Sean Buckley
Mae dyn wedi cael ei garcharu am oes ar ol ei gael yn euog o lofruddio plentyn 17 mis oed ei gariad.

Bydd yn rhaid i Sean Buckley, 28, o Donypandy dreulio o leiaf 17 mlynedd dan glo.

Bu farw  Finley John Thomas ar ôl cael anafiadau difrifol i’w ben a thorri ei asennau ar 24 Medi, 2013.

Roedd Sean Buckley wedi honni bod y bachgen bach wedi syrthio i lawr y grisiau ar ôl i barafeddygon ddod o hyd iddo’n ddiymadferth.

Ond fe ddarganfu meddygon yn ddiweddarach bod Finley wedi dioddef gwaedlif i’w ymennydd a bod ganddo anaf arall y tu ôl i’w glust.

Yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd Roger Thomas QC ar ran yr erlyniad bod yr ymosodiad yn “fwriadol a milain.”

Roedd ei anafiadau yn anarferol i blentyn a oedd wedi syrthio i lawr y grisiau, meddai.

Yn ogystal â’i gael yn euog o lofruddiaeth, cafwyd Buckley hefyd yn euog o achosi creulondeb i blentyn.

Roedd mam Finley,  Chloe Thomas, 25, eisoes wedi cyfaddef achosi creulondeb i blentyn.

Wrth ei ddedfrydu heddiw dywedodd y barnwr Mrs Ustus Frances Patterson bod Buckley yn berson “creulon” a’i fod “wedi bwriadu achosi niwed i blentyn hollol ddiniwed” pan darodd cadair yn erbyn pen Finley.