Bydd Wrecsam yn cynnal Gŵyl y Wal Goch unwaith eto eleni, a honno’n ddathliad o bêl-droed Cymru a’r byd.
Bydd yn cael ei chynnal rhwng Mai 31 a Mehefin 2, ac ymhlith y noddwyr mae Neville Southall.
Bu’n ymweld â Chwpan y Byd yn Qatar yn 2022, ac mae’n teimlo bod pwysigrwydd cymdeithasol i’r ŵyl yn y byd pêl-droed a thu hwnt.
“Roeddwn i wedi fy nharo efo pa mor wych oedd awyrgylch yr ŵyl yn 2022,” meddai cyn-golwr Cymru ac Everton.
“Roedd cefnogwyr wedi dod o bob cwr o’r byd i ymweld â Wrecsam i siarad am ddefnyddio pêl-droed i atal hiliaeth, helpu efo iechyd meddwl, a llawer o bynciau pwysig eraill.
“Rydym i gyd angen clywed mwy am yr effaith dda mae pêl-droed yn gallu’i chael wrth gyfrannu at newid cymdeithasol mewn meysydd fel iechyd meddwl dynion a grymuso merched.”
Bydd cyfle i ymwelwyr gyfarfod ag enwogion o’r byd pêl-droed, gan gynnwys Pat Nevin, cyn-chwaraewr Chelsea ac Everton, a ffigurau o’r byd newyddiaduraeth fel Kit Holden, gohebydd pêl-droed yn yr Almaen, a Thomas Morris, sy’n gohebu ar bêl-droed Cymru.
Dementia ac anafiadau
Wrth gadw at draddodiad yr ŵyl o drafod pynciau pwysig i’r gêm tu hwnt i gefnogi clwb neu genedl, bydd ymwelwyr yn cael cyfle i ddysgu am sut mae atgofion sy’n ymwneud â phêl-droed yn gallu helpu pobol efo dementia hefyd.
Bydd cyfle hefyd i drafod sut y gallwn wneud y mwyaf o botensial pêl-droed menywod mewn ffordd sydd yn ddiogel ac yn ysgoi anafiadau sydd yn effeithio ar ferched yn enwedig.
“Mae gennym line-up anhygoel arall ar gyfer y flwyddyn yma,” meddai Dave Evans, aelod o dîm Gŵyl y Wal Goch.
“Os ydych yn angerddol am ein gêm genedlaethol, celf a grym pêl-droed, mae wir rhaid i chi fod yno.”