Mae dyn o Gaerffili wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus ar ôl gwrthdaro â swyddog yr heddlu oedd ar ddyletswydd neithiwr.

Roedd y dyn 41 mlwydd oed yn gyrru beic modur oddi ar y ffordd i lawr y Stryd Fawr yn Abertridwr am oddeutu 8yh nos Fercher, 22 Mehefin, pan darodd y plismon.

Cafodd y plismon fân anafiadau ac nid oedd angen triniaeth ysbyty arno.

Mae’r gyrrwr, sydd hefyd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar swyddog yr heddlu, ar hyn o bryd yn cael ei gadw yn y ddalfa, yn ôl Heddlu Gwent.