Mae o leiaf wyth o bobl wedi cael eu lladd mewn ymosodiadau yn ninas Aleppo yng ngogledd Syria, yn ôl adroddiadau.
Dywedodd asiantaeth newyddion gwladwriaeth Syria fod pedwar o bobl wedi eu lladd a phedwar arall wedi eu hanafu pan gafodd taflegrau eu tanio ar ardal sy’n cael ei rheoli gan y llywodraeth.
Ac meddai canolfan gyfryngau fod pedwar o bobl eraill wedi eu lladd pan ymosododd awyrennau’r llywodraeth ar ardal arall o’r ddinas sy’n cael ei reoli gan wrthryfelwyr.
Dywedodd Bebars Mishal, aelod o grŵp o wirfoddolwyr sy’n gweithio mewn ardaloedd sy’n cael eu rheoli gan y gwrthryfelwyr, fod pum aelod o’r un teulu wedi eu lladd. Dywedodd fod y chwilio yn parhau am eraill o dan y rwbel.
Mae’r gwrthdaro yn Aleppo wedi bod yn ffyrnig ers i’r gwrthryfelwyr gipio rhannau o’r ddinas yn 2012.