Mae penderfyniad Cyngor Sir i wneud newidiadau ar gyfer cludiant am ddim i fyfyrwyr uwchradd a choleg wedi’i alw i mewn er mwyn ailystyried y cynnig.
Heddiw (dydd Mercher, Mawrth 27), bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ailystyried y penderfyniad gwreiddiol a wnaed gan Gabinet Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf yr wythnos ddiwethaf i gynyddu pellter yr hawl i gael cludiant am ddim i ysgol uwchradd a cholegau, o ddwy filltir i dair, yn unol â chanllawiau statudol.
Er hynny, dewisodd y Cabinet gadw’r meini prawf presennol ar gyfer ysgolion cynradd, er mai’r cynnig gwreiddiol oedd newid y pellter teithio cymwys o filltir a hanner i ddwy filltir o’r ysgol.
Byddai’r penderfyniad i gadw meini prawf ysgolion cynradd yn golygu y byddai 305 o ddisgyblion cynradd yn cadw eu hawl i gael cludiant am ddim i’r ysgol, ond byddai’r cynnig wedi’i golli pe bai’r opsiwn arall wedi ei ffafrio, tra byddai’r cynnig wedi’i golli o dan yr hyn a ffafriwyd oedd yn destun ymgynghoriad.
Mae hyn yn cynnwys 242 o ddisgyblion cynradd Cymraeg, a 63 o ddisgyblion cynradd ysgolion ffydd, ond byddai’n lleihau arbedion posibl o £200,000 y flwyddyn.
Effaith negyddol
Mae’r penderfyniad sydd wedi’i alw’n ôl wedi’i gymeradwyo gan Karen Morgan, Cynghorydd Plaid Cymru, y Cynghorydd Annibynnol Paul Binning, a’r Cynghorydd Ceidwadol Karl Johnson, sy’n nodi bod angen ystyried effaith negyddol y penderfyniad ar ddisgyblion, rhieni a gwarchodwyr a chymunedau Rhondda Cynon Taf.
Yn ogystal, dywedwyd nad oedd y penderfyniad wedi ystyried yn llawn yr effeithiau negyddol mewn perthynas â goblygiadau cyfreithiol, effaith cydraddoldeb a’r iaith Gymraeg.
Rheswm arall gafodd ei roi am y penderfyniad i ailystyried oedd craffu ymhellach ar a oedd penderfyniadau’r Cabinet yn cydymffurfio’n gyfreithiol ac yn cydsynio â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, y Confensiwn Hawliau Plant, yn ogystal â’r Ddeddf Cydraddoldeb a’r Ddeddf Iaith Gymraeg.
Y pedwerydd rheswm i graffu ymhellach yw ystyried pa mor ymarferol yw cyflwyno’r awdurdod dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethu Priffyrdd, Gofal Strydoedd a Chludiant.
Mae’r rhai o’r pryderon gafodd eu codi ynghylch y cynigion gan Gynghorwyr yng nghyfarfod y Cabinet ar Fawrth 20, yn cynnwys:
- yr effaith ariannol ar deuluoedd
- plant yn cerdded pellteroedd hir ac anniogel i’r ysgol, yn enwedig mewn tywydd garw
- argaeledd a chost trafnidiaeth gyhoeddus
- yr effaith ar draffig a’r amgylchedd
- y rhwystrau posib i rieni wrth anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg
Ailystyried
Pe bai’r cynnig sydd wedi’i ailystyried yn cael ei basio, bydd yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r Cabinet.
Ond pe bai’n cael ei wrthod, bydd y penderfyniad yn dod i rym ddiwedd y cyfarfod a’i weithredu ddechrau’r flwyddyn academaidd 2024/25.
Mae’r penderfyniad gan y Cabinet hefyd yn cynnwys caniatâd i ddysgwyr barhau i ddewis eu hysgol agosaf yn unol â’u dewis iaith (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg), meini prawf enwad crefyddol, a darpariaeth cludiant ôl-16 dewisol sy’n unol â’r meini prawf pellter statudol perthnasol.
Mae hefyd yn parhau i gynnwys darpariaeth cludiant Anghenion Dysgu Ychwanegol dewisol.
Dangosodd adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus fod 79% o’r rhai atebodd yn anghytuno â’r cynnig gwreiddiol i newid y meini prawf ar gyfer yr ysgolion cynradd, uwchradd a cholegau.
Y rhesymau gafodd eu rhoi yn adroddiad y Cabinet i ystyried y cynigion oedd fod y Cyngor yn wynebu bwlch cyllidebol o £85.4m dros y tair blynedd nesaf, a bod costau cludiant o’r cartref i’r ysgol wedi cynyddu o £8m yn 2015 i fwy na £15m ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24.
Dywed y Cyngor eu bod yn gweithredu gwasanaeth cludiant “hael iawn” o’r cartref i’r ysgol, sef y cynllun mwyaf o’i fath yng Nghymru.