Mae’n rhaid i arallgyfeirio Maes Awyr Caerdydd fod yn flaenoriaeth i Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth newydd Cymru, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Daw’r pryderon wedi i’r cwmni hedfan Eastern Airways dynnu’n ôl o faes awyr y brifddinas, gan gael gwared ar yr unig lwybr uniongyrchol o’r brifddinas i Faes Awyr Orly ym mhrifddinas Ffrainc.
Mae llai na blwyddyn ers i’r llwybr gael ei lansio fis Ebrill y llynedd.
Bydd y gwasanaeth yn dod i ben ddydd Sadwrn (Mawrth 30), ac mae Maes Awyr Caerdydd wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cael gwybod fod y gwasanaeth yn cael ei atal ar ddechrau amserlen yr haf.
Yn ôl Maes Awyr Caerdydd, maen nhw’n siarad â chwmnïau hedfan i geisio adfer llwybr uniongyrchol rhwng y ddau faes awyr.
O ddiwedd y mis, fydd yr un o lwybrau masnachol Eastern Airways yn rhedeg o’r maes awyr.
Er hynny, dywed Maes Awyr Caerdydd fod y cwmni’n parhau i ddefnyddio’r cyfleusterau, ac yn hedfan yn rheolaidd o Gaerdydd ar gyfer hediadau siarter.
‘Colledion blwyddyn ar ôl blwyddyn’
Mae’r maes awyr, sydd yn eiddo i Lywodraeth Cymru, wedi cael trafferth adfer nifer y teithwyr i’r lefelau cyn y pandemig.
Fis Ionawr y llynedd, tynnodd y cwmni Wizz Air yn ôl o’r maes awyr, gyda Qatar Airways hefyd yn rhoi’r gorau i’w gwasanaeth rhwng Caerdydd a Doha ar ddechrau’r pandemig.
Ers diwedd y pandemig, mae Qatar Airways wedi ailddechrau eu holl lwybrau yn y Deyrnas Unedig, ac eithrio Caerdydd.
Does dim dyddiad ar gyfer ailddechrau’r gwasanaeth hwnnw hyd yma.
Dywed Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, fod y maes awyr yn “parhau’n ymdrech aflwyddiannus.”
“Gyda chwmni hedfan arall yn tynnu allan, a dim sôn am y llwybr addawol iawn o Gaerdydd i Doha, mae Maes Awyr Caerdydd yn parhau’n ymdrech aflwyddiannus o dan Lywodraeth Lafur Cymru,” meddai.
“Mae Maes Awyr Caerdydd yn faich ar y Llywodraeth Lafur hon, gyda gweinidogion yn gwario degau o filiynau o bunnoedd i’w gynnal, er y colledion ariannol flwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Rhaid i arallgyfeirio’r maes awyr fod yn brif flaenoriaeth i Ysgrifennydd Trafnidiaeth newydd Llafur os ydym am weld unrhyw newid cadarnhaol go iawn yn y blynyddoedd i ddod.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.