Dydy Cymru ddim yn cael chwarae teg gan ddarlledwyr, yn ôl adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi gan Bwyllgor Diwylliant y Senedd heddiw (dydd Llun, Mawrth 25).

Mae’r adroddiad yn galw ar i wariant y BBC ar gynnwys teledu yng Nghymru gynyddu o flwyddyn i flwyddyn, nes ei fod yn gyfartal â’r hyn mae’r Gorfforaeth yn ei wario yn yr Alban.

Yn ôl Delyth Jewell, cadeirydd y pwyllgor, “mae’n amlwg nad yw Cymru’n cael chwarae teg gan ein darlledwyr”.

“Mae’n ofynnol i’r BBC, ITV ac S4C wasanaethu gwylwyr Cymreig a’r rhai sy’n talu ffi’r drwydded mewn gwahanol ffyrdd, ond mae’n amlwg nad ydyn nhw’n cyflawni’n llawn yr hyn a ddisgwylir ar hyn o bryd,” meddai.

“Ni all fod yn iawn bod y BBC yn gwario dwywaith cymaint ar gynnwys Saesneg yn yr Alban ag y mae’n ei wario yng Nghymru – mae talwyr ffi’r drwydded yng Nghymru yn haeddu gwell.

“Rydym yn galw am gynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn y gwariant hyd nes y bydd cydraddoldeb â’r Alban.”

Portreadu a llunio hunaniaeth Gymreig

Yn ôl Delyth Jewell a’r pwyllgor, mae darlledu’n chwarae rhan bwysig yng Nghymru wrth “bortreadu a llunio hunaniaeth Gymreig”.

“Mae hefyd yn chwarae rhan allweddol yn ein democratiaeth, gan sicrhau bod llywodraethau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn cael eu dwyn i gyfrif,” meddai’r cadeirydd.

“Wrth i dirwedd y cyfryngau modern newid, mae’n hanfodol inni gael hyn yn iawn ar gyfer y dyfodol.

“Heddiw, rydym yn galw ar ddarlledwyr, llywodraethau a rheoleiddwyr i dderbyn ein hargymhellion a gwneud yn siŵr bod pobol yng Nghymru yn cael gwasanaeth priodol oddi wrth y darlledwyr maen nhw’n cyfrannu atyn nhw ac yn dibynnu arnyn nhw.”

Cyllid S4C

Mae’r adroddiad yn amlinellu bod angen mwy o arian ar S4C, ynghyd â fformiwla ariannu fyddai’n rhoi sicrwydd iddi, i’w helpu i gynllunio at y dyfodol yn well.

Mae trefniant ariannu’r darlledwr wedi newid deirgwaith yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf.

Ers 2010, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lleihau cyllid S4C mewn termau real dros 30%.

Mae’r setliad ariannu hwn yn cyfyngu’n ddifrifol ar y darlledwr, a hynny ar adeg pan fo angen ehangu i ddarparu gwasanaethau ar draws llwyfannau darlledu ac ar-alw, medd yr adroddiad.

Byddai cynyddu cymorth i S4C nid yn unig yn ei helpu i gyflawni ei rhwymedigaethau fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, byddai hefyd yn sicrhau y gallai barhau i chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi targed Cymraeg 2050.

Gwariant S4C ar draws Cymru

Mae’r Pwyllgor hefyd yn galw ar S4C i sicrhau dosbarthiad mwy cyfartal o’u gwariant drwy Gymru.

Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o’r gwariant yn digwydd yn y de.

Mae S4C yn cydnabod fod angen gwneud mwy, a bydd y pwyllgor yn monitro’r sefyllfa.

Rhaglenni ITV

Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar Ofcom i fynnu bod ITV yn cynhyrchu mwy o’i gynnwys yng Nghymru – mae’n ofynnol i ITV wneud 35% o’i raglenni y tu allan i’r M25.

Fodd bynnag, yn ôl data Ofcom, yn 2022, roedd gwariant rhwydwaith ITV ar gyfer y Deyrnas Unedig wedi plymio i bron i 0% yng Nghymru.

Yn y blynyddoedd diwethaf, roedd y ffigwr oddeutu 5%.

Rôl y Senedd a Llywodraeth Cymru

Er mai mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw darlledu ar hyn o bryd, fe edrychodd ymchwiliad y Pwyllgor ar rôl y Senedd a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â darlledu yng Nghymru.

Mae adroddiad heddiw’n cytuno â’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig gytuno ar fecanweithiau ar gyfer llais cryfach i Gymru ar bolisi darlledu, craffu ac atebolrwydd.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar y Senedd i gael y cyfle i gynnal gwrandawiadau cyn penodi gydag ymgeiswyr a ffafrir ar gyfer aelodau Cymru o fyrddau Ofcom a’r BBC a Chadeirydd S4C, ac mae’n galw am iddi fod yn ofynnol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gael cytundeb Llywodraeth Cymru wrth benodi cadeirydd S4C.