Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon yn cwestiynu beth yw prif amcan gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru bellach.

Daw ei sylwadau wrth i’r ymgynghoriad ar gau’r safleoedd yng Nghaernarfon a’r Trallwng ddod i ben, gyda’r bwriad o ganoli’r gwasanaeth yn nwyrain Cymru.

Dydy’r union leoliad newydd posib ddim wedi’i gadarnhau eto.

“Y prif gwestiwn i fi ydy beth ydy pwrpas yr ambiwlans awyr,” meddai Hywel Williams wrth golwg360.

“Ai i wasanaethu ardaloedd sydd yn bell o ysbytai a lle mae’r lonydd yn ddrwg, ynteu i wasanaethu’r nifer fwyaf bosibl o bobol?

“Dw i heb weld ateb i hyn, ac efallai fedran nhw wneud y ddau.

“Ond dw i’n meddwl mai’r rheswm pam fod yr Ambiwlans Awyr yn boblogaidd yn ein hardal ni [Arfon] yw am fod pobol yn teimlo ei fod o’n wasanaeth ychwanegol hanfodol mewn llefydd lle mae’n cymryd oriau i fynd i’r ysbyty.

“Efallai y gall yr ambiwlans awyr wneud hynny o Wrecsam neu Abergele neu le bynnag maen nhw am ganoli, ond dydyn ni [Plaid Cymru] ddim yn meddwl felly.”

Cyfrifoldeb pwy?

Dywed Hywel Williams ei bod yn rhesymol fod Llywodraeth Cymru eisiau gweld y defnydd gorau posib o’r Ambiwlans Awyr, o ystyried y “ffasiwn lanast” sy’n ei wynebu ar hyn o bryd.

Ond ychwanega mai cwestiwn arall i’w ystyried yw pwy fydd yn rhedeg yr Ambiwlans Awyr yn y pen draw.

“Ydy o yna fel atodiad i’r gwasanaeth cyhoeddus, neu ydy o yna i fod yn rhan o’r gwasanaeth cyhoeddus, er ei fod o’n rhan wirfoddol?” gofynna.

“Ydy o’n rywbeth ar ben beth sydd yna yn barod, at bwrpas penodol iawn, neu yn rhan o’r gwasanaeth ei hun?

“Dw i’n meddwl bod y cwestiwn yna wedi’i golli yn rhywle.”

Galw ar gantorion

Mae Hywel Williams wedi llofnodi llythyr ar y cyd â rhai o aelodau eraill ei blaid, gan gynnwys yr arweinydd Rhun ap Iorwerth; Liz Saville Roberts, yr arweinydd yn San Steffan; Cefin Campbell, yr Aelod Dynodedig yn y Cytundeb Cydweithio; a’r Cynghorydd Elwyn Vaughan ym Mhowys.

Gobaith y llythyr agored yw annog y cantorion Bryn Terfel a Rhys Meirion, yr athletwr Paralympaidd Simon Richardson a’r cyn-chwaraewr rygbi James Hook – sydd i gyd yn llysgenhadon neu’n noddwyr y gwasanaeth – i ddefnyddio’u lleisiau i geisio perswadio’r Ambiwlans Awyr i gadw’r gwasanaeth fel ag y mae.

Dywed y llythyr, sydd wedi’i anfon at y pedwar llysgennad, fod “cwestiynau difrifol i’w gofyn yn sgil tryloywder y broses ymgynghori”, a bod y data’n dangos “bod cynnal y ddau safle yn opsiwn cystal â chanoli”.

Mae’r llythyr hefyd yn cyfeirio at yr “ansicrwydd a’r pryder cyhoeddus” sydd wedi’i sbarduno gan y penderfyniad.

Mae awduron y llythyr yn gobeithio y bydd yr enwau adnabyddus yn “ddylanwadol” pan ddaw at geisio gwrthdroi’r penderfyniad.

“Mae Bryn Terfel a Rhys Meirion yn noddwyr i’r ambiwlans awyr ac felly gobeithio gallan nhw ddylanwadu ar yr ambiwlans awyr i newid eu meddyliau,” meddai Hywel Williams.

“Maen nhw’n cynrychioli’r boblogaeth ond maen nhw hefyd yna er mwyn sicrhau enw da’r Ambiwlans Awyr ac i’w hyrwyddo fo.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Ambiwlans Awyr Cymru.