Mae tîm fforensig Heddlu’r De yn gweithio ar stryd lle’r oedd Alec Warburton, landlord gafodd ei lofruddio gan ei denant yn 2015, yn byw.

Mae fan yr heddlu y tu allan i eiddo ar Heol Vivian yn Sgeti, a phlismones ar stepen y drws.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a oes yna gysylltiad rhwng presenoldeb yr heddlu heddiw (dydd Mercher, Mawrth 27) a’r llofruddiaeth naw mlynedd yn ôl.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan yr heddlu.

Logo Golwg360

Carcharu dyn am 26 mlynedd am lofruddio’i landlord

David Ellis, 41, wedi ymosod ar Alec Warburton gyda morthwyl