Mae’r gyfradd anfodlonrwydd ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru mor uchel â 60%, yn ôl arolwg Agweddau Cymdeithasol Prydain (BSA).

Yn ôl yr arolwg, dim ond 21% sy’n fodlon â’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Roedd yr arolwg yn edrych ar sampl o 3,374 o bobol ledled y Deyrnas Unedig, ac yn gofyn pa mor fodlon ydyn nhw â’r Gwasanaeth Iechyd.

Er mwyn rhoi cynrychiolaeth realistig ar sail maint y boblogaeth, roedd 113 o bobol yn cynrychioli Cymru yn y sampl.

Dywed Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod yr “arolwg hwn yn dditiad trist o’r modd mae’r Llywodraeth Lafur yn rhedeg ein Gwasanaeth Iechyd”.

“Mae ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn sefydliad hanfodol, gyda staff anhunanol yn gweithio’n ddiflino bob dydd, ond ar ôl 25 mlynedd o’n gwasanaeth iechyd yn cael ei redeg gan Lywodraethau Llafur, ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a gafodd y sgôr isaf o ran boddhad ac uchaf am anfodlonrwydd ledled y Deyrnas Unedig o gryn dipyn,” meddai.

“Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun i ddeddfu cynllun gweithlu sylweddol i hybu niferoedd staff gofal iechyd a gwario’r holl godiad yn y gyllideb iechyd ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru i sicrhau ei fod yn llawn adnoddau ac yn ddibynadwy unwaith eto.”

Blaenoriaethau

Yn ôl yr arolwg, mae 66% o boblogaeth Cymru hefyd yn anfodlon â’r gofal cymdeithasol i’r genedl.

Bu’r arolwg hefyd yn edrych ar farn fwy cyffredinol poblogaeth y Deyrnas Unedig am agweddau gwahanol ar y Gwasanaeth Iechyd.

Mae 92% yn cytuno i ryw raddau y dylai gwasanaethau iechyd fod am ddim i’r rheiny sydd eu hangen, tra bod 83% o’r farn y dylai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fod ar gael i bawb.

Mae 83% hefyd yn cytuno y dylai’r gwasanaeth gael ei ariannu’n bennaf drwy drethi.

Yn ôl y data, mae’r rheiny sy’n pleidleisio dros bleidiau ceidwadol yn llai tebygol o gytuno y dylai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fod ar gael i bawb.

Er hynny, mae 53% ohonyn nhw’n cefnogi’r syniad.

Roedd yr arolwg hefyd yn edrych ar farn y boblogaeth o ran beth ddylai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ei flaenoriaethu.

Ei gwneud hi’n haws cael apwyntiad ddaeth i’r brig, gyda 51% o’r sampl yn cytuno mai dyma’r brif flaenoriaeth.

Dywed 47% fod rhaid blaenoriaethu gwella amseroedd aros ar gyfer triniaethau wedi’u trefnu ymlaen llaw, tra bod 45% yn dweud bod angen gwella amseroedd aros ar gyfer gofal brys.