gost yn cynyddu o Ebrill 1, a hynny am y tro cyntaf ers pedair blynedd.
Bydd y tair ffi safonol yn cynyddu rhwng £20.00 a £260.000, yn dibynnu ar y math o driniaeth sydd ei hangen, a bydd cost triniaeth frys yn cynyddu i £30.
Yn ôl Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, bydd y cynnydd yn gyrru mwy o bobol at “ofal deintyddol DIY peryglus”.
Ffïoedd newydd
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd unrhyw refeniw gaiff ei gynhyrchu o’r ffioedd uwch yn cael ei ailfuddsoddi’n ôl yng ngwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Dyma sut fydd ffioedd yn cynyddu:
Band 1 (archwiliad, pelydrau-X, glanhau a sgleinio)
Hen bris – £14.70
Pris newydd – £20.00
Band 2 (llenwi dant, tynnu dant, llenwi llwybr y gwraidd)
Hen bris – £47.00
Pris newydd – £60.00
Band 3 (coron, dannedd gosod a phontydd)
Hen bris – £203.00
Pris newydd – £260.00
Apwyntiad brys (ar frys a thu allan i oriau)
Hen bris – £14.70
Pris newydd – £30.00
Ar hyn o bryd, mae tua 50% o bobol yn cael triniaeth ddeintyddol am ddim gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r buddsoddiad ar gyfer deintyddiaeth, gan roi £27m yn rhagor o gyllid o’i gymharu â 2018-19.
Wedi’i gynnwys yn y cynnydd hwn mae £2m ychwanegol y flwyddyn i fynd i’r afael â materion mynediad lleol.
Mae newidiadau i’r cytundeb deintyddol yng Nghymru’n cynnwys gofyniad i bractisau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol weld cleifion newydd.
‘Anialwch deintyddol’
Mae gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru bryderon hefyd ynghylch rhestrau aros deintyddol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig maen nhw’n eu disgrifio fel “anialwch deintyddol”.
Yn ôl ystadegau gan Fwrdd Iechyd Powys fis Medi diwethaf, roedd 4,818 o oedolion a 314 o blant yn aros am ofal deintyddol.
Fis Chwefror y llynedd, roedd 4,361 o oedolion yn aros am ofal deintyddol, gyda 274 o blant hefyd yn dal i aros am fynediad i ofal.
“Rydyn ni yma yng Nghymru ar hyn o bryd yng nghanol argyfwng hygyrchedd deintyddol,” meddai Jane Dodds.
“Mae amseroedd aros uchel ledled y wlad yn arwain at wrthod mynediad at ofal deintyddol hanfodol i filoedd o bobol, yn enwedig mewn cymunedau gwledig lle mae prinder gwasanaethau hygyrch wedi creu anialwch deintyddol.
“Dim ond gwaethygu’r argyfwng hwn y bydd y codiad mewn ffioedd deintyddol i gleifion, gan yrru mwy a mwy o bobol tuag at ofal deintyddol DIY peryglus.
“Gydag arweinwyr newydd ym Mharc Cathays, daw amser allweddol ar gyfer arweinyddiaeth o’r newydd a golwg newydd tuag at ddatrys yr argyfwng hwn.
“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd ymagwedd gydweithredol, i weithio’n uniongyrchol gyda gweithwyr deintyddol proffesiynol fel y gallwn greu model gofal deintyddol teg a hygyrch i Gymru gyfan.
“Oherwydd y pwysau eithriadol ar ein cyllideb, rydym wedi gorfod ystyried a ddylid codi cyllid ychwanegol drwy gynyddu ffioedd yn y maes deintyddol,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.
“Dyma’r cynnydd cyntaf rydym wedi’i wneud i ffioedd deintyddol ers 2020.
“Does dim rhaid i tua hanner y cleifion dalu am driniaeth ddeintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a byddwn yn parhau i ddiogelu’r rhai sydd leiaf abl i fforddio i dalu.
“Mae’n hanfodol bod pob un ohonom yn cadw ein dannedd a’n deintgig yn iach.
“Dyna pam rydym yn gweithio i’w gwneud yn haws i bobl weld deintydd y GIG drwy gynyddu nifer y lleoedd Gwasanaeth Iechyd Gwladol newydd a helpu deintyddion i ganolbwyntio ar y rhai sydd angen cymorth drwy newid pa mor aml rydym yn gweld deintydd ar gyfer apwyntiadau rheolaidd.”