Mae’r dyfarnwr profiadol Ian Davies wedi’i benodi’n Rheolwr Perfformiad Elit Dyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru.

Mae e wedi dyfarnu yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig a chystadlaethau Ewrop dros gant o weithiau.

Mae’n olynu Paul Adams yn y swydd, a hwnnw wedi meithrin doniau dyfarnwyr eraill megis Amber Stamp-Dunstan, Jenny Davies, Ben Breakspear a Ben Connor, sydd eisoes yn gwneud argraff ar y llwyfan rhyngwladol.

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, mae creu’r rôl hon yn dangos eu hymrwymiad i greu dyfarnwyr o safon fyd-eang.

“Rydym yn arbennig o falch o gadarnhau penodiad Ian Davies yn dilyn proses drylwyr oedd yn cynnwys nifer o ymgeiswyr o’r radd flaenaf,” meddai Huw Bevan, Cyfarwyddwr Perfformiad yr Undeb.

“Roedd y panel penodi wedi eu plesio’n fawr gydag eglurdeb a gweledigaeth glir Ian am ei syniadau i ddatblygu dyfarnwyr elit yma yng Nghymru.

“Mae gan Undeb Rygbi Cymru hanes balch o ddatblygu dyfarnwyr ar y lefel uchaf un gyda rhai o’n cynrychiolwyr yn cael eu hystyried ymysg y gorau yn hanes y gamp.

“Mae creu rôl fydd yn canolbwyntio’n benodol ar ddyfarnwyr elit yn dangos ein hymrwymiad i barhau i ddatblygu rhai o ddyfarnwyr gorau’r byd.

“Does dim amheuaeth bod gan Ian y profiad perthnasol ar gyfer y swydd ac rwy’n gwybod ei fod yn edrych ymlaen yn eiddgar at fwrw’r maen i’r wal.

“Mae wedi ymrwymo i adeiladu ar y seiliau cadarn sydd eisoes wedi eu gosod i adnabod, datblygu a chefnogi dyfarnwyr y dyfodol fel y gallan nhw gyrraedd y gemau mawr ar y llwyfan mawr.”

Traddodiad o ddyfarnu yng Nghymru

Parhau i gryfhau enw da dyfarnwyr Cymru ymhellach ym mhedwar ban y byd fydd un o flaenoriaethau Ian Davies.

“Mae rhai o enwau chwedlonol y byd dyfarnu dros y blynyddoedd wedi bod yn Gymry – pobol fel Clive Norling, Derek Bevan a Nigel Owens – ac un mlynedd ar hugain yn ôl, bu Nigel Williams yn dyfarnu yng Nghwpan y Byd hefyd.

“Rydyn ni nawr yn dechrau gweld ffrwyth llafur gwaith Paul wrth i Ben Breakspear a Ben Connors greu argraff – felly beth am wneud popeth allwn ni i roi’r cyfle iddyn nhw geisio efelychu yr hyn wnaeth Nigel Owens yn ystod ei yrfa.

“Os allwn ni wneud i ddyfarnu apelio at y genhedlaeth iau, fe fyddwn ni’n elwa ar hynny’n sylweddol yn y dyfodol.”