Alec Warburton
Mae dyn a lofruddiodd ei landlord yn ei gartref yn Abertawe cyn gadael ei gorff mewn hen chwarel yn Nolwyddelan a dianc i Iwerddon, wedi cael ei ddedfrydu i o leiaf 26 mlynedd dan glo.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod David Craig Ellis, 41, wedi ymosod ar Alec Warburton, 59, â morthwyl mewn ffrae dros rent oedd heb ei dalu’r llynedd.

Yn ystod yr wythnosau cyn i Alec Warburton farw, fe wnaeth David Ellis anfon nodyn i’r bobol roedd yn rhannu tŷ â nhw yn ffugio mai fe oedd y landlord 59 oed, gan ddweud ei fod yn “mynd i ffwrdd am gyfnod.”

Fe wnaeth David Ellis symud i Heol Vivian, yn Sgeti ym mis Mai 2015 ar ôl gwahanu gyda’i gariad, gan gwympo yn ôl ar ei rent o fewn wythnosau.

“Dyn addfwyn”

Yn ôl Graham Warburton, brawd Alec, roedd y landlord yn “ddyn addfwyn” na fyddai’n gwneud niwed i neb.

Ar ôl dal fferi i Belffast a gwneud ei ffordd i Iwerddon, cafodd David Ellis ei arestio mewn gwesty yn Galway ar 18 Medi.

Roedd Ellis eisoes wedi cyfaddef dynladdiad ei landlord, gan ddweud ei fod e “wedi colli rheolaeth” ar ôl i Alec Warburton ofyn am “ffafrau rhywiol” yn lle arian am rent.

Fodd bynnag, wrth ei ddedfrydu, dywedodd yr Ustus Knowles nad oedd yn derbyn ei fersiwn o’r stori.

Bydd David Ellis yn 67 oed cyn y bydd yn cael ei ystyried am barôl.