Mae OVO fel cwmni Cymreig yn “atgof pell”, yn ôl Rhun ap Iorwerth.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru ar ôl i’r Blaid gyhuddo’r cwmni ynni o “ddangos dirmyg llwyr at yr iaith a siaradwyr Cymraeg”.

Yn dilyn eu penderfyniad i ddirwyn gwasanaethau Cymraeg i ben, fe wnaeth y cwmni gynghori siaradwyr Cymraeg i “ddefnyddio Google Translate” i ddarllen eu biliau yn Gymraeg.

Unodd OVO Energy â Swalec yn 2013, gan dderbyn cyfrifoldeb am eu gwasanaeth Cymraeg ar y pryd.

Pan ddaeth cadarnhad o’r newyddion fis diwethaf, dywedodd Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg a Diwylliant, fod y penderfyniad yn dangos “diffyg ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol difrifol”.

“Mae hyn yn dangos dirmyg llwyr at yr iaith a siaradwyr y Gymraeg,” meddai.

“Er bod gennym Gomisiynydd y Gymraeg a hawliau fel siaradwyr, mae’r cwmni hwn yn meddwl ei bod hi’n iawn i’n trin fel dinasyddion eilradd.

“Mae’n hollol warthus – heb sôn am sarhaus – eu bod yn awgrymu bod cwsmeriaid yn rhoi eu biliau drwy Google Translate er mwyn eu darllen yn Gymraeg.

“Rhaid i Gomisiynydd y Gymraeg gamu i’r adwy i sicrhau bod y cwmni cyfleustodau hanfodol yma yn ymwybodol o’i ddyletswyddau i bobl yng Nghymru.”

Llinell amser

Mae Rhun ap Iorwerth wedi cyhoeddi llinell amser ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dangos sut yr aeth y cwmni o fod yn un gafodd ei greu yng Nghymru yn 1948 i fod yn un sydd wedi cefnu ar y Gymraeg.

Mae’r llinell amser wedi’i chyhoeddi yn dwyn y teitl “amserlen o waddol Thatcher”.

Cyfeiria at SWEB (South Wales Electricity Board) yn cael ei sefydlu yn 1948 dan berchnogaeth gyhoeddus “i wasanaethu de Cymru”.

Cafodd y cwmni ei breifateiddio yn 1989, gan ddechrau defnyddio’r brand SWALEC.

Cafodd hwnnw ei brynu gan SSE yn 2000, a’i werthu i OVO yn 2019.

“2024: mae bod yn gwmni Cymreig yn atgof pell,” meddai Rhun ap Iorwerth wrth gloi’r llinell amser.