Papur pleidleisio Llun: PA
Mae’r ymgyrch i aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ar y blaen o drwch blewyn, yn ôl canlyniadau arolwg barn olaf yr ymgyrch wrth i drigolion y DU bleidleisio heddiw.
Yn ôl arolwg barn Ipsos Mori ar gyfer yr Evening Standard, mae’r ymgyrch i aros ar y blaen o 52% i 48%.
Ond er hynny, dywedodd 12% o’r rhai a holwyd y gallent newid eu meddwl wrth iddyn nhw fynd i bleidleisio heddiw.
Yn ogystal, mae’r dadansoddwr gwleidyddol Peter Kellner, sydd wedi cyfrifo cyfartaledd wyth o arolygon barn, hefyd yn awgrymu mai 52% i 48% i’r ymgyrch Ie yw hi ar hyn o bryd.
Gyda’r rhifau mor agos, mae’n edrych yn debygol y bydd y nifer sy’n pleidleisio yn cael effaith mawr ar y canlyniad wrth i stormydd trwm yn Llundain, sydd wedi gweld cau ambell orsaf bleidleisio oherwydd llifogydd, olygu y gallai’r tywydd gwlyb atal pleidleiswyr rhag bwrw eu pleidleisiau.
Ymgyrch hir a chaled
Bu’r ddwy ochr yn yr ymgyrch yn tdeithio ar draws y wlad nos Fercher i geisio darbwyllo pleidleiswyr sydd eto heb benderfynu a ddylai’r DU aros neu adael yr UE.
Mae’r ymgyrch dros aros, sy’n cael ei arwain gan David Cameron, wedi pwysleisio bod y DU “yn gryfach, yn fwy diogel ac yn well ei byd” o fewn yr UE.
Mae’r Prif Weinidog ac ymgyrchwyr Remain ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi pwysleisio’r effaith andwyol ar yr economi yn sgil pleidlais Brexit, a’r pryderon y gallai gael effaith ar y marchnadoedd ariannol ac arwain at ddirwasgiad arall.
Ond mae ymgyrchwyr sydd o blaid gadael yr UE, sy’n cael eu harwain gan gyn-Faer Llundain Boris Johnson, yn annog pleidleiswyr “i gymryd rheolaeth o’r wlad yn ôl”.
Maen nhw’n credu y byddai gadael Brwsel yn rhoi rhagor o arian i’r DU i wario ar y Gwasanaeth Iechyd yn ogystal â’r gallu i reoli ffiniau Prydain a lefelau mewnfudo.
Mae gorsafoedd pleidleisio yn cau am 10 heno ac mae disgwyl i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi yn ystod oriau man y bore.