Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyfarfod â Vaughan Gething, Prif Weinidog newydd Cymru, a Huw Irranca-Davies, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig a Newid Hinsawdd newydd, i drafod dyfodol y diwydiant amaeth.
Daw hyn wrth i bryderon y diwydiant amaeth fod ar eu huchaf yn sgil cynigion Llywodraeth Cymru yn eu Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Dywed Ian Rickman, Llywydd yr undeb, ei fod yn croesawu’r cyfle i “amlinellu’r heriau presennol” sy’n wynebu’r diwydiant ac i drafod y camau nesaf.
“Fe ddywedom yn gwbl glir bod yr ymdeimlad o rwystredigaeth a phryder o fewn y diwydiant yn parhau, a chawsom y cyfle i gyflwyno ein hymateb ystyrlon i’r ymgynghoriad Cynllun Ffermio Cynaliadwy a rhestr o’r pwyntiau allweddol i Ysgrifennydd y Cabinet,” meddai.
Dywed Gareth Parry, Dirprwy Bennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, eu bod nhw “hefyd yn croesawu’r gydnabyddiaeth a’r gwerthfawrogiad gan y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet o’r sefyllfa bresennol”.
“Mae hwn yn gam cyntaf hollbwysig i ddeall difrifoldeb y problemau a wynebwn gan ddod o hyd i’r ffordd orau ymlaen i fynd i’r afael â’r heriau hynny,” meddai.
“Rydym am weld sefydlu grŵp rhanddeiliaid bychan gyda’r ffocws ar drafod a chynnig newidiadau i’r cynllun trwy gyd-gynllunio go iawn.”
Dywed Ian Rickman fod yr ad-drefnu diweddar yng Nghabinet Llywodraeth Cymru “yn sicr yn newyddion cadarnhaol i’r diwydiant”, gan ei fod yn “cyflwyno cyfle newydd ar gyfer newid ystyrlon i’r cynigion presennol”.
“Edrychwn ymlaen at gyfarfodydd rheolaidd ag Ysgrifennydd y Cabinet, a’r Prif Weinidog, i sicrhau bod fersiwn derfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cyflawni datrysiadau go iawn i ffermwyr Cymru,” meddai.
‘Angen sefydlogrwydd’
Mae NFU Cymru hefyd wedi croesawu’r cyfle i gwrdd â Vaughan Gething a Huw Irranca-Davies.
“Rydym yn falch bod y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet wedi blaenoriaethu cyfarfod â ni cyn gynted â phosibl,” meddai Abi Reader, Dirprwy Lywydd yr undeb.
“Roedd hwn yn gyfle i’w groesawu ac i drafod uchelgeisiau, yn ogystal â phryderon, diwydiant sydd dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd.
“Yn ystod y cyfarfod, fe wnaethom gyflwyno ein hymateb cynhwysfawr i’r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy cynhwysfawr i’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet a chodwyd nifer o’n cwestiynau polisi allweddol.
“Roedd y rhain yn cynnwys pryderon ynghylch cynigion cyfredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn ogystal â materion eraill sy’n effeithio ar y sector.
“Amlygwyd sut mae dod ynghyd y ffactorau hyn a’r straen emosiynol ac ariannol sy’n cyd-fynd â nhw wedi cyfrannu at ymdeimlad o bryder ac yn wir helbul yn ein cymunedau gwledig.”
Ychwanega fod angen sefydlogrwydd ar ffermwyr Cymru yn fwy nag erioed.
“Mae angen sefydlogrwydd arnynt i fuddsoddi yn eu busnesau, i fuddsoddi mewn enillion effeithlonrwydd ac yn yr amgylchedd,” meddai.
“Dyna pam yr ydym unwaith eto yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod elfen sefydlogrwydd cryf yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy terfynol a bod y camau gweithredu cyffredinol yn wirioneddol ymarferol a chyraeddadwy ar gyfer pob math o fferm, sector a lleoliad.”